Christ a arwyddocawyd wrth y sarph Bres.
Y Sawl y frathwyd gan y ddraig,
Dewch at Grist Jesu, Had y wraig,
Fe drin y brath, fe dynn y colyn,
Fe rwym y ddraig, fe siga ei chobyn.
Rym ni bob rhai gwedi 'n brathu,
Mae col pechod gwedi 'n gryddfu:
Ni all ond Christ ein helio,
Fe yw'r Sarph bres, craffwn arno.
Craffwn ar Ghrist a groes-hoeliwyd,
Fel y craffei 'r rhai a frathwyd,
Ar y Sarph bres yn y diffaith,
Fe a'r loes a'r gwenwyn ymmaith.