Galwad ir annychweledig idroi a byw, Derbyn trugaredd tra byddo trugaredd iw chael fel y myn nynt gael trugaredd yn nydd eucyfyngder. Oddiwrth y Duw byw. / Trwy ey wâs ennheilwing Richard Baxter.

About this Item

Title
Galwad ir annychweledig idroi a byw, Derbyn trugaredd tra byddo trugaredd iw chael fel y myn nynt gael trugaredd yn nydd eucyfyngder. Oddiwrth y Duw byw. / Trwy ey wâs ennheilwing Richard Baxter.
Author
Baxter, Richard, 1615-1691.
Publication
Printiedig yn Llundain :: tros Edward Brewster ac ydyntiw cael tan Lûn y Chryhir ym mynwent Paul,
1659.
Rights/Permissions

To the extent possible under law, the Text Creation Partnership has waived all copyright and related or neighboring rights to this keyboarded and encoded edition of the work described above, according to the terms of the CC0 1.0 Public Domain Dedication (http://creativecommons.org/publicdomain/zero/1.0/). This waiver does not extend to any page images or other supplementary files associated with this work, which may be protected by copyright or other license restrictions. Please go to http://www.textcreationpartnership.org/ for more information.

Subject terms
Conversion -- Christianity -- Early works to 1800.
Cite this Item
"Galwad ir annychweledig idroi a byw, Derbyn trugaredd tra byddo trugaredd iw chael fel y myn nynt gael trugaredd yn nydd eucyfyngder. Oddiwrth y Duw byw. / Trwy ey wâs ennheilwing Richard Baxter." In the digital collection Early English Books Online 2. https://name.umdl.umich.edu/B01524.0001.001. University of Michigan Library Digital Collections. Accessed May 22, 2024.

Pages

Page 174

Y Hyfforddiad 1.

OS mynnech chwi fôd yn ddychweledic ac yn gadwedic, gwnewch eich goreu a'r ddeall angenrheidrwydd a gwir naturi∣neth Dychweliad: Am ba beth, oddiwrth ba beth, at ba beth a thrwy ba beth y mae yn rhaid i chwi ddychwelyd,

Ystyriwch ym mhâ gyflwr gresynol yr y∣dych hyd awr eich Troedigaeth, fel y canffy∣ddoch nad yw efe gyflwr i orffywys yntho. Yr ydych chwi tan euogrwydd yr holl becho∣dau a bechasoch erioed; a than ddigofaint Duw, a melltith ei gyfraith; Yr ydych yn gaethweision ir Cyhraul, ac yn gwneuthur ei waith ef beunydd, yn erbyn yr Arglwydd ac yn eich erbyn eich hunain ac eraill. Meir∣won ydych ac anhardd yn ysprydol, megis yn weigion o fywyd sanctaidd, a natur a de∣lw yr Arglwydd. Yr ydych yn anghmw∣ys y ddim gorchwyl sanctaidd: ac heb wneu∣thur dim ar sydd yn gwir ryngu bodd i Dduw. Yr ydych heb un addewid na siccr∣wydd oi nodded ef, ac yn byw mewn gwastadol berygl o'i gyfiawnder ef, heb wy∣bod pa awr y cippir chwi ymaith i Vffern, ac yn ddigon siccr i fôd yn ddamnedic os byddwch feirw yn y cyflwr hwnnw. Ac ni eill dim â fo yn fyrr o droedigaeth mo'i rag∣flaenu. Pa weddeidd-dra, neu wellhâd neu ti niau bynnag sy 'yn fyrr o wir ddychweliad ni pharant byth ich eneidiau fôd yn gadwe∣dic

Page 175

deliwch gywir deimlad or trueni anian∣ol hwn, ac felly o angenrheidrwydd Troed∣igaeth ar eich calonnau.

Ac yno mae 'n rhaid i chwi ddeall beth ydyw bôd wedi dy chwelyd: Bôd â chalon neu dueddfryd newydd yw 'r peth, a bôd ac ymarweddiad newydd.

Gwest. Am ba beth y mae yn rhaid i chwi Ddychwelyd?

Atteb. O ran y dibennion hyn sy 'yn car∣lyn, y rhai â ellwch chwi eu cyrraed. 1 Chwi â wneir yn ebrwydd yn aelodau bywiol i Grist, ac â gewch hawl yntho, ac â adnew∣yddir yn ôl delw Dduw, a'ch harddu âi holl radau ef, ach byw occau à bywyd newydd a nefol, ach cadw rhag creulonder y Satan, a llywodraeth pechod, ach cyfiawnhau oddi∣wrth felltith y gyfraith a chael pardwn o'ch holl bechodau eich holl einioes, a bôd yn gwmmeradwy gan Dduw, ach gwneuthur yn feibion iddo ef, ac a gewch rydddid trwy hyfdra iw alw ef yn dad, ac i gyrchu atto mewn gweddi yn eich holl anhenuion, ac i chwi addewid o gael eich derbyn; Chwi a gewch r Yspryd Glan i breswylio ynoch, ich sancteiddio a'ch cyfarwyddo, Chwi a gewch ran yn y brawdoliaeth, cymmundeb a gweddiau 'r Sanct. Chwi a gewch eich cymhwyso i wasanaeth Duw, a'ch rhyddhau oddiwrth Lywodraeth pechod, a bod yn wasaneuthgar ac yn fendith yngfangre lle boch yn byw; Chwi a gewch yr addewid or bywyd hwn ac or hwn fyddi i ddyfod. Ni bydd arnoch ddiffyg dim ar sydd yn wir dda i chwi, chwi a wneir hefyd yn abl i

Page 176

oddef eich holl gystuddiau arghenrhaid; Chwi a ellwch gaffael peth prawf o gymun∣deb gyda Duw yn yr Yspryd, yn enwedic yn yr holl Odinhadau sanctaidd, lle mae Duw yn arlwyo gwlêdd ich eneidiau; Chwi a gewch fôd yu etifeddion y nef tra fyddoch byw ar y ddaiar, ac â ellwch trwy ffydd rag∣weled y gogoniant tragywyddol, ac felly y gellwch fyw a marw mewn tangnheddyf, ni byddwch chwaith byth cyn ised, na byddo eich dddwyddwch yn anfeidrol mwy nach trueni.

Mor werthfawr yw pob un or bendithion hyn, y rhai yr wyfi yn eu henwi ar fyrr, ac a ellwch chwithau eu derbyn yn y bywyd hwn!

Ac yno 2. wrth farw eich eneidiau â gânt fyned at Ghrist, a dydd y farn yr enaid ar Corph â gânt eu cyfiawnhau ai gogone∣ddu, a myned i mewn i lawenydd eich mei∣str; lle byddo eich dedwyddwch yn sefyll yn y pethau neulltuol hyn.

1. Chwy chwi eich hunain a berpheith∣ir; Eich cyrph morwol â wneir yn anfar∣wol, ar llygredig a wisg anllygredigaeth; Ni byddwch chwi mwyach yn newy∣nog, nac yn sychedig, nag yn lludde∣dig nac yn gleifion: Nid rhaid chwaith i chwi ofni na chwilydd, na thristwch, nac angeu, nac Vffern. Eich enei∣diau â berphaith ryddheir oddiwrth bechod ac a berphaith gymhwysir i adnabod a charu a moliannû yr Arglw∣ydd

2. Eich gorchwyl a fydd edrych ar

Page 177

eich gogoneddedic Bryniawdwr, ynghyd ach holl sancteiddlân gyd ddinasyddion y nef, oedd, a gweled gogoniant, y ben∣digediccaf Dduw, ai garu ef yn berphaith a chael eich caru gantho ef, ai glodfori yn dragywydd.

3. Eich gogoniant â gyfranna i ogo∣niant y Gaersalem newydd, Dinas y Duw byw, yr hyn sydd fwy na chael dedwyddwch neulltuol i chwi eich hu∣nain.

4 Eich gogoniant a gyfranna i ogo∣neddu eich Prynwr, yr hwn a fawrheir ac a ymfodlonir ynoch hyd tragywyddol∣deb y rhai ydych lafur ei enaid ef, a hyn sydd fwy na'ch gogoneddiad eich hunain.

5 Hefyd, tragywyddol fawrhydi y Duw byw â ogoneddir yn eich gogoni∣ant chwi: Yn gystal megis ac y mawr∣hygir ef trwy eich gwaith yn moliannu, ac megis ac y mae ef yn cyfraneu oi ogoniant ai ddaioni i chwi, ac megis ac y mae ef yn ymfodloni ynoch, ac ynghy∣flowniad ei weithredoedd gogoneddus, y'ngogoniant y Gaersalem newydd ai fâb.

Hyn oll a gaiff y carddttyn gwaelaf o¦ho∣noch ar sydd wedi Troi, ei fwynhau yn siccr ac yn ddiddiwedd.

2. Chwi â welwch am ba beth y rhaid i chwi ddychwelyd: Yn y man nesaf rhaid ywch ddeall, oddiwrth ba beth y mae yn rhaid i chwi ddychwelyd; hynny hefyd sydd, (mewn u gair)

Page 178

oddiwrth eich Hunan-cnawdol, yr hwn yw diben yr holl rai Annychweledic, Od∣diwrth y cnawd yr hwn a fynneu ei fodhau o flaen Duw, ac a fynneu yn oestadol eich denu i hynny. Oddiwrth y byd yr hwn yw 'r abwyd: Ac oddiwrth y Cythraul yr hwn yw Genweiriwr yr eneidiau, a'r twyllwr. Ac felly oddiwrth bôb pechod gwybyddus a gorphwyllog.

3 Yn y man nesaf rhaid i chwi wybod. At ba beth y mae yn rhaid i chwi ddych∣welyd: A hynny yw, At Dduw, megis eich diben: At Grist megis y ffordd at y Tad: At Sancteiddrwydd megis y ffordd osodedic i chwi gan Grist. Ac felly at yr arferiad o holl gymorthwyon a moddion Gras a ganniatteir i chwi gan yr Argl∣wydd.

4 Yn olaf, rhaid ywch wybod Trwy ba beth y mae yn rhaid i chwi ddychwelyd. Hynny hefyd yw, trwy Grist megis yr unig B ynwr ar Eiriolwr; A thrwy yr Yspryd Glan megis y Sancteiddiwr; A thrwy y Gair megis yr offeryn neu'r moddion; A thrwy ffydd ac edifeirwch megis y moddion a'r dyledswyddau o'ch rhan chwi∣rheu iw cyflowni. Hyn oll sydd yn angen∣chaid.

Do you have questions about this content? Need to report a problem? Please contact us.