Galwad ir annychweledig idroi a byw, Derbyn trugaredd tra byddo trugaredd iw chael fel y myn nynt gael trugaredd yn nydd eucyfyngder. Oddiwrth y Duw byw. / Trwy ey wâs ennheilwing Richard Baxter.

About this Item

Title
Galwad ir annychweledig idroi a byw, Derbyn trugaredd tra byddo trugaredd iw chael fel y myn nynt gael trugaredd yn nydd eucyfyngder. Oddiwrth y Duw byw. / Trwy ey wâs ennheilwing Richard Baxter.
Author
Baxter, Richard, 1615-1691.
Publication
Printiedig yn Llundain :: tros Edward Brewster ac ydyntiw cael tan Lûn y Chryhir ym mynwent Paul,
1659.
Rights/Permissions

To the extent possible under law, the Text Creation Partnership has waived all copyright and related or neighboring rights to this keyboarded and encoded edition of the work described above, according to the terms of the CC0 1.0 Public Domain Dedication (http://creativecommons.org/publicdomain/zero/1.0/). This waiver does not extend to any page images or other supplementary files associated with this work, which may be protected by copyright or other license restrictions. Please go to http://www.textcreationpartnership.org/ for more information.

Subject terms
Conversion -- Christianity -- Early works to 1800.
Cite this Item
"Galwad ir annychweledig idroi a byw, Derbyn trugaredd tra byddo trugaredd iw chael fel y myn nynt gael trugaredd yn nydd eucyfyngder. Oddiwrth y Duw byw. / Trwy ey wâs ennheilwing Richard Baxter." In the digital collection Early English Books Online 2. https://name.umdl.umich.edu/B01524.0001.001. University of Michigan Library Digital Collections. Accessed May 22, 2024.

Pages

Defnydd

Page 65

YR wyfi yn awr yn atolwg i ti yr hwn wyt bechadur annychweledic ar a wyt yn clywed y geiriau hyn, ar i ti fy fyrio ychy∣dic ar yr Athrawiaethau a grybwyllwyd or blaen; ath ystyried dy hûn tros er cyd, pwy yw yr hwn sydd yn ymhyfrydu yn dy bechod ath ddamnedigaeth? Diammau nad Duw: Efe oi ran ei hun a dyngodd nad yw yn ym∣hoffi yntho. Ac mi a wn nad rhyngü bôdd iddo ef yr ydych chwithau yn i fwriadu wrth hynny Ni lefeswch chwi ddywedyd, eich bod yn yfed ac yn tyngu, ac yn esceuluso dyled∣swyddau sanctaidd, ac yn ddiffoddyd cynhyrfi∣adau yr Yspryd, i ryngu bodd Duw. Hyn∣ny oedd cymmaint a phe cablech chwi y Tywysog a thorri ei gyfreithiau, a dywedyd wneuthur o¦honoch hyn oll i ryngu bodd iddo.

Pwy gan hynny sydd yn ymhoffi yn eich pechod ach marwolaeth? Nid oes neb at sy'u dwyn delw Dduw ano: Am fod yn rhaid iddynt hwy fod or ûn feddwl ac ef. fe ai gwyr Duw nad yw ond pleser bychan ich Athrawon ffyddlon, eich gweled yn gwasa∣neuthu eich gelyn marwol, ac ynfyd anturio eich cyflwr tragywyddoll, a rhedeg yn wall∣gofus i fflammau Vffern. Nid oes ond ple∣ser bychan iddynt hwy weled ar eich enei∣diau (yn yr effeithiau gerwin) y cyfryw ddallineb a chalon gledwch a diofalwch

Page 66

a rhyfyg, y cyfryw ystyfnigrwydd mewn dry∣gioni, y cyfryw ddrwg-athrylith, a chyndyn∣rwydd yn erbyn ffyrdd bywyd a heddwch. Hwy a wyddant mai nodau angau a digof∣aint Duw yw y rhai hyn, ac hwy a wyddant allan o Air Duw pa ddilen, sydd debyg i ddyfod iddynt: Ac am hynny nid yw hoff∣ach a rongn ganthynt chwi, na chan Physy∣gwr tyner weled nodau'r pla yn torri allan ar y clâf. Och ni ragweled eich poenydiau tragywyddol, ac nas gwyddom pa fodd iw rhagflaenu; gweled negosed ydych at Vff∣ern, ac na fedrwn beri i chwi ei goelio, nai ystryried! gweled hawsed, siccr ed y gellych ddiaingc pe gwyddem pa fodd ich gwneu∣thur yn ewyllysgar decced ydych am iech∣ydwriaeth dragywyddol, pe gwnaeth ond Troi a gnewthur eich gorau, ai wneuthur yn ofal a gorchwyl eich einioes. Eithr nis gw∣newch chwi mhono; pettau am ein heini∣oes, ni fedrwn ni moch perswadio iddo. A∣studio yr ydym ddydd a nôs beth i ddywe∣dyd wrthych, ar a allo eich argyoeddi a'ch perswadio ac etto mae heb ei wneuthur. Yr ydym ni yn gosod gair Duw gar eich bron∣nau, ac yn dangos i chwi hyd yn oed y ben∣nod ar adnod lle mae yn scrifennedic nas gellwch fôd yn gadwedig oddieithr i chwi ddychwelyd; Ac er hyn yr ydym ni yn ga∣dael y rhan fwyaf o¦honoch fel y caffom chwi: Gobeithio yr ydym y credwch Air Duw er na credoch mo'n Gair ni; ac y gwnewch gyfrif o¦hono pan dangosom i chwi scrythur eglur am dáno: Ond yr ydym yn gobeithio yn ofer, ac yn

Page 67

llafurio yn ofer, o ran ûn iachawl gyfnewidiad ar eich calonnau. Ac a ydych chwi yn tybied fôd hyn yn beth hyfryd gennym ni? Llawer gwaith y gorfydd ar∣nom mewn gweddi ddirgel gwyno wrth. Dduw a chalonnau trymion. [Och Ar∣glwydd, ni a lefarasom wrthynt yn dy e∣nw, eithr ni wnaethant gyfrif o¦honem; mynegasom iddynt yr hyn yr wyt ti yn i be∣ri i ni fynegi iddynt ynghylch embyd∣rwydd stât annychweledic, ond ni choe∣liant mhonom ni. Ni a fynegasom iddynt ddarfod i ti dystiolaethu; nad oes heddwch ir annuwiol, Esay. 57.21. Eithr prin y coelia y gwaethaf o¦honynt oll eu bod yn annuwi∣ol. Nyni a ddangosasom dy Air lle y dywe∣daist, os byw fyddant yn ôl y cnawd, meirw a fyddant, Rhuf. 8.13. Gnd maent yn dywe∣dyd y credant ynot, pan na choeliant mho∣not; ac yr ymddiriedant ynot, pryd na roddaut goel ar dy Air, ar pryd y bônt yn gobeithio nad yw bygythion dy an yn wir, ac er hynny hwy a al∣want hyn gobeithio yn Nuw: Ac er i ni ddangos iddynt pa le y dywedaist, pan fyddo marw dyn drygionus, fe a ddarfu am ei obaith ef: etto ni fedrwn ni moi perswadio oddrwrth eu gobaith twyllodrus, Dih. 11.7. yr ydym ni yn mynegi iddynt pa wael-beth anfyddiol yw pechod; eithr maent hwy yn ei hoffi ac am hynny nis ymadawent ac ef. Yr ydym ni yn minegi iddynt ddrytted y maent yn prynny eu pheser yma; a pha dâl sydd yn

Page 68

rhaid iddynt roddi am¦dano mewn poenyd tragywyddol, ac hwy a ymfendithiant ac ni choeliant mhono, ond a wnnt megis ac y gwna y rhan fwyaf, ac o¦herwydd bód Duw 'n drugarog, ni chredant mhono, ond a anturiant eu heneidiau, doed a ddelo; Yr ydym ni yn mynegi iddnt barotted yw 'r Arglwydd iw derbyn, ag nid yw hyn ond peri iddynt oedi eu hedifeirwch, a bod yn hyfach yn eu pechod. Rhai o¦honynt a ddyweddant fod yn eu dryd edifachau, Eithr maent fyth or un ffuud: a rhai ddywedant, iddynt edifarbau yn barod, pryd nad ydynt etto gwe∣de dychwelyd oddiwrth eu pechodau, Ir ydym ni yn eu cynghori yr ydm yn ymymbl a hwynt, yr ydym yn cynnyg iddynt, ein cynnho¦rthwy; ond nid ydym ni yn tyccio. Eithr y sawl 'oed∣dynt feddwon ydynt feddwon etto, ar rhai oed∣dynt nwyfus gnawdol fedd faeth, ydynt felly etto, ar rhai oeddynt fydol, ydynt fydol etto; ar rhai oeddynt anwybodus a beilchion, ac yn tybied yn dda o¦honynt eu hunain, ydynt felly fyth. Nid oes nemawr o hnynt a genfydd ac a gyfaddau eu pechod; a lloi o ymwrthyd ac ef. ond ai cyssurant eu hunain fod pawb yn bechaduriad, fel pettau heb ddim rhagor rhwng y pechadur dychweledic ar annychweledic. Rhai o¦honynt ni ddônt yn ein cyfyl pan ydym ni yn ewyllyscar iw dyscu hwynt, ond tybied y maent y gwyddant ddigon yn barod, ac nad rhaid iddynt wrth ein haddysc; A rhai o¦honynt a'n gwrandawant ac a wnânt eû med∣dwl, ar rhan fwyaf o¦honynt sydd megis dynion meirwon dideimlad, fel pan fynegom iddynt bethau o bechynas tragywydol, in fedrwn ni

Page 69

gael gair at eu calonnau hwynt, Onid ufydd∣buwn ni yddynt a phorthi eu mwmpwy yn be∣dyddio plant y rhai annuwiol cyndynnaf o ho∣ynt a rhoddi iddynt swpper yr A¦glwyd, a gwneuthur cymmaint oll ar a fynnont, er maint a fytho yn erbyn gair Dduw, hwy an casânt, ac an difenwant: Ond os dymuwn ni arnynt gyffesu eu pechodau ac ymwrhod a hwynt, ac achub eu heneidiau, nis gwnânt ddinc. Yr ydym ni yn dyweyd iddynt os gwnant ond troi, na naccawn 〈◊〉〈◊〉 mhonynt o ûn o ordinhadau Duw nac or Bedydd iw plan nac o swpper yr Argl∣wydd iddn hwythau, eith ni wrandawant mhonom Hwy a fynnent i ni anûfyddhau i Dduw a damnio ein eneidiau, ein hunain i ryngu bôdd iddynt hwy, ac etto ni throant a chadw eu heneidiau i ryngu bôdd Duw. Maent yn ddoe∣thach yn eu golwg eu hunain nai hathrawon; gwallgofi y maent, ac yn hyderus yn eu ffyrdd eû hunain, ac er a wnelom, ni feawn ni moi newid. Arglwydd, hwn yw cyflwr ein cymydo∣gion trueni; ac nis gallwn ni wrtho: Ni oi gwelwn hwynt ymron diferu i Vffern, ac nis gallwn ni wrtho: Ni a wyddem pe troent hwy yn ddiffuant, y gallent fôd yn gadwedic, eithr ni fedrwn ni moi perswadio: Pettym ni yn ei erfyn ganthynt ar ein gliniau, ni fedrym moi hannog iw wneuthur. Pettym yn ei erfyn gan∣thynt trwy ddagrau ni fedrym moi hannog, a pha beth a allem ni ei wneuthur yn ychwa∣neg?

Y rhai'n yw 'r cwynion ar gruddfan∣nau y gorfydd ar lawer Gwenidog tru∣an eu gwnuthur. Ac a ydych chwi yn tybied fôd gantho efe ddim pleser yn

Page 70

hyn? Ai pleser iddo, efe eich gweled yn myned ym mlaen mewn pechod, a nad allo moch atal! eich gweled mor druein ac nad allo cymmaint a'ch gwneuthur yn de∣imladwy o¦hono. Eich gweled yn llawen, pryd nad ydych siccr o fôd ûn awr allan o Vffern! feddwl beth sydd raid yw'ch diodd∣ef, o¦herwydd na throwch? A meddwl pa fywyd tragwyddol o ogoniant ar a ddirmy∣gwch chwi yn waed wylst ac a fwriwch ym∣aith? Pa beth drymmach a ellwch chwi ddwyn ich calonnau, e pha wedd y dych∣mygwch fodd iw tristau yn fwy?

Pwy gan hynny yr ydych chwi yn ei fodd∣hau trwy eich pechod a'ch marwolaeth? Nid neb o'ch cyfeillion Duwiol deallus: Ochoch mae'n ofid ar eu heneidiau hwynt weled eich trueinî, a llawer gwaith ymaent yn gala∣ru drosoch, pan nad oes gennych fawr ddi∣olch iddynt am hynny, a phan nad oes gen∣nych galonnau i alaru eich hunain.

Pwy gan hynny sydd yn ymhyfrydu yn eich pechod? Neb ond tri gelyn mawrion Duw, ar rhai yr ymwrthodasoch yn eich Bedydd, ac y troesoch yn awr o drawster iw gwasaneuthu. Y Cythrel yn ddiau sydd yn ym¦hyfrydu yn eich pecod ach marwola∣eth. Cans hyn yw gwir ddiben ei holl brof∣edigaethau ef. Oherwydd ar hyn y mae efe yn gwilio nôs a dydd; ni ellwch chwi fed∣dwl am fôdd i ryngu bôdd iddo well, na myned rhagoch yn y pechod: Lawened yw pau welo di yn myned ir dafarn neu bechod arall? ath glywed yn rhegû neu yn tyngu neu ddifenwi? Lawened yw pan glywo

Page 71

efe di yn difenwi y Gwenidog a geisiai dy dynny oddiwrth dy becwod, ath gynnorth∣wyo ith gadw dy hûn? hyn yw ei ddyfyrr∣wch.

2 Yr annuwiol nhwythau a ymhyfrydant yntho, am ei fod yn cytuno ai naturiaeth hwynt.

3 Ond myfi awn er hyn ei gyd nad yd∣ych yn bwriadu rhyngu bôdd ir Cythrel pan ydych yn rhyngu ei fôdd. Ond eich Cnawd eich hûn, y gelyn mwyaf a pheryc∣claf, yr ych yn bwriadu rhyngu bodd iddo. Y Cnawd yw efe, yr hwn a fynnei ei dacclu a phorthi mwythau iddo mewn bwyd, diod a dillad: a fynnei ei foddhau yn eich cyfei∣llach, ai foddhau mewn molach a bri gyda 'r byd; ai foddhau mewn chwaryddiaeth, trythyllwch a seguryd: Hwn yw'r llyngclyn sy'n llyngcu y cwbl. Hwn yw'r Duw yr yd∣ych yn ei wasaneuthu (Canys yr yscrythur a ddywaid am y cyfryw, mai eu Duwiau iw eu Boliau, Phil. 3.18.

Eithr attolwg ywch aros ychydig ac ysty∣ried y peth.

1 Holiad. A ddylae eich Cnawd gael ei fodloni o flaen ei'ch Gwneuthurwr? A an∣fodlonwch chwi yr Arglwyd, ac anfodloni eich Arthrawon. e'ch cyfeillion Duwiol ac oll i fodloni eich chwantan a••••feiliaud ach dymuniadau anianawl? Ai nid yw Duw yn deilwng o fod yn Rheolwr ar eich cnawd? Oni chaiff ef ei reoli ef, ni cheidw efe mho∣no: ni ellwch chwi gyda rheswm ddisgwil iddo ei wneuthur.

2 Ho, Mae eichcnawd yn fodlō ich pechod

Page 72

eithr a yw eich cydwybod fodlon? Onid yw hi y grwgnach och mewn, ac yn dywedyd i chwi weithiau nad yw pob peth yn dda, ac nad yw 'ch cyflwr mor ddiogel ac y dangoswch ei fôd? Ac oni ddylei eich eneidiau ach cydwybodau-gael eu bodloni o flaen y cnawd llygredic yna?

3. Hol Eithr onid ydyw eich cnawd yn darparu hefyd iw anfodlondeb ei hun? Mae efe yn caru yr abwyd, eithr a yw dda, gantho y bâch? Mae 'n caru y ddiod gadarn ar tammeidian melusion, mae 'n caru ei esmwythdra, ai chwareyddiaeh ai loddest, mae 'n hoff gantho fôd yn oludog a chael gan ddynion ddywedyd yn dda am¦dano, a bód yn rhyw ûn yn y byd. Eithr a yw efe yn caru Mell∣tith Dduw? A yw hoff gantho dan gyn∣nu sefyll gar bron ei frawdle ef, a chael ei farnu i dân tragwyddol? A yw hóff gantho ei boeni bythoedd gyda'r Cy∣threiliaid? Cymerwch y cwbl ynghyd, canys nid oes gwahanieth ar bechod ac Vffern, ond yn ûnig trwy ffydd a chywir ddychwelaid. O, cedwch chwi y maill, mae 'n rhaid i chwi gael y llall. Os yw marwolaeth ac Vffern yn hyfryd ganthoch, yno nid rhyfedd os ewch ymlaen mewn pechod, eithr onid ydynt, (fel y mae yn siccr gennyf nad ydynt:) ynobeth er hyfryded y pechod, nid yw efe yn talu mor golled o fywyd, tragwyddol? A yw ychydic ddiod neu fwyd neu esmwythdra a yw têg eiriau pechaduriaid, a yw golud y byd hwn iw bisio uwch law

Page 73

llawenydd nefoedd? neu a dalant hwy ddioddef tan tragywydol hawyr, fe ddylid ystyried y Cwestiwnau hyn gan bob dyn at sydd a rheswm gantho i ystyried ac sydd yn credu fod gantho enaid iw gadw neu iw golli, cyn i chwi fyned ddim pellach

Wele mae 'r Arglwydd yn hyn o fan yn tyngu nad ydyw ef yn ymhoffi yn eich marwolaeth, ond yn hytrach ar i chwi Droi a Byw: Os ymlaen yr ewch chwi er hyn, a marw yn hytrach na throi Cofi∣wch na wnaethoch mo hynny i tyngu bôdd Duw: hynny a fu i fodloni 'r byd ac ic'h bodloni eich hunain. Ac os dynion ai dam∣nia eu hunain iw bodloni eu hunain, ac a redant i boenydiau didrangc o ran difyrr∣wch, ac nid oes ganthynt y synwyr y ca∣lonnau y Grâs i wrando ar Dduw neu ddyn ar a chwennychei eu galw hwynt yn ôl, pa help sydd! ond rhaid yw iddynt dderbyn yr hyn y maent yn ei ymull trwy hynny; ac edifarhau am¦dano mewn môdd arall pan fytho yn rhywyr. Cyn i mi fyned ddim pellach yn y cymhwysiad o hyn, mi a âf at yr Athrawiaeth nesaf, yr hon sy'n thoddi i mi arddel gyflownach or peth.

Do you have questions about this content? Need to report a problem? Please contact us.