Testament Newydd ein arglwydd Jesu Christ. Gwedy ei dynnu, yd y gadei yr ancyfiaith, 'air yn ei gylydd or Groec a'r Llatin, gan newidio ffurf llythyreu y gairiae-dodi. Eb law hyny y mae pop gair a dybiwyt y vot yn andeallus, ai o ran llediaith y 'wlat, ai o ancynefinder y devnydd, wedy ei noti ai eglurhau ar 'ledemyl y tu dalen gydrychiol.

About this Item

Title
Testament Newydd ein arglwydd Jesu Christ. Gwedy ei dynnu, yd y gadei yr ancyfiaith, 'air yn ei gylydd or Groec a'r Llatin, gan newidio ffurf llythyreu y gairiae-dodi. Eb law hyny y mae pop gair a dybiwyt y vot yn andeallus, ai o ran llediaith y 'wlat, ai o ancynefinder y devnydd, wedy ei noti ai eglurhau ar 'ledemyl y tu dalen gydrychiol.
Publication
Imprinted at London :: by Henry Denham, at the costes and charges of Humfrey Toy, dwelling in Paules church yarde, at the signe of the Helmet.,
Anno. 1567. Octob. 7.
Rights/Permissions

To the extent possible under law, the Text Creation Partnership has waived all copyright and related or neighboring rights to this keyboarded and encoded edition of the work described above, according to the terms of the CC0 1.0 Public Domain Dedication (http://creativecommons.org/publicdomain/zero/1.0/). This waiver does not extend to any page images or other supplementary files associated with this work, which may be protected by copyright or other license restrictions. Please go to http://www.textcreationpartnership.org/ for more information.

Cite this Item
"Testament Newydd ein arglwydd Jesu Christ. Gwedy ei dynnu, yd y gadei yr ancyfiaith, 'air yn ei gylydd or Groec a'r Llatin, gan newidio ffurf llythyreu y gairiae-dodi. Eb law hyny y mae pop gair a dybiwyt y vot yn andeallus, ai o ran llediaith y 'wlat, ai o ancynefinder y devnydd, wedy ei noti ai eglurhau ar 'ledemyl y tu dalen gydrychiol." In the digital collection Early English Books Online 2. https://name.umdl.umich.edu/B00935.0001.001. University of Michigan Library Digital Collections. Accessed May 23, 2024.

Pages

❧Pen. xxvij

Mor peryglus vu taith Paul ai gyfeillion parth a Ruuein. Pa wedd a' pha le ei tiriasont.

GWedy daroedd yddynt gytvarny, y ni hwylio ir Ital, hwy a roðe∣sant bob un Paul, a'rryw garcha∣rorion ereil at Gānwriat aei enw Iulius o gatyrva Augustus. A' dringo a wnaethom i long o A∣dramyttium ar vedr hwyliaw ar

Page [unnumbered]

dueðae yr Asia, ac a dynasō ymaith, ac Aristarchus or Macedonia o vvlad Thessalonia, oedd gyd a ni. A'r dydd nesaf y tiriesam yn Sidon: ac Iulius a ymdduc yn ddyngar wrth Paul, ac a roes iðaw ryðdit i vynet at ei gereint, y gahel ced ganth∣wynt. Ac o ddyno y moriesam, ac yr hwyliesam eb law Cyprus, erwydd bot y gwyntoedd yn wrth∣wynep. A' gwedy traweny o hanam dros y mor ger llaw Cilicia ac Pamphylia, a' dyvot i Myra, dinas yn Lycia: ac yno cahel or Cannwriat long o Alexandria, yn hwyliaw ir Ital, ac a'n gosodes ynthei. A' gwedy y ni hwyliaw yn llusgenaidd dros lawer o ddyddiae, ac o vraidd dyvot gar llaw Gnidum, can vot y gwynt in lluddiaw, hwylio a wnaetham yn-goror Candi, gar llaw Sal∣mone, ac o vreidd yr hwyliesam hebddei, ac a dda∣etham i ryw le elwit y Porthlaðoeð prydverth, ac yn gyfagos iddaw ydd oedd dinas Lasaia. Velly wedy cerddet llawer o amser, ac yn awr bot mo∣riaw yn periclus, can ddarvot hefyd amser yr vmpryt, Paul y cygcorawdd hvvy, gan ddywedyt wrthynt, Ha-wyr, mi welaf y byð yr hynt hon gyd a sarhaed ac eniwed mawr, nid am y llwyth a'r llong yn vnic, anid am ein eneidiae hefyt. Er hy∣ny y gyd mw y credei y Cannwriat ir llywydrae∣thwr a'r llong-lywydd na' ar pethae y ddywedesit gan Paul. A' phryt nad oedd y porthladd yn aðas y 'ayafy yntho, llawer a gymersont yn ei cygor, voriaw o ddyno a's gallent mewn ryw vodd ddy∣vot hyd yn Phoinice a' gayafy yno, yr hwn 'sy por thladd yn-Candi, ac y'sydd ar gyfor Deau-'orlle∣wyn

Page 218

a'r Gogledd 'orllewin. A' pan chwythawð awel vach o ddeheuwynt, wyntwy yn tybieit caffa∣ei pwrpos, a ddatdodesont i Asson, ac a hwy∣liasont eb law Candi. Eithyr cyn pen ne-mawr o amser, e gyvodes yn ei hemyl rhyvelwynt y elwir Euroclydon. A' phan attelit y llong, ac na allai wrthladd y gwynt, niadawsam yddi borthi yr or, ac in arweddwyt ymaith. A' gwedi yni re∣dec goris ynys vach a elwit Clauda, braidd y ga∣llesam gahel ir bad, yr hwn a dderchafesont i vy∣ny, ac arveresont o bob canhorthwyon, gan gyl∣chy y llong o ddydenei, ac ofny a wnaethāt rac syr thio mewn Syrtis, a gadael y llestr i waeret, ac velly y ducpwyt hwy. A'r dydd nesaf gwedy cyvo∣di morgymladd ddirvawr arnam, y diyspydde∣sont wy yr llong: a'r trydydd dydd y bwriesam an dwylaw ein hunain daclae y llong allan o hanei. Ac pryd na welit na'r haul na'r ser dros liaws o ddyddiae, a' thempestl nyd bychan oedd ar ein gwartha, ys daroedd trosgwyddo oll 'obeith by∣wyt o ddyarnam. Eithyr yn ol hir ddirwest, y safodd Paul yn y canol hwy, ac a ðyvot, Ha-wyr, chvvi ðylysech wrandaw aruavi a'pheidio a dat∣dot o ywrth Cādi, ac yno y diēgesech rac y sarhaed a'r gollet yma. Ac yr awrhon ydd eiriolaf arnoch vod yn dda ei cyssir: can na chollirvn map eneit dyn o hanoch, amyn y llong yn vnic. Can ys safawdd gar vy llaw y nos hon Angel Dew, yr hwn am piae, ac ydd wyf yn ei wasanaethy, gan ddywedyt, Nac ofna Paul: can ys dir yw dy ðwyu gerbron Caisar: a' nachaf y rhoddes Dew yty yr oll rei

Page [unnumbered]

'sydd yn moriaw gyd a thi. O bleit paam, ha-wyr, byddwch lew-eich-calon, can ys credaf Ddew, mae velly y bydd yn y moð ac y dywetpwyt ymy. Eithyr dir yw ein tavly i nebun ynys. A' gwedy dyvot y petwaredd nos ar ddec, mal ydd oeddem yn bwhwman yn y mor Adrial yn-cylch haner nos, y tybrawdd y morinwyr nesau o ryw wlat ydd wynt, ac a sowndiasont, ac ei cawsont yn vcain 'wrhyd o ddyfnder: a' gwedy myned y chydic pellach, sowndio drachefn a wnaethant a' ei gael yn pemp∣thec 'wrhyd. Ac wy yn ofny rac syrthio mewn ryw leoedd geirwon, bwrw a wnaethant pedair an∣cor allan o'r parth-ol-ir-llong, gan ddamunaw gwawrio o'r dydd. Ac mal ydd oedd y llongwyr yn ceisiaw ffo allan o'r llong, a' gwedy gellwng bad i wared ir mor, mal petyssent ar veidr bwrw anco∣rae all an o'r pen-blaen ir llong, y 'syganei Paul wrth y Cannwriat ar milwyr. A' ddieithyr ir ei hyn aros yn y llong. ny ellw-chwi vot yn gad∣wedic. Yno y torawdd y milwyr raffae yr bat, ac y gadaosont yddaw ddygwyddaw ymaith. A' gwedy dechrae y bot hi yn ddydd, yr eiriolawdd Paul ar bawp gymeryt bwyt, gan ddywedyt, Llyma 'r pedwerydd dydd ar ddec ydd arosoch, ac y parhaesoch yn ymprydiaw, eb gymeryt ddim llunieth. Am hyny yð eiriolaf arnoch gymeryt bwyt: can ys lly'ma eich iechyt: o bleit ny ddygwydd vn blewyn y ar ben yr vn o hanoch. A' gwedy iddaw ddywedyt hynn, y cymerawdd vara, ac y diolchawð i Ddew, yn-golwc pavvp oll, ac ei dry∣lliawdd, ac a ddechreawdd vwyta. Yno y siriod pawp, ac y cymersont vvythe vwyt hefyt Ac ydd

Page 219

oedd o hanam y gyd oll yn y llong ddaucant, tri∣vgain ac vn ar pemthec o eneidiae. A' gwedy daro∣edd yddynt vwyta digon, yr yscafnhasont y llōg, gan vwrw yr gwenith allan ir mor. Ac pan ytoedd hi ddydd, nid adnabuont wy yr tir, ac hwy gā∣vuesont ryw ebach a' thorlan iddaw, ir lle y meðyliesant (a's gallent) wthio yr llong y mewn. Ac wedy yddwynt dderchafy yr ancorae, y ma∣ddeuesont y llong ir mor, ac y gellyngesont yn rhydd rwymeu y llyw, ac y dyrchafasont y lliein-hwyl parth ar gwynt, ac a dynnasont ir 'lann. A' gwedy dygwydo o h&wynt mewn lle dauvor-gyhvvrdd, y gwthiasont y llong y mewn: a'r pen-blaen-iddei a lynawdd eb allu ei sylfyd, a'r penn-ol a ymoascarawdd gan nerth y tonnae. Yno cy∣or y milwyr oedd lladd y carcharorion, rac bot ir vn o hanynt, wedy nofio ir 'lan, ffo ymaith. Eithyr y Cannwriat yn ewyllysio cadw Paul, ei gohar∣ddawdd ywrth y cygcor hvvn, ac a 'orchymynodd i ei vedrent nofiaw, ymvwrw ir mor yn gyntaf, a' myned allan ir tir: ac bot ir lleill, 'rei ar esty∣llot, ac ereill ar ryw ddrylliae o'r llong: ac velly y darvu, dyvot o bawp oll ir tir yn ddiangol.

Notes

Do you have questions about this content? Need to report a problem? Please contact us.