YR ARGVMENT.
CHrist, gwedy ei escenniat, a gwplaodd ei addeweidion y'w Apostolieit, ac a ðanuonawdd yddwynt yr Yspryt glan, gan ddangos wrth hynny, nad oedd ef yn vnic yn vevyr am ei Eccles, anyd hefyt y byddei yn ben arnei, ac yn gyn∣naliwr yddei yn dragyvyth. Yn yr hyn hefyt yr ymddengys y alluawc veddi∣ant ef, yr hwn, cyd bot i Satan a'r byt wrthladd yn vwyaf ac allent y gwaith ardderchawc hyn, er hyny trwy ychydic o wyr * 1.1 syml digymeriat, e a gyflanwodd yr oll vyt a son ei E∣uangel. Ac yma yn-dechreu yr Eccles, ac yn ei chynnyddiat, y gallwn ddyally yn eglaer y gwaith a'r malis y arverei Sa∣tan yn wastat y ðarestwng, ac y drancwyddo'r Euangel: efe gyvyt vrad, a' chynllwyn, cyffro, ac ymlid, sclandr a' phop ryw graulonedd. Trachefn, ni a gawn weled yma rhachmia∣eth Dew, yr hwn a ddymchwyl arvaethae ac amcaneu ei 'elynion, ac a ymwared ei Eccles y rhac cynðaredd y ‡ 1.2 traws lywyawdwyr, e a nertha, ac y ariala yr ei yddo ef yn ddewr∣ddrud