❧Pen. xxj
Christ yn ymddangos yw ddiscipulon drachefyn. Ef yn gor∣chymyn i Petr yn ddirfing ae o brysur borthi y ddeueit ef Ef yn ei rubuddiaw ymblaen o ei varwolaech. Ac am am∣ryw wyrthiae Christ.
GWedy 'r pethe hyn yr ymðangosoð yr Iesu drachefyn yw ddiscipulon wrth vor Tiberias: ac vellyn yr ymddangosawdd ef. Yr oedd yn∣ghyt Simon Petr, a' Thomas, yr hwn a elwit Didymus, ac Na∣thanael o Cana yn-Galilaia, a' meibion Zebedaius, a' dau eraill o'i discipulon. Si∣mon Petr a ddyvawt wrthynt, Mi af i pyscota. Wythe a ddywedesont wrthaw. A' nine awn gyd a thi. Wy aethant ymaith, ac a escenesont i'r llong eb oludd, a'r nos hono ny ddaliesont vvy ddim. Ac yr owon wedy dyvot y boreu, y savawdd yr Iesu ar y 'lan: ny wyddiat hagen y discipulon mai y ve oeð yr Iesu. Yno y dyvot yr Iesu wrthynt