Testament Newydd ein arglwydd Jesu Christ. Gwedy ei dynnu, yd y gadei yr ancyfiaith, 'air yn ei gylydd or Groec a'r Llatin, gan newidio ffurf llythyreu y gairiae-dodi. Eb law hyny y mae pop gair a dybiwyt y vot yn andeallus, ai o ran llediaith y 'wlat, ai o ancynefinder y devnydd, wedy ei noti ai eglurhau ar 'ledemyl y tu dalen gydrychiol.

About this Item

Title
Testament Newydd ein arglwydd Jesu Christ. Gwedy ei dynnu, yd y gadei yr ancyfiaith, 'air yn ei gylydd or Groec a'r Llatin, gan newidio ffurf llythyreu y gairiae-dodi. Eb law hyny y mae pop gair a dybiwyt y vot yn andeallus, ai o ran llediaith y 'wlat, ai o ancynefinder y devnydd, wedy ei noti ai eglurhau ar 'ledemyl y tu dalen gydrychiol.
Publication
Imprinted at London :: by Henry Denham, at the costes and charges of Humfrey Toy, dwelling in Paules church yarde, at the signe of the Helmet.,
Anno. 1567. Octob. 7.
Rights/Permissions

To the extent possible under law, the Text Creation Partnership has waived all copyright and related or neighboring rights to this keyboarded and encoded edition of the work described above, according to the terms of the CC0 1.0 Public Domain Dedication (http://creativecommons.org/publicdomain/zero/1.0/). This waiver does not extend to any page images or other supplementary files associated with this work, which may be protected by copyright or other license restrictions. Please go to http://www.textcreationpartnership.org/ for more information.

Cite this Item
"Testament Newydd ein arglwydd Jesu Christ. Gwedy ei dynnu, yd y gadei yr ancyfiaith, 'air yn ei gylydd or Groec a'r Llatin, gan newidio ffurf llythyreu y gairiae-dodi. Eb law hyny y mae pop gair a dybiwyt y vot yn andeallus, ai o ran llediaith y 'wlat, ai o ancynefinder y devnydd, wedy ei noti ai eglurhau ar 'ledemyl y tu dalen gydrychiol." In the digital collection Early English Books Online 2. https://name.umdl.umich.edu/B00935.0001.001. University of Michigan Library Digital Collections. Accessed May 18, 2024.

Pages

❧Pen. ij

Christ yn iachay yr dyn o'r parlys. Ef yn maddae pechota, Ef yn galw Leui yr amobrydd. Ef yn bwyta gyd a phe∣chaturieit. Ef yn escuso ei ddiscipulon, am vmprydio a' chadw'r dydd Sabbath.

GWedy ychydic ddyddiae, ef aeth y mewn i Capernaum dragefyn, ac a glypwyt y vot ef yn tuy. Ac yn y man, yr ymgasclent llawer ygyt yd na anen mwyach, nac yn y lloedd wrth y drws: ac ef a prece∣thawdd y gair yddwynt. Yno y daeth attaw 'r ei yn dwyn vn claf o'r parlys, a ddygit y gan petwar. A' phryt na allent ddyvot yn nes ataw gan y dorf, didoï y to a wnaethāt lle ydd oedd ef: a' gwedy yddwynt ei gloddio trw∣yddaw, y gellyngesont y lawr vvrth raffe y glwth yn yr hwn y gorweddei'r dyn a'r parlys arnaw. A' phan weles yr Iesu y ffydd wy, y dyvot wrth y claf o'r parlys, ha Vap, maddeuwyt yty dy pecho∣tae. Ac ydd oedd yr ei o'r Gwyr-llen yn eistedd yno, ac yn ymresymy yn ei calonae, Paam y dywait hwn gyfryw gabl? pwy a ddygon vaddae pecho∣tae any Duw y hun? Ac yn ebrwydd pan wybu

Page 52

'r Iesu yn ei yspryt, yddwynt veddwl val hyn yn∣thyn y unain, y dyvot wrthynt, Pa 'r a ymrysymy ydd ych ar y pethae hyn yn eich calonae? Pa vn hawsaf ai dywedyt wrth y claf o'r parlys, Maðeu∣wyt yty dy pechote? ai dywedyt, Cyvot, a' chymer ymaith dy lwth a' rhodia? Ac val ygwypoch, vot i vap y dyn awturtot yn y ðaiar i vaðae pechotae (eb yr ef wrth y claf o'r parlys) Wrthyt y dywedaf, cyfot, a' chymer ymaith dy 'lwth, a' thynn ffwrð ith duy dy vn. Ac yn y man y cyfodes, ac y cymerth ei 'lwth ymaith, ac aeth allan yn y gwydd wy oll, yn y sannawdd a'r bawp, a' gogoneðy Duw, gā dywedyt, Er ioed ny welsam ni cyfryw beth.

¶Yno ydd aeth ef drachefyn parth a'r mor, a'r oll popul a dynnawdd ataw, ac ef a ei dyscawdd hvvy. Ac val ydd aeth yr Iesu heibio, ef a' welawð Levi vap Alphaeus yn eistedd wrth y ‡ dollfa, ac a ddyvot wrthaw, dylyd vi. Ac ef a godes, ac ei dy∣lynawdd ef.

Ac e ddarvu a'r Iesu yn eistedd i vwyta yn y duy ef, Publicanieit lawer, a' phechaturieit a eistedde∣sont a gyd a'r Iesu, a' ei ddiscipulon: can ys yr oeð llawer ac yn y ðylyn ef. A' phan welawð y Gwyr∣llen a'r Pharisaieit, y dywedesont wrth ei ddisci∣pulon ef, Paam yw iddaw vwyta ac yfet y gyd a' Publica not a' phecaturieit? A' phan ey clypu 'r Iesu ef a ddyvot wrthynt, Nid rait ir ei iach wrth y meddic, amyn i'r clefion. Ny daethy mi y alw 'r ei cyfion, amyn y pechaturieit i edifeirwch. A' discipulō Ioan a'r Pharisaieit y ymprydynt, ac a ddaethant ac a ddywedesont wrthaw, Paam yr

Page [unnumbered]

vmpridia discipulō Ioan ar ei y Pharisaieit athrei di eb vmprydio? A'r Iesu a ddyvot wrthynt, A eill plant yr ystafell-briodas vmpridiaw, tra vo'r Pri∣awt cyd a hwy? tra vo'r Priawt y canthwynt, ny's gallant vmprydiaw. Ac ys daw'r dyðiae pan ðycer y Priawt y canthynt, ac yno ydd vmprydiant yn y dyddiae hyny. Hefyt ny wnia nep lain o vrethyn newydd mewn gwisc hen: ac anyd ef y llain ne wydd a dyn ymaith y cyflawnder y gan yr hen, a gwaeth vydd y rhwygiat. Ac ny ddyd nep win uewydd mewn llestri hen: ac anyd e y gwin ne∣wydd a ddryllia 'r llestri, a'r gwin a gerdd allan, a'r llestri a gollir: eithyr gwin newydd a ddodi mewn llestri newyddion.

Ac e ddarvu ac ef yn myned trwy'r yd ar y dydd Sabbath, vot ei ddiscipulon wrth ymddaith, yn dechrae tyny 'r tywys. A'r Pharisaieit a ddywe∣desont wrthaw, Nycha, paam y gwnant ar y dydd Sabbath, yr hyn nyd cyfroithlon? Ac ef a ðy∣vot wrthynt, A ny ddarllenesoch er ioed pa beth awnaeth Dauid, pan oedd arno eisie, a' newyn, efe, a'r ei oedd gyd ac ef? Po'dd yr aeth ef i duy Dduw yn-dyddiae Abiathar yr Archoffeiriat, ac y bwytaodd y bara dangos, yr ei nyd cyfreithlon ei bwyta n'amyn ir Offeiriait yn vnic, ac ei rhoes hefyd ir ei oedd gyd ac ef? Ac ef a ðyvot wrthwynt, Y Sabbath a wnaed er mvvyn dyn, ac nyd dyn er mvvyn y Sabbath. Erwydd paam Map y dyn 'sy Arglwydd ac ar y Sabbath.

Notes

Do you have questions about this content? Need to report a problem? Please contact us.