Testament Newydd ein arglwydd Jesu Christ. Gwedy ei dynnu, yd y gadei yr ancyfiaith, 'air yn ei gylydd or Groec a'r Llatin, gan newidio ffurf llythyreu y gairiae-dodi. Eb law hyny y mae pop gair a dybiwyt y vot yn andeallus, ai o ran llediaith y 'wlat, ai o ancynefinder y devnydd, wedy ei noti ai eglurhau ar 'ledemyl y tu dalen gydrychiol.

About this Item

Title
Testament Newydd ein arglwydd Jesu Christ. Gwedy ei dynnu, yd y gadei yr ancyfiaith, 'air yn ei gylydd or Groec a'r Llatin, gan newidio ffurf llythyreu y gairiae-dodi. Eb law hyny y mae pop gair a dybiwyt y vot yn andeallus, ai o ran llediaith y 'wlat, ai o ancynefinder y devnydd, wedy ei noti ai eglurhau ar 'ledemyl y tu dalen gydrychiol.
Publication
Imprinted at London :: by Henry Denham, at the costes and charges of Humfrey Toy, dwelling in Paules church yarde, at the signe of the Helmet.,
Anno. 1567. Octob. 7.
Rights/Permissions

To the extent possible under law, the Text Creation Partnership has waived all copyright and related or neighboring rights to this keyboarded and encoded edition of the work described above, according to the terms of the CC0 1.0 Public Domain Dedication (http://creativecommons.org/publicdomain/zero/1.0/). This waiver does not extend to any page images or other supplementary files associated with this work, which may be protected by copyright or other license restrictions. Please go to http://www.textcreationpartnership.org/ for more information.

Cite this Item
"Testament Newydd ein arglwydd Jesu Christ. Gwedy ei dynnu, yd y gadei yr ancyfiaith, 'air yn ei gylydd or Groec a'r Llatin, gan newidio ffurf llythyreu y gairiae-dodi. Eb law hyny y mae pop gair a dybiwyt y vot yn andeallus, ai o ran llediaith y 'wlat, ai o ancynefinder y devnydd, wedy ei noti ai eglurhau ar 'ledemyl y tu dalen gydrychiol." In the digital collection Early English Books Online 2. https://name.umdl.umich.edu/B00935.0001.001. University of Michigan Library Digital Collections. Accessed May 23, 2024.

Pages

Page 292

Epistol Paul ad y Philippieit.

YR ARGVMENT.

PAul wedy cael rhubydd y gan yr Yspryt glan i vyned i Macedonia, a plannodd yn gyntaf Eccles yn Philippi dinas o'r vn wl at: eithr can vod y gorchymyn arno ef y precethu'r Euangel yn gyffredinawl ir oll Genetloedd, y mae ef yn treiglo o le yle, yd or diwedd y daliwyt ef yn carcharor yn uuein, a phan gafas y Philippieit wybot hyn, yd anuone∣sont ei gwenidawc Epaphroditus a' chymporth yðaw: yr hwn gan espesu yddaw ystat a' chyflwr yr Eccles, a barawdd yðaw scrivenu 'r Epistol hwn, yn yr hwn y mae ef yn ei canmol am yðynt wy sefyll yn wrol yn erbyn y gau apostolieit, gan goffau yddwynt y wyllys da ef yn ei cyfor, ac erchi na bo er ei garchar ef yddynt wy laysu nac ymellwng: can ys wrth hy∣ny cadarnheu ac nyd lleihau a wnei'r Euangel: yn enwedic y mae yn deisyfy arnwynt ymogelyt rrac ryfic, a' mawrygu cymmedroldep, gan addaw dandon Timotheus atwynt, yr hwn y addyscei hwy mewn devnyddieu yn amplach, ac y da∣wei ynteu hefyd y hun atynt wy, gan venegi hefyd achos hir drigiat y gweninawc wy. Ac o bleit nad oedd 'elynion vwy t groc na'r gau-apostolieit, y mae ef yn gorchvugu y geu ddysc hwy gan provi bot Christ yn vnic yn dervyn pop De∣ddyf gywir, y gyd a'r hwn y mae i ni bop dim, ac eb yr hwn nyd oes i ni ddim, val y mae y angeu ef yn vywyt i ni, ai gyfodedigeth yn gyfiawnedigeth i ni. Gwedy hyn y mae yma thac llaw ryw rybuddiadae yn gystal rei cyffredinawl a' go∣hanredawl, y gyd a thestiat oi ewyllysfryd tu ac atwynt, a' diolchgar gymradwyat am ei cymporth yddaw.

Page [unnumbered]

Epistol Paul ad y Philippieit.
❧Pen. j.

S. Paul yn dynoethi ei galon tu ac atynt, Wrth roi diolwch, Gweddiae, A' damuniadae dros ei ffydd a'i hiechydwri∣eth. Dangos y mae ffrwyth ei groe, Ac yn ei hanoc i gyntundep, A' dyoddefgarwch.

PAul a' Thimotheus gweisiō Iesu Christ, at yr oll Sainctaeyn-christ Iesu'r ei' sy yn Philippi, y gydar epi scopiō, a' diaconieit: Rat vo gyd a chwi, a' thangneddyf y gan Dduw ein Tat, a' chan yr Arglwyð Ie∣su Christ. Im Duw y dyolchaf gan i mi eich cwbl gofio, (bop amser yn veu oll weddiae y drosoch oll, gan weddi∣aw gyd a llawenydd) o bleit y gymddeithas y sydd y chwi yn yr Euangel, o'r dydd cyntaf yd yr awrhon. Ac y mae yn gredadwy genyf hyn yma, pan yw hwn a ðechreoð y gwaith da hyn ynoch, ei gorphen yd yn-dydd Iesu Christ, megis y mae yn iawn i mi synnied hyn am danoch oll, can

Page 293

ys eich bot yn vy- calon yn gystal yn veu rhwy∣mae ac yn veu amndeffen, a' chadarnhad yr E∣uangel, nyd amgen eich bot chvvi oll yn gyfranogiō ami o'm rhat. Can ys Duw yn test ymy, mor or hoff genyf chwychvvi oll o eigiawn ve-calon in Iesu Christ. A' hyn a weddiaf, 'sef ar amplhau ach cariat etwo vwyvwy yn-gwybyddiaeth, a' chwbl ddyall, mal y metroch ddosparthu y petheu y bo gohanieth rhyngthynt i gilydd, a' bot yn pur∣edigion, ac yn ddidramgwyð, yd yn-dydd Christ, wedy eich cyflawny o ffrwytheu cyfiawnder, yr ein 'sy ynoch trwy Iesu Christ er gogoniant a' mo∣liant y Dduw.

Mi a wyllysiwn i chwi wybot, vroder, am y pe∣theu a ddigvvyddavvdd i mi, a daethont yn hytrach yn rh wyddiant ir Euangel, valy mae veu rhwy∣meu i yn Christ yn eglaer yn-cwbl o'r Orsedd, ac yn oll lleodd eraill, yd y n ydyw llawer o'r broder yn yr Arglwydd yn hyderusach o blait veu rhwymeu i, ac yn llyfasu yn ddiofnusach draythu'r gair. Rei a precethant Christ 'sef drwy genvigen, ac ymryson, a'r ei hefyt o wyllys da. Y'n aillplaid yn precethu Christ o gynnen ac nyd yn burol, gan dy∣bied dwyn mwy o vlinder im rhwymeu. A'r blait arall o gariat, gan wybot vy-dodi i yn carchar er emddeffend yr Euangel. Beth er hyny? eto Christ a bregethir ym-pop modd, pa vn pynac vo ai o ryvv liw, nai yn gywir: ac y mae hyny yn llawen genyf, ac a vy ddllawen genyf hefyt. Can ys-gwn ytreigla hynn yn iechedvvrieth i mi, trwy eich golochwyt chvvi, a thrwy ganhorthwy yspryt

Page [unnumbered]

Iesu Christ, erwydd ve u llwyr ddys gwiliad, a'm gobaith, yn-dim na'm gwradwydder, eithyr o gwbl hyder, val bop amser, velly yr awrhon y mawrygir Christ yn veu-corph, i pa vn bynac vo ai gan vywyt ai gan angeu. Can ys Christ ys ydd i mi pop vn ym-bywyt, ac yn angeu yn enilliat. Ac ai bywyn y cnawt vyddei lesad i mi, a' pha beth a ddetholaf ny's gwn. Can ys mae yn gyfing ar naf o'r ddau tu, gan ddeisyfu vy-datdod a' bot y gyd a Christ, yr hyn 'sy oreu dim. Eithr aros yn y cnawt, 'sy yn vwy angenraidiol och pleit chwi. A' hynn a wn yn ddilys, yr arosaf, ac y cydtrigaf y gyd a chwi oll, er buddiant y'wch a' llawenydd ich ffydd, val y bo yn lliosawc eich gorvoledd in Iesu Christ dros-y-vi, gan vy-dyvo diat atoch dra∣chefn. Yn vnic ymddugwch, val y mae addas er Euangel Christ, pan yw ai delwyf a'ch gwelet, ai bwyf absent, bot i mi glywet ywrth eich re∣gesae a'bod y'wch sefyll yn vn yspryt ac yn vn ene∣id gan ychvvy gydymdrech trwy ffydd yr Euangel. Ac yn-dim nac ofnwch gan eich gwrthnepwyr, yr hyn 'sy yddynt wy yn argoel cyfer colledigeth, ac y chwitheu o iechedwrieth, a' hyny gan Dduw. Canys y chwy y rhoespwyt er Christ, nyd yn vnie vod ywch gredu ynddo ef, anyd hefyt dyodef er ddo, gan vod ychwy yr vn ymdrino, a'r a welsoch yn-y-vi, ac yr awrhon a glywch vot ynof'.

❧Pen. ij

Mae ef yn eu cygcori yn uch pen dim i vvylltot, wrth yr hyn yn

Page 294

bennaf y cynhelir y ddysc bur. Gan addaw y byð iddo ef a' Thimotheus ddyvot ar vrys atynt wy. Ac escuso y mae ef hirdrigiar Epaphroditus.

ADoes neb diddanwch in-Christ, a's oes confort cariat, a's oes neb cym∣ddeithas a'r Yspryt, a's oes neb to∣sturi na' thrugaredd, cyflawnwch veu llawenydd, ar y chwi vot yn vn vryd, a' chenych yr vn ryvv gariat, ac yn vneneidiae, ac yn vn varn, val na vvneler dim wy gynnen neu 'wag 'ogoniant, eithyr yn∣gostyngeidrwydd-calon tybied pop vn vot arall yn well nac ef yhun. Nac edrychwch bop vn ar yr yddoch y chunain, eithr pop vn hefyt ar y petheu 'sydd y eraill.

Bid yr vn veddwl ynoch ac oedd in-Christ Iesu, yr hwn ac ef yn ffurf Dduw, ny thybiawdd drais bot yn 'ogyfiuwch a Duw: eithr ef y diðymiawd rhun, ac a gymerth arnaw agwedd gwas, ac ei gwnaethpwyt yn gyffelyp i ddynion, ac a gaffad yn vn ffynyt a dyn. Ef a ymostyngawð can vod yn vvydd i angeu, ys angeu croc. Erwyd paam hefyt Duw y tra derchafawdd ef, ac a roddes yðo Enw, uch pen pop enw, pan yw yn Enw 'r Ie∣su i bop glin estwng yn gystal ir nefolion, a' dai∣arolion, ac y danddaiaroliom bethae, ac y bop tauot coffessu mae Iesu Christ yw'r Arglwyð, er gogo∣niant Duw Tat. Erwydd pa bleit, veu-caredigi∣on, megis bop amser yr uvyddhaesoch, nyd megis yn veu-gwydd yn vnic, eithr yr awrhon yn vwy o

Page [unnumbered]

lawer yn veu absent, velly gorphenwch eich iechy∣dwrieth ychunain drwy ofn ac echryn. Can ys Duw yw'r hwn 'sy yn gweithio ynoch, 'sef yr e∣wyllys a'r weithred, nid amgen oi vvir wyllys da. Gwnewch bop dim yn ddivurmur ac eb ymdda∣dle, val y byddoch yn ddiargywedd, ac yn bur, ac yn veibion i Dduw yn ddigwliedic ym-pervedd cenedleth ddrigionus ddygam, ym-plith yr ei yð ych yn dysclaerio megis lleuvereu yn y byt, yn rrac estend gair y bywyt, er gorvoledd ym yn-dyð Christ, can na redais yn over, ac na lavuriais yn over. Ie, a' phe im offrymit ar ucha yr aberth a' gwasanaeth eich ffydd, llawen yw genyf, a' chyd∣lawen a' chwi oll. Obleit hyn hefyt byddwch-wi∣theu lawen, a chydlawenhewch a' minheu. A' go∣beithaf yn yr Arglwydd Iesu, y ddanvonaf Timo∣theus ar vyrder atoch, vegis im conforter i hefyt, wrth wybot ywrthych. Can nad oes i mi neb o gyffelyp veddwl, yr hwn a 'ofala yn ffyddlawn dros eich negesae. Can ys pawp 'sy yn ceisiaw yr yddyn y hunain, ac nyd yr hyn 'sy yddaw Christ Iesu. Eithyr chvvi adwaenoch y brofiadigeth am dano ef, can ys val map y gyd a thad, y gwasanae∣thoedd ef gyd a mivi yn yr Euangel. Hwn gan hy∣ny 'r wy'n gobeitho y ddanvon cyn gynted ac y gwypwyf pa ddelw vydd y-my, a 'gobeithaf yn yr Arglwydd, y bydd i mi vyhun hefyt ddyvot ar vyr∣der. Eithr ys tybiais vot yn angenraidiol ddanvon veu-brawd Epaphroditus atoch, veu-cydweithwr, a'm cydvilwr, 'sef eich cennad chwi, a'r hwn a vu yn vy-gwasanaethu inheu o gyfryw betheu ac

Page 295

oeð arnaf i eisieu. Can ys yð oeð arno hiriaeth am dano chwi oll, ac athrist iawn ytoedd, can y chwi glybot, y vod ef yn glaf. A' diau y vot ef yn glaf, as yn gyfagos y angeu: anyd bot y Dduw dru∣garhau wrthaw, ac nyd wrtho ef yn vnic, amyn rthy vi hefyt, rac y-my gahel tristit ar dristit. Mi y danvoneis ef gan hyny yn ddiescaelusach, val an welech ef drachefn, y llawenhaech, ac y by∣ddwn inheu yn ddidristach. Erbyniwch ef gan hyny yn yr Arglwydd y gyd a chwbl llawenydd, a' mawr hewch y cyfryw 'rei: can ys er mwyn y gwaith Christ y bu ef yn agos i amgeu, ac ny ðar∣odawdd am ei einioes, y gwplau deffic eich gwasanaeth i mi.

❧Pen. iij

Y mae ef yn y rhubyddiaw hwy y ymogelyt rac gau ddyscod∣ron, yn erbyn pa'r ei y mae ef yn gosot Christ, Ar vn modd y hunan, Ai ddyse ef. Ae yn gwrthbrovi cyfiawn∣hat dyn y hun.

WEithion, veu-broder, byddwch la∣wen yn yr Arglwyð. Nyd blin gen y vi scrivennu yr vn petheu atoch, ac y chwitheu y mae yn beth dilys. Goachelwch y cwn: gogelwch ddrwc weithwyr: gochelwch rac y cydtoriat. Can ys Cylchtoriat y dym ni, yr ei a addolwn Dduw yn yr yspryt, ac a ymhoffwn yn-Christ Iesu, ac nyd ym yn ym∣ddiried

Page [unnumbered]

yn y cnawd: cyd bei i mi hefyt allu ymddi∣ried yn y cnawt. A thybia nep arall y gallai ym∣ddiried yn y cnawt, ys mwy y galla vi: wedy vy enwaedy yr wythuet dydd, o genedl Israel, o lwyth Ben-iamin, yn Ebraiwr or Ebraieit, wrth y Ddeddyf yn Pharisaiad: erwydd zel yn ymlit yr Eccles: erwydd y cyfiawnder' syð yn y Ddeðyf, yn ddigwliadvvy. Eithr y petheu oedd yn elw i mi, yr ei hyny a gyfrifwn yn golet er m wyn Christ. Eithr yn ddilys cyfrif rwyf bop dim yn gollet er mwyn rhagorawl wybodaeth am Christ Iesu veu Arglwyð, er mwyn yr hwn y cyfrifais bop dim yn gollet, ac yddwyf yn ei cfrif yn dom, val y gallwn ennill Christ, a'm caffael ynddo ef, sefyvv, nyd a'm cyfiawnder vyhun genyf: ys yð o'r Ddeddyf, anyd yr vn ysydd trwy ffydd Christ, sef y cyfiawnder ys ydd o y gan Dduw trwy ffyð, val yr adwaenwyf ef, a' rhinwedd ei gyfodiadigeth, a' chymdeithas ei gystuddion, val im cyffurfer ai angen ef, gan brovi mewn neb ryw voð a gyrayðwn y gyfodiadi∣geth y meirw: nyd val pe bawn wedy ei gyrayddyt eisius, neu vot eisus yn berfeith: eithr dilyn ydd wyf, y geisiavv emavlyt yn yr hyn er ei vwyn yr ymavaelir ynof y gan Christ Iesu. Y broder, nyd wyf yn barnu i mi ymavael ynddo, eithr vn peth ydd vvyfarno: gellwng dros gof hyn 'sy y tu cefn, a' a cheisio tynnu at yr hyn 'sy y tu geyr bron, a' chyrchu at y nod, am y gamp yr vchel 'alwedi∣geth Duw in-Christ Iesu. Cynnyuer gan hyny o hanom ac ym yn berffeith, synniwn val hyn: ac ad ych yn synniaw yn angenach, 'sef yr vn peth a

Page 296

ddatgudd Duw ychwy. Er hyny yn y peth y dae∣tham ataw, cerddwn wrth yr vn rheol, val y fynniom yr vn peth.

Ha-vroder, byddwch ddilynwyr o hano vi, ac edrychwch ar yr ei, 'sy yn rhodiaw velly, megys ydd ym ni yn esempl y-chwy. Can ys llawer a rodiant, am ba 'rei y dywedeis ywch yn vynech, ac yr a wrhon y dywedaf ywch' dan wylaw, eu bot yn 'elynion Croc Christ, yr ei sydd ei dywedd yn gyfergoll, a'i bola yn Dduw yddvvynt, a'i gogo∣niant yn wradwydd yddynt, yr ei a synniant am betheu daiarawl. Can ys ein gwlad wriaeth ni 'sy yn y nefoedd, o'r lle ydd ym yn edrych am yr Iachawdr, 'sef yr Arglwydd Iesu Christ, yr hwn a ysyinut ein corph gwael ni, val y gwneler yn vnffurf a y gorph gogoneddus ef, erwydd y naerthovvgrvvydd, gan yr hyn y dychon ef ðarestwng pop dim yddaw yhun.

❧Pen. iiij

Y mae yn ei hannoc y vod o ymwreddiat syberw, Ac yn dio∣lwch yddyn am yr ymgeledd a wnaechoeddynt yddaw ac efyn-carchar, Ac velly y mae yn dibennu gan ymia∣chau.

CAn hyny veu-broder, caredigion a' damunedigion, veu llawenydd a'm coron, velly y safoch yn yr Arglwyð, garedigion. Atolygaf y Evodias, ac ervyniaf y Syntyche, synnyet yn gytun yn yr Arglwydd. Ac ys archaf

Page [unnumbered]

arna-tithe, ffyddlawn gydweddawc cymporth y gvvragedd hyny, yr ei a lavuriesont y gyd a mi yn yr Euangel, y gyd a Chlement hefyt, a' chyd ac erail o'm cyd weithwyr, yr ei 'sy ei henwae yn scri∣venedic yn y llyfer y bywyt.

Llawenhewch yn yr Arglwydd yn 'oystadawl, a' thrachefn y dywedaf, llawenewch. Bit eich ge∣styngeiddr wydd yn gydnabyddus y gan bop dyn. Y mae yr Arglwydd yn agos. Na 'ofelwch am ddim, eithr ym pop dim dangoser eich gofynion y Dduw yn-gweddi, a' deisyfiad gyd a diolwch. A' thangned dyf Duw yr hwn 'sy uwchlaw pop dy∣all, a gaidw eich calonae, a'ch meðyliae in-Christ Iesu. Eb law hyn, vroder, pa bethae pynac 'sy gyw ir, pa bethe bynac sy sybervv, pa pethae pynac 'sy gyfiawn, pa pethe pynac, 'sy pur, pa bethe pynac 'sy garuaidd, pa petheu pynac sydd o enw da, ad oes vn rhinweð, ac a'd oes dim moliant, meðyliwch am y petheu hyn, yr ei'n a ðyscesoch ac a ðerbynie∣soch, ac a glywsoch, ac a welsoch yn y vi: y petheu hyny gwnewch, a' Duw benavvdur tāgneðyf a vyð y gyd a chwi. A'llawē wyf hefyt yn yr Arglwyð yn ddirvawr, gan y chwi yr awrhon or dyweð ymad∣newyðu i synnied arnaf, am yr hyn cyd baech yn synniet, nyd oeddech yn cahel enhyd. Nyd wy yn vywedyt erwyð eisieu: can ys dyscais ym-pa gyflwr bynac ydd wyf, vot yn voddlawn yddaw. Sef y metraf ymostwng, a' metraf amlhau: ym-pop lle, ac ym pop dim im addyscir y vot yn llawn, a' bod yn newynoc, a'bot yn helaeth, a' bod mewn eisiae. Ys pop dim a allaf trwy borth Christ,

Page 297

rhwn 'sy im nerthu. Eithyr ys da y gwanaethoch, ar yvvch gyfrannu i'm gorthrymder i. A' chwi Philippieit, a wyddoch can ys yn dechreuad yr E∣uāgel, pan aethym i ymaith o Vacedonia, ny chy∣stanna wdd vn Eccles a mi o bleit devnydd rho∣ddy a' derbyn, amyn chwichvvi yn vnic. Can ys-a myvi yn Thessalonica, chwi a hebryngesshch, vn∣waith, ac eilwaith er mwyn veu angenraid i, nyd erwydd yr archaf rodd: anyd ys archaf y ffrwyth rhwn all amlhau yn borth i chwi: Pellach ys derbyniais oll, ac mae genyf helaethrwydd: 'sef im cyflavvnwyt, gwedy ym' dderbyn y gan Epa∣phroditus y petheu a ddaeth y wrthych, arogl per-ar wynt, aberth gymradwy a' thirion gan Dduw, A'r Duw meuvi a gyflanwa eich oll angenraid chvvi erwydd y' olud ef, gan 'ogoniant yn-Christ Iesu. I Dduw 'sef ein Tad, y bo gogoniant yn oesoedd oesoedd, Amen.

Aner chwch yr oll Sainctae in-Christ Iesu. Y mae'r broder 'sy gyd a mi, yn eich anerch. Yr oll Sainctae ach a nerchant, ac yn bennaf yr ei ynt o tuylu Caisar. Rat ein Arglwydd Iesu Christ y gyd a chwi oll, Amen.

O Ruuein yr escriuenwyt at y Philippieit, ac yd anvonvvyt y gan Epaphroditus.

Notes

Do you have questions about this content? Need to report a problem? Please contact us.