Llyfr y Psalmau, wedi eu cyfieithu, a'i cyfansoddi ar fesur cerdd, yn gymraeg. / Drwy waith Edmund Prys Archdiacon Meirionnydd,.

About this Item

Title
Llyfr y Psalmau, wedi eu cyfieithu, a'i cyfansoddi ar fesur cerdd, yn gymraeg. / Drwy waith Edmund Prys Archdiacon Meirionnydd,.
Author
Prys, Edmund, 1544-1623.
Publication
A'i printio yn Llundain. :: [s.n.],
1621..
Rights/Permissions

This keyboarded and encoded edition of the work described above is co-owned by the institutions providing financial support to the Early English Books Online Text Creation Partnership. Searching, reading, printing, or downloading EEBO-TCP texts is reserved for the authorized users of these project partner institutions. Permission must be granted for subsequent distribution, in print or electronically, of this text, in whole or in part. Please contact project staff at eebotcp-info@umich.edu for further information or permissions.

Subject terms
Bible. -- O.T. -- Psalms. -- Paraphrases, Welsh.
Psalters.
Cite this Item
"Llyfr y Psalmau, wedi eu cyfieithu, a'i cyfansoddi ar fesur cerdd, yn gymraeg. / Drwy waith Edmund Prys Archdiacon Meirionnydd,." In the digital collection Early English Books Online 2. https://name.umdl.umich.edu/B00918.0001.001. University of Michigan Library Digital Collections. Accessed May 16, 2024.

Pages

Qui habitat. Psal. xci.

Dyma sicrhâd o ddedwyddwch y dyn a fo yn rhoi ei hyder ar Dduw rhag pob profedigaeth. Addewid Duw i'r rhai a'i hofnant ac a'i carant ef, o ddiogelrwydd, a gogoniant tragwyddol.

Y Sawl a drigo, doed yn nes, yn lloches y Goruchaf, Ef a ymerys i gael bod ynghysgod hwn sydd bennaf. [verse 2] Fy holl ymddiffyn wyd a'm llwydd, wrth fy Arglwydd y dwedaf, A'm holl ymddiried tra fwy fyw sydd yn fy Nuw Goruchaf.
[verse 3] Cans ef a weryd yr oes dau, oddiwrth faglau yr heliwr, A hefyd oddiwrth bla, a haint, echrysaint, ac anghyflwr. [verse 4] Ei esgyll drosod ef a rydd, dan ei adenydd byddi Yn ddiogel: a'i wiredd gred fydd gylch a bwccled itti.
[verse 5] Ni ddychryni er twrf y nos, na'r dydd o achos hedsaeth, [verse 6] Er haint, neu blâ mewn tywyll fydd, neu hanner dydd marwolaeth. [verse 7] Wrth dy ystlys y cwympa mil, a dengmil o'th law ddeau: Ac ni ddaw drwg yn dy gyfyl, a thi a'i gwyl yn ddiau.
[verse 8] A'th lygaid y gweli didâl i'r enwir gwammal anian. [verse 9] Sef fy holl obaith wyd (o Dduw) ac vchel yw dy drigfan. [verse 10] Ni ddigwydd niwed yt', ond da, na phla, na dim' echryslon, I'th Eglwys a'th gynlleidfa nawdd, [verse 11] cans archawdd iw Angylion,
I'th ffyrdd dy gadw, a'th gynllwyn, a'th ddwyn â'i dwylaw hardd-deg, [verse 12] Rhag digwydd yt ddrwg (hyd yn oed) taro dy droed wrth garreg. [verse 13] Dy sangfa fydd ar y llew dig, a'r asp wenwynig sethri: Ar greulon genau'r llew o'r graig, ac ar y ddraig y sengi.
[verse 14] Mi a'i gwaredaf ef rhag brâd, am roi ei gariad arnaf, Am adnabod fy enw mau, yn ddiau y derchafaf. [verse 15] Geilw arnaf, mi' ai gwrandawaf, mewn ing y byddaf barod, Gwaredaf hefyd rhag ei gâs, a chaiff drwy vrddas fowrglod.
[verse 16] Fo gaiff fyw yn ddigon o hyd, caiff yn y byd hir ddyddiau. Dangosaf iddo radlawn faeth, a'm iechydwriaeth innau.
Do you have questions about this content? Need to report a problem? Please contact us.