Deus, venerunt. Psal. lxxix.
Achwyn rhag y dinistra wnaethai Antiochus ar Deml Dduw a Ierusalem: a gofyn cymorth gan Dduw rhag ei or∣thrwm elynion.
LLawer cenedl (o Dduw) a ddaeth,
i'th etifeddiaeth vnig:
Rhoed Caerselem a'i chyssegr hi,
yn garneddi o gerrig.
[verse 2] Rhoi cyrph dy weision, wrth eu rhaid,
i hediaid y ffurfafen:
I'nfeiliaid maes rhoi cig dy saint,
fel dyma fraint aflawen.
[verse 3] Fel ffrydau dwfr tywallt a wnaed,
eu gwaed o amglch dinas
Caerselem, heb roi corph mewn bedd,
fel dyna ddiwedd atgas.
[verse 4] Yn ddirmyg, gwradwydd, ac yn warth,
i bawb o'n pobparth ydym.
[verse 5] O Dduw pa hyd? wyd byth yn ddig?
ai fel tân ffyrnig poethlym?
[verse 6] Tywallt dy lid ar bobl estron,
rhai nid adwaenon m'onot:
Ac ar dyrnasoedd ni eilw,
(Duw) ar dy enw hynod.
[verse 7] Cans wyrion Iagof (bobl oedd gu)
y maent iw hysu 'n rhyfedd:
Ac a wnaethant i'r rhei'ni fod
preswylfod anghyfannedd.
[verse 8] Na chofia'n camwedd gynt i'n hoes,
Duw bryssia moes drugaredd:
Dy nodded a'n rhagflaeno ni
sy' mewn trueni'n gorwedd,
[verse 9] O Dduw ein iechyd cymorth ni,
er mwyn dy fri gogonol:
A gwared er mwyn dy enw tau,
ni rhag pechodau marwol.
[verse 10] Pan y gofynnant ple mae 'n Duw,
dod arnynt amryw ffonnod:
I ddial gwaed dy ddwyfol blant,
ac yno cânt hwy wybod.
[verse 11] Duw, doed ochenaid ger dy fron
dy garcharorion rhygaeth:
Ac yn dy ddirfawr ogoniant,
ymddiffyn blant marwolaeth.
[verse 12] Ein cymdogion a'th gablodd di,
tâl i'r rhei'ni yn gwblol
Eu cabledd iw mynwesau 'i hun,
o Arglwydd gun gorchestol.
[verse 13] Ninnau dy bobl a'th ddefaid mân,
awnawn yt gân ogonawl,
Does i oes byth i barhau,
ac i'th fawrhau'n dragwyddol.