Ac na welent pa iechyd oedd
yn ei weithredoedd rhyfedd.
[verse 23] Gorchymmyn wybren, a'i gwarhau,
egoryd drysau'r nefoedd:
[verse 24] A Manna'n fwyd, fel gwenith nef,
a lawiodd ef iw luoedd.
[verse 25] Rhoi i ddyn gael rhyw luniaeth da,
sef bara yr Angylion:
[verse 26] Gyrru rhyd wybren ddwyrain-wynt,
gydâ'r deheu wynt nerthlon.
[verse 27] Fel y llwch y rhoes gig iw hel,
ac adar fel y tywod:
[verse 28] Ynghylch eu gwersyll a'i trigfydd,
y glawiai beunydd gawod.
[verse 29] Bwyta digon o wledd ddiwael,
a chael eu bwyd dymunol:
[verse 30] Ac heb ommedd dim ar eu blys,
nac mo'i hewyllys cnawdol.
[verse 31] A'i tameidiau hwy iw safnau,
(ys ofnwn y Goruchaf:)
Yn Israel lladdodd iw ddig
wyr etholedig brasaf.
[verse 32] Er hyn pechent, ac ni chredent,
iw iach radau rhyfedd:
[verse 33] Treuliodd Duw eu hoes hwy am hyn,
mewn dychryn ac oferedd.
[verse 34] Tra fyddai Duw yn eu lladd hwy,
os ceisient dramwy atto:
Os doent drwy hiraeth at ei râs,
yn forau glâs iw geisio.
[verse 35] Os cofient fod Duw iw holl hynt,
graig iddynt a gwaredydd:
[verse 36] (Er ceisio siommi D••w'n y daith,
â'i gweiniaith, ac â'i celwydd:
[verse 37] Er nad oedd eu calon yn iawn,
na ffyddlawn iw gyfammod:)
[verse 38] Er hyn trugarhaei Duw a'r nef,
a'i nodded ef oedd barod.
Rhag eu difa, o'i lid y troes,
ac ni chyffroes iw hartaith:
[verse 39] Cofiedd ddyn, os marw a wnai,
nas gallai ddycl wyl eilwaith.
[verse 40] Pa sawl gwaith y cyffroesant hwy,
wrth fyned trwy'r anialwch?
Gan ddigio Duw a'ilwyr dristhau,
ynghreigiau y diffeithwch.
[verse 41] Troesant, profasant Dduw â'i chwant,
gan demptio Sanct yr Israel:
[verse 42] Anghofio eu cadw hwynt fal hyn,
rhag cael o'i casddyn afael.
[verse 43] Rhoesai'n yr Aipht arwydd o'i râs,
a'i wyrth yn ninas Zoan:
[verse 44] Y modd y troes eu dwfr yn waed,
ni chaed dim glan-ddwfr allan.
[verse 45] Rhoes Duw yngwlâd yr Aipht iw plau,
waed, gwybed, llau, allyffaint:
[verse 46] Lindys, locust, i ddifa'i ffrwyth,
a chenllysg lwyth, a mallhaint.
[verse 47] Distrywiodd Duw eu hyd, gwellt,
[verse 48] Eu coedydd, a'i han'feiliaid: (gwydd)
A chenllysg cessair, mellt a roes,
bu wrth eu heinioes danbaid.
[verse 49] Rhoes arnynt bwys ei lid, a'i fâr,
ac ing anghreugar digllon:
Ffrwyth ei lidiowgrwydd ef, a'iwg,
anfonodd ddrwg angylion.
[verse 50] Rhyw ffordd a hon iw lid a droes,
heb ludd iw heinioes angau,
Ond dwyn eu bywyd hwy drwy haint,
yn ei ddigofaint yntau.
[verse 51] Yna y tarawodd vn Duw Naf
y plant cyntaf-anedig: