Voce mea ad Dom. Psal. 77.
Dafydd yn cofio yr amryw brofe∣digaethau, a'r blinderau oedd arno: yn dangos mowredd Duw, ac yn ymgryf∣hau mewn ffydd.
Fy llais at Dduw, pan roddais lef,
fy llais o'r nef fo'i clybu;
A'm llais gweddiais ar Dduw Ner,
pan oedd blinder yn tarddu.
[verse 2] Y dydd y rhedai 'mriw, a'r nos
ni phe••diai achos llafur,
Mewn blin gysyngder gwn fy mod,
a'm hoes yn gwrthod cysur.
[verse 3] Yna y cofiwn Dduw a'i glod,
pan syrthiai drallod enbyd:
Yna gweddiwn dros fy mai,
pan derfysgai fy yspryd.
[verse 4] Tra fawn yn effro, ac mewn sann,
heb allel allan ddwedyd,
[verse 5] Ystyriais yna'r dyddiau gynt,
a'r helynt hen o'r cynfyd.
[verse 6] Cofiwn fy ngherdd y nos fy hun,
heb gael amrantun, chwiliwn
A chalon effro, genau mud,
â'm hyspryd ymddiddanwn:
[verse 7] Ai'n dragywydd y cilia'r Ion?
a sydd ef bodlon mwyach?
[verse 8] A ddarfu byth ei nawdd a'i air?
a gair ei addaw bellach?
[verse 9] Anghofiodd Duw druga rhâu?
a ddarfu cau ei galon?
A baid efe byth (meddwn i)
fal hyn â sorri'n ddigllon?
[verse 10] Marwolaeth ym' yw'r meddwl hwn
a throis yn grwn i gofio
Ei fawr nerth gynt: cofio a wnaf,
waith y Goruchaf etto.
[verse 11] Cofiaf dy weithredoedd (f'Arglwydd)
a'th wrthiau hylwydd cofiaf,
[verse 12] Am bob rhyfeddod a phob gwaith,
â myfyr maith y traethaf.
[verse 13] O Dduw: pa Dduw sydd fal ti Dduw▪
dy ffordd di yw'n sancteiddiol:
[verse 14] Dy waith dengys dy nerth i'r byd,
pair yn' i gyd dy ganmol.
[verse 15] Dy nerth fawr hon a ro'ist ar led,
wrth wared yr hen bobloedd,
Iagof, a Ioseph, a fu gaeth,
a'i holl hiliogaeth luoedd.
[verse 16] Y deifr gwelsant, ofnasant hyn,
a dychryn cyn eu symmud.
[verse 17] Cymylau dwfr cylch wybr yn gwan,
a mellt fal saethau enbyd.
[verse 18] Dy daran rhuodd fry'n y nen,
dy fellt gwnaent wybren olau,
Y ddaiar isod a gyffrodd,
ac a ddychrynodd hithau.
[verse 19] Yn eigion mor mae y ffordd dau,
a'th lwybrau mewn deifr sugnedd,
Ac ni adweinir byth mo'th ol,
yn dy anfeidrol fowredd.
[verse 20] Dy bobloedd a dywysaist di
drwy anial ddrysni efrydd,
Gan law Moses, a'i frawd Aaron,
fel defaid gwirion llonydd.