Llyfr y Psalmau, wedi eu cyfieithu, a'i cyfansoddi ar fesur cerdd, yn gymraeg. / Drwy waith Edmund Prys Archdiacon Meirionnydd,.

About this Item

Title
Llyfr y Psalmau, wedi eu cyfieithu, a'i cyfansoddi ar fesur cerdd, yn gymraeg. / Drwy waith Edmund Prys Archdiacon Meirionnydd,.
Author
Prys, Edmund, 1544-1623.
Publication
A'i printio yn Llundain. :: [s.n.],
1621..
Rights/Permissions

This keyboarded and encoded edition of the work described above is co-owned by the institutions providing financial support to the Early English Books Online Text Creation Partnership. Searching, reading, printing, or downloading EEBO-TCP texts is reserved for the authorized users of these project partner institutions. Permission must be granted for subsequent distribution, in print or electronically, of this text, in whole or in part. Please contact project staff at eebotcp-info@umich.edu for further information or permissions.

Subject terms
Bible. -- O.T. -- Psalms. -- Paraphrases, Welsh.
Psalters.
Cite this Item
"Llyfr y Psalmau, wedi eu cyfieithu, a'i cyfansoddi ar fesur cerdd, yn gymraeg. / Drwy waith Edmund Prys Archdiacon Meirionnydd,." In the digital collection Early English Books Online 2. https://name.umdl.umich.edu/B00918.0001.001. University of Michigan Library Digital Collections. Accessed May 16, 2024.

Pages

Quam bonus Deus. Psal. 73.

Dafydd yn dysgu i ddynion nad ang∣hysurent er gweled llwyddiaut yr en∣wir, neu aflwyddiant y cyfion, yn y byd hwn, drwy ddangos mor ddisy mmwth y diflanna y drwg, a maint gwobr y daionus.

YS da yw Duw i Israel, wrth bawb a wnel yn vnion: [verse 2] Minnau llithrais, braidd na syrthiais, swrth-wael fu f'amcanion. [verse 3] Cans cynfigennais wrth y f••••l, ar dyn annuwiol dihir, Braidd na chwympais pan y gwelais eu hedd a'i golud enwir.
[verse 4] Can nad oedd arnynt rwymau caeth, i gael marwolaeth ddynol, Lle maent yn byw yn heini hyf, yn iraidd gryf ddigon ol. [verse 5] Ac ni ddoe arnynt lafur blin hyd y bawn i'n eu deall, Na dim dialedd, na dim gwyn, fel y doe ar ddyn arall.
[verse 6] Am hynny syth maent yn ymddwyn, fel o fewn cadwyn balchder, Agwisgant am danynt yn dynn (megis dilled n) drowsder. [verse 7] A'i llygaid hwynthwy wrth dewhau doent yn folglymmau drosodd, A'i golud hwy, er hyn o wyn, vwch meddwl dyn a dyfodd.
[verse 8] Treuthu eu trowsder, bod yn dynn, a bostio hyn ar wasgar, [verse 9] Egori safn at wybren fry, a thafod cry' drwy'r ddaear. [verse 10] Am hyn rhai o'i bobl es â chwant a ymddychwelant yma, Yn gweird y 'dwr yn loyw lân, a thybio y cân eu gwala.
[verse 11] Cans ymresymmant hyn yn syw, pa'm? ydyw Duw yn canfod Pwy sydd yn ddrwg, a phwy sy'n dda? ydyw'r gorutha'n gwybod? [verse 12] Wele y drygddyn mwya'i chwant caiff twyaf llwyddiant gwastad; Yn casglu golud a mawr dda, hwnnw sydd fwya'i godiad.
[verse 13] Ofer iawn fu i mi warhau, a llwyr lanhau fy nghalon:

Page 31

Golchi fy nwylo, caru gwir, a bod yn hir yn gyfion: [verse 14] Cael fy maeddu ar hyd y dydd: ond trwstan fydd vniondeb, Os y borau, ac os pryd nawn, myfi a gawn wrthwyneb.
[verse 15] Hyn os dwedwn, a feddyliwn, o ryw feddalaidd ammau, Wele, a'th blant di y gwnawn gam, i ddwyn vn llam a minnau, [verse 16] Pan geisiwn ddeall hyn yn llwyr, o nerth fy synwyr ddynol, Hynny i'm golwg i oedd flin, nes cael rhyw rin ysprydol.
[verse 17] Ond pan euthym i gysegr Duw, lle cefais amryw olau, Yna deliais i pa wedd y bydd eu diwedd hwythau. [verse 18] Gwybum i ti eu gosod hwy, lle caent lam mwy'n y diwedd, Sef mewn lle llithrig rhwydd-gwymp trwch, anialwch anghyfannedd:
[verse 19] Ond gwedi dodaist iddynt wth, disymmwth y pallasant, Mynd o'r byd heb na lliw na llun, o'i hofu eu hun darfyddant. [verse 20] Fel breuddwyd pan ddihunai vn, y gwnai di iddun f'Arglwydd, O'r newid hon y caiff sy nghâs, drwy yr holl ddinas wradwydd.
[verse 21] Bum i ddig wrthyf fi fy hun, ac oerni fu'n sy nghalon. [verse 22] Nas deallaswn hyn yn gynt, bum ffol vn hynt ac eidion. [verse 23] Er hyn etto bum gydâ thi, ile i'm twysi yn ddilysiant [verse 24] Wrth fy llaw ddeau: wedi hyn fy nerbyn i gogoniant.
[verse 25] Pa'm? pwy (o Dduw) sydd gennyf fi ond tydi yn y nefoedd? Dim ni ddymunwn gydâ thi, wrth weini daiar leoedd. [verse 26] Fy nghalon i, a'm nerth, a'm cnawd, y sydd mewn palldawd beunydd, Ond tydi Dduw sydd ar fy rhan, a'm tarian yn dragywydd.
[verse 27] A elo ymholl eddiwrthyd ti, y rhei'ni gwnaent yn ddiffaith: Ac a buteiniant rhagot ti, y rhei'ni torrir ymaith. [verse 28] Ond mi a ddof nesnes at fy Nuw, fy ngobaith yw i'm calon [verse 29] Y traethaf fi ei nerth, a'i wyrth, o fewn dy byrth, merch Sion.
Do you have questions about this content? Need to report a problem? Please contact us.