Domine ne in furore. Psal. vi.
Gweddi o drymder am ei bechodau: a phan gafas obaith, y mae yn dibrissio ei elyn, gan foli Duw.
〈♫〉〈♫〉 O Arglwydd na cherydda fi,
〈♫〉〈♫〉 ymhoethni dy gynddaredd:
〈♫〉〈♫〉 Ac na chosba fi yn dy lid,
〈♫〉〈♫〉 o blegid fy enwiredd.
[verse 2] O Arglwydd dy drugaredd dod,
wyflesg mewn nychdod rhybrudd:
O Arglwydd dyrd, iacha fi 'n chwyrn,
mae f'esgyrn i mewn cystudd.
[verse 3] A'm henaid i or llesgedd hyn,
y sydd mewn dychryn sceler:
Tithau O Arglwydd, paryw hyd?
rhoi arnaf ddybryd brudd-der.
[verse 4] Duw gwared f'enaid, dychwel di,
iacha fi a'th drugaredd:
[verse 5] Nid oes yn angau gof na hawl,
a phwy ath fawl o'r pridd-fedd.
[verse 6] Diffygiais gan ochain bob nos,
mewn gwal anniddos foddfa:
Rwy'n gwlychu drwy y cystudd mau,
a'm dagrau fy ngorweddfa.
[verse 7] O ddig i'm cas a goddef drwg,
fy ngolwg sy'n tywyllu:
A chan y dwfr a red yn rhaff,
ynt angraff ac yn pylu.
[verse 8] Pob vn a wnelo, aed ymhell,
na dichell nac enwiredd:
Cans clybu yr Arglwydd fy llais,
pan lefais am drugaredd.
[verse 9] Yr Arglwydd clybu ef fy arch,
rhof finnau barch a moliant:
Fe dderbyn fy ngweddi, a'm gwaedd,
am hyn yr haedd ogoniant.
[verse 10] Fe wradwyddir, fe drallodir,
yn ddir fy ngelynion:
Ac fo'i dychwelir drwy fefl glwth,
hwynt yn ddisymwth ddigon.