Llyfr y Psalmau, wedi eu cyfieithu, a'i cyfansoddi ar fesur cerdd, yn gymraeg. / Drwy waith Edmund Prys Archdiacon Meirionnydd,.

About this Item

Title
Llyfr y Psalmau, wedi eu cyfieithu, a'i cyfansoddi ar fesur cerdd, yn gymraeg. / Drwy waith Edmund Prys Archdiacon Meirionnydd,.
Author
Prys, Edmund, 1544-1623.
Publication
A'i printio yn Llundain. :: [s.n.],
1621..
Rights/Permissions

This keyboarded and encoded edition of the work described above is co-owned by the institutions providing financial support to the Early English Books Online Text Creation Partnership. Searching, reading, printing, or downloading EEBO-TCP texts is reserved for the authorized users of these project partner institutions. Permission must be granted for subsequent distribution, in print or electronically, of this text, in whole or in part. Please contact project staff at eebotcp-info@umich.edu for further information or permissions.

Subject terms
Bible. -- O.T. -- Psalms. -- Paraphrases, Welsh.
Psalters.
Cite this Item
"Llyfr y Psalmau, wedi eu cyfieithu, a'i cyfansoddi ar fesur cerdd, yn gymraeg. / Drwy waith Edmund Prys Archdiacon Meirionnydd,." In the digital collection Early English Books Online 2. https://name.umdl.umich.edu/B00918.0001.001. University of Michigan Library Digital Collections. Accessed May 16, 2024.

Pages

Eripe me. Psal. 59.

Dafydd yn ofni Saul, yn dangos ei ddiniweidrwydd ei hun, a chreulondeb ei elynion: yn gweddio yn erbyn pechaduriaid maleisus, ac yn moli Duw.

FY Nuw gwareda fi rhac brâd a rhac twyll fwriad gelyn, Derbyn di drosof rhac y rhai a godai yn fy erbyn. [verse 2] Ac ymddiffyn fi yn bybyr oddiwrth weithredwyr camwedd, Achub fyfi rhac câs y byd, a rhac gwyr gwaedlyd hygledd.
[verse 3] Ac wele, maent hwy i'm cynllwyn, amcanent ddwyn fy mywyd, Nid ar fy mai yr haeddais hyn, ond tynder gelyn gwaedlyd. [verse 4] Duw rhedent hwy yn barod iawn, a dim ni wnawn iw herbyn. Edrych dithau, fy Arglwydd rhed, a thyred i'm hymddiffyn.

Page 26

[verse 5] Ti Dduw y llu: Duw Israel, o deffro gwel enwiredd, I'r cenhedloedd na âd di'n rhâd, lle y gwnant drwy frâd eu trawsedd. [verse 6] Maent hwy yn arfer gydâ'r hwyr, o'mdroi ar wyr o bobparth, A thrwy y ddinas clywch eu swn, vn wedd a'r cwn yn cyfarth.
[verse 7] Wele maent a thafodau rhydd, awch cledd a fydd iw genau, Pwy meddant hwy all glywed hyn? ac a wna i'n herbyn ninnau. [verse 8] Ond tydi fy Arglwydd a'm Duw, a'i gwel, ai clyw, a'i gwatwar, Am ben eu gwaith y chwerddi di y cenhedlaethi twyllgar.
[verse 9] Ti a attebi ei nerth ef, a'th law gref a'm hamddiffyn [verse 10] Duw a'm rhagflaena innau chwip, caf weled trip i'm gelyn. [verse 11] Na lâdd hwynt rhag i'm pobloedd i anghofi dy weithredoedd: Gwasgar, gostwng hwy yn dy nerth Duw darian prydferth lluoedd.
[verse 12] Am bechod eu tafodau hwy, a'i geiriau, mwyfwy balchedd, Telir iddynt ni ront air teg ond celwydd, rheg, a choegedd. [verse 13] Duw difa, difa hwynt i'th lid, a byth na fid vn mwyach, Gwybyddant mai Duw Iago sydd drwy'r byd yn llywydd hyttrach.
[verse 14] Maent hwy yn arfer gyda'r hwyr o'mdroi yn llwyr o bobparth, A thrwy y ddinas clywch ei swn, vn wedd a chwn yn cyfarth. [verse 15] I gael ymborth crwydro a wnant, ac oni chânt eu digon, Nes cael byddant ar hyd y ons yn aros dan ymryson.
[verse 16] Minnau a ganaf o'r nerth tau, a'th nawdd yn forau molaf: Nerth ym' a nawdd buost (o Ner) pan fu gorthrymder arnaf. [verse 17] I ti canaf, o Dduw fy nerth, a'm hymadferth rymusol, Sef tydi yw fy Nuw, fy Naf, fy'nhwr, fy noddfa rasol.
Do you have questions about this content? Need to report a problem? Please contact us.