Llyfr y Psalmau, wedi eu cyfieithu, a'i cyfansoddi ar fesur cerdd, yn gymraeg. / Drwy waith Edmund Prys Archdiacon Meirionnydd,.

About this Item

Title
Llyfr y Psalmau, wedi eu cyfieithu, a'i cyfansoddi ar fesur cerdd, yn gymraeg. / Drwy waith Edmund Prys Archdiacon Meirionnydd,.
Author
Prys, Edmund, 1544-1623.
Publication
A'i printio yn Llundain. :: [s.n.],
1621..
Rights/Permissions

This keyboarded and encoded edition of the work described above is co-owned by the institutions providing financial support to the Early English Books Online Text Creation Partnership. Searching, reading, printing, or downloading EEBO-TCP texts is reserved for the authorized users of these project partner institutions. Permission must be granted for subsequent distribution, in print or electronically, of this text, in whole or in part. Please contact project staff at eebotcp-info@umich.edu for further information or permissions.

Subject terms
Bible. -- O.T. -- Psalms. -- Paraphrases, Welsh.
Psalters.
Cite this Item
"Llyfr y Psalmau, wedi eu cyfieithu, a'i cyfansoddi ar fesur cerdd, yn gymraeg. / Drwy waith Edmund Prys Archdiacon Meirionnydd,." In the digital collection Early English Books Online 2. https://name.umdl.umich.edu/B00918.0001.001. University of Michigan Library Digital Collections. Accessed May 16, 2024.

Pages

Expectans expectaui. Psal. 40.

Diolchgarwch i Dduw am ei ddaioni i ddynion: addaw ymroi i wasnaethu Duw, ar modd i hynny: gwedi diolch y mae yn achwyn rhag ei elynion, ac yn mynd at Dduw am gymorth.

BVm yn dyfal ddisgwyl fy Ner, ef o'r vchelder clybu, Clustymwrandawodd ef fy llais pan lefais ar i fynu. [verse 2] Cododd fyfi or pydew blin, a'r pridd tra gerwin tomlyd, A rhoes ar graig fy choed i wau, a threfn fy nghamrau hefyd.
[verse 3] A newydd gerdd i'm genau rhoes, clod iddo troes yn hylwydd. [verse 4] Paw 〈◊〉〈◊〉 na y gwe••••nt hyn, a ch••••••an yn yr Arglwydd. [verse 5] Pob ga yn ddiau dedwydd yw a rotho ar Dduw ei helynt: A'r beilch, a'r ffails a'r chwedlau tro nid edrych efo arnynt.
[verse 6] Aml (o Duw) yw y gwrthiau tau, fel dy feddyliau ynny, A heb vn dyn yn dysgu i ti, nac yn blaenori hynny. [verse 7] Y rhai pe y ceisiwn i drwy gred, eu rhoi ar led, a'i canu, Mwy amlach ydynt nag y gall vn dyn heb pall eu traethu.
[verse 8] Ni fynnaist offrwm rhodd, na gwerth, na chwaith vn aberth cennyf; Er hyn fy nghlustiau i mewn pryd, hwy a egoryd ymy.

Page 18

[verse 9] Hyn pan wrthodaist dwedais i, Duw wele fi yn dyfod▪ [verse 10] Megis o honof mae gwir pur yn dy ysgrythur hynod,
[verse 11] Y rhyngwn i dy fodd yn llawn, (o Dduw) rwy' 'n fodlawn ddigon. Dy ewyllys di a'th lan ddeddf sy'n greddf yn nautu'r galon. [verse 12] Mi a bregethais dy air cu ynghanol llu mawr anian. Ac ni thawaf (fy' Arglwydd gwyn) ti wyddost hyn dy hunan.
[verse 13] Dy iownder, iechyd, a'th air gwir ni bum chwaith hir i'w celu, Na'th drugaredd, na'th roddion da rhag vn gynlleidfa meithlu. [verse 14] Dithau (o Dduw) rhagof na chel dy dawel drugareddau, Dy nawdd a'th wir gosod ar lled, bont byth i'm gwared innau.
[verse 15] Dagrau o'm hamgylch fydd vwch rhif, a throso'n llif mae pechod, Amlach ydynt nâ'm gwallt i'm brig, a'm calon ddig sy'n darfod. [verse 16] Tyred (fy Arglwydd) helpa'n rhodd, a rhynged bodd yt' hynny. Bryssia i'm gwared, na thrig yn hwy, a bydd gynhorthwy ymy.
[verse 17] A chyd wradwydder hwynt ar gais a fyn drwy drais fy nifa: A throer iw hol y rhai y sy yn chwennych ymy ddirdra. [verse 18] Bont hwy annedd-wâg yn lle tâl y rhai a dyfal dafod Er gwradwydd ym' a ddwedant hyn, ffei, ffei, ar destyn dannod.
[verse 19] Y rhai a'th geisiant di bob pryd bont lawen hyfryd hylwydd, A dweded a'th gâr di (Dduw ner) mawryger enw'r Arglwydd. [verse 20] Cofia (o Dduw) fy mod yn wan, ac yn druan, a dyred, (O Dduw fynerth) na thrig yn hir, dyrd rhag y dir i'm gwared.
Do you have questions about this content? Need to report a problem? Please contact us.