Llyfr y Psalmau, wedi eu cyfieithu, a'i cyfansoddi ar fesur cerdd, yn gymraeg. / Drwy waith Edmund Prys Archdiacon Meirionnydd,.

About this Item

Title
Llyfr y Psalmau, wedi eu cyfieithu, a'i cyfansoddi ar fesur cerdd, yn gymraeg. / Drwy waith Edmund Prys Archdiacon Meirionnydd,.
Author
Prys, Edmund, 1544-1623.
Publication
A'i printio yn Llundain. :: [s.n.],
1621..
Rights/Permissions

This keyboarded and encoded edition of the work described above is co-owned by the institutions providing financial support to the Early English Books Online Text Creation Partnership. Searching, reading, printing, or downloading EEBO-TCP texts is reserved for the authorized users of these project partner institutions. Permission must be granted for subsequent distribution, in print or electronically, of this text, in whole or in part. Please contact project staff at eebotcp-info@umich.edu for further information or permissions.

Subject terms
Bible. -- O.T. -- Psalms. -- Paraphrases, Welsh.
Psalters.
Cite this Item
"Llyfr y Psalmau, wedi eu cyfieithu, a'i cyfansoddi ar fesur cerdd, yn gymraeg. / Drwy waith Edmund Prys Archdiacon Meirionnydd,." In the digital collection Early English Books Online 2. https://name.umdl.umich.edu/B00918.0001.001. University of Michigan Library Digital Collections. Accessed May 16, 2024.

Pages

In te Domine speraui. Psal. xxxi.

Dafydd gwedi diangc o beryglon, yn dangos beth oedd ei fyfyrdod ef a'i ffydd pan oedd gaethaf arno: parod ddaioni Duw i'r sawl a'i hofnant. Cyng∣or i'r ffyddloniaid i ymddiried yn Nuw eu hymwaredydd.

MI a'mddiriedais ynod Ner, fel na'm gwradwydder bythoedd: Duw o'th gyfiownder gwared fi, a chlyw fy nghri hyd nefoedd. [verse 2] Gogwydd dy glust attaf ar frys, o'th nefol lys i wared, [verse 3] A bydd ym' yn graig gadarn siwr, yn dy a thwr i'm gwared.
[verse 4] Sef fy nghraig wyd, a'm castell cryf, wyf finnau hyf o'th fowredd. Er mwyn dy enw tywys fi, ac arwain i drugaredd. [verse 5] A thynn fy fi o'r rhwyd i'r lann, a roesan er fy maglu: Cans fy holl nerth sydd ynot ti, da gelli fy ngwaredu.
[verse 6] Dodaf fy yspryd yn dy law, ac âf gar llaw i orwedd, Da y gwaredaist fi yn fyw: (o Arglwydd Dduw'r gwirionedd) [verse 7] Llwyr y caseis y neb a fâg, iw galon orwag aslwydd, Ac mi a osodais yn llwyr faith fy ngobaith yn yr Arglwydd.
[verse 8] Mi a'mhyfrydaf ynot ti, canfuost fi mewn amser, Ac adnabuost, wrth fy rhaid, fy enaid mewn cyfyngder. [verse 9] Llawen fyddaf finnau am hyn, i'm gelyn ni'm gwarcheaist; Eithr fy nrhaed i yn eang rydd da beunydd ysefydlaist.
[verse 10] O dangos dy drugaredd Dduw, cans cyfyng ydyw arnaf, Fy llygaid, f'enaid, a'm bol sydd yn dioddef cystydd gwaelaf.

Page 13

[verse 11] Fy mywyd ym' gwir ofid oedd, fy holl flynyddoedd, blinion, [verse 12] Fy nerth a ballodd o'm drwg cynt, a'm esgyrn ydynt bydron. [verse 13] Agwatwor im' gelynion wyf, fy nghydblwyf a'm gwatworent: Fy holl gym'dogion, a phob dyn, gan ddychryn a'm gochelent.
[verse 14] Fe a'm gollyngwyd 'i dros gof, fal marw a fo esgeulus: A hawdd yw hepgor y llestr twn, o bydda i hwn drwgflasus. [verse 15] Cans clywais ogan llawer dyn o'm dautu, dychryn oerloes; Hwy a'mgynghorent a'r bob twyn, bwriadent ddwyn fy einioes.
[verse 16] Ond yn fy ngobaith (Arglwydd byw) y dwedais fy Nuw ydwyd, Y mae f'amseroedd a'r dy law, nid oes na braw nac arswyd. [verse 17] Dyred a gwared fi dy wâs, oddiwrth fy nghâs a'm herlid. [verse 18] A dangos d'wyneb ym' oth râd, rhag brâd y rhai sy'm hymlid.
[verse 19] O Arglwydd, na wradwydder fi a rois fy ngweddi arnad: Ond i'r annuwiol gwarth a wedd, yn fud i'r bedd o lygriad. [verse 20] Cae gelwyddog wefusau y rhai'n y sydd yn darstain crasder, O ddiystyrwch, a thor tynn, yn erbyn y cyfiawnder.
[verse 21] O mor fawr yw dy râd di-drai, a roist i'r rhai a'th ofnant! Cai o flaen meibion dynion glod, ac ynod ymddiriedant. [verse 22] Oddlwrth sythfeilchion (o'th flaen di) y cuddi hwynt yn ddirgel: Cuddi yn dda i'r babell dau rhag senn tafodau vehel.
[verse 23] Mi a fendigaf Dduw yn hawdd: dangosawdd y'm ei gariad, A gwnaeth ryfeddod dros ei was, mewn cadarn ddinas gaead. [verse 24] Ofnais i gynt o'm gobaith drwg fy nrhoi o'th olwg allan; [verse 25] Eithyr pan iefais arnat ti y clywaist fi yn fuan.
[verse 26] O cerwch Dduw ei holl sainct ef, da y clyw lef ffyddloniaid: Ac ef a dâlyn helaeth iawn, i'r beilch anghyfiawn tanbaid. [verse 27] Cymerwch gysur yn Nuw Ion, ef a rydd galon ynoch: Ac os gobeithiwch ynddo ef, ei law yn gref bydd drosoch.
Do you have questions about this content? Need to report a problem? Please contact us.