Llyfr y Psalmau, wedi eu cyfieithu, a'i cyfansoddi ar fesur cerdd, yn gymraeg. / Drwy waith Edmund Prys Archdiacon Meirionnydd,.

About this Item

Title
Llyfr y Psalmau, wedi eu cyfieithu, a'i cyfansoddi ar fesur cerdd, yn gymraeg. / Drwy waith Edmund Prys Archdiacon Meirionnydd,.
Author
Prys, Edmund, 1544-1623.
Publication
A'i printio yn Llundain. :: [s.n.],
1621..
Rights/Permissions

To the extent possible under law, the Text Creation Partnership has waived all copyright and related or neighboring rights to this keyboarded and encoded edition of the work described above, according to the terms of the CC0 1.0 Public Domain Dedication (http://creativecommons.org/publicdomain/zero/1.0/). This waiver does not extend to any page images or other supplementary files associated with this work, which may be protected by copyright or other license restrictions. Please go to http://www.textcreationpartnership.org/ for more information.

Subject terms
Bible. -- O.T. -- Psalms. -- Paraphrases, Welsh.
Psalters.
Link to this Item
http://name.umdl.umich.edu/B00918.0001.001
Cite this Item
"Llyfr y Psalmau, wedi eu cyfieithu, a'i cyfansoddi ar fesur cerdd, yn gymraeg. / Drwy waith Edmund Prys Archdiacon Meirionnydd,." In the digital collection Early English Books Online 2. https://name.umdl.umich.edu/B00918.0001.001. University of Michigan Library Digital Collections. Accessed June 12, 2024.

Pages

Exaltabo te. Psal. 145.

Dafydd yn dangos daioni Duw yn llywodraethu pob creadur. Mawl i Dduw am ei gyfiownder, ai ras, ai serch i bob dyn a'i hofno, ac a'i caro.

MI a'th fawrygaf di, fy Nuw, cans tydi yw fy llywydd: Bendithio dy enw byth a wnaf, mi a'i molaf yn dragywydd. [verse 2] Dy enw a folaf fi bob dydd, a'th glod a fydd heb orphen. [verse 3] Yr Arglwydd sydd glodfawr heb wedd, a'i fowredd sydd heb ddiben.
[verse 4] Cenedl wrth genedl a ront fawl i'th ogoneddawl wrthiau; Gan danu dy nerth rhyd y byd, a dwedyd dy gynneddfau. [verse 5] Am dy ogonedd mawr, fy Naf, mynegaf, a'th gadernyd. [verse 6] Son am dy bethau ofnadwy, gwnant hwy a minnau hefyd.
[verse 7] Llwyr goffadwriaeth honot ti, a'th fawr ddaioni traethant; Ac o'th gyfiownder, fy Nuw Ion, a llafar don y canant: [verse 8] Sef graflawn yw ein Arglwydd ni, ac o dosturi rhyfedd: Hwyr ac anniben yw i ddig: llawn-frydig i drugaredd.
[verse 9] Da yw yr Arglwydd i bob dyn,

Page [unnumbered]

a'i nodded sy'n dycciannol: Ac ar ei holl weithredoedd ef daw nawdd o'r nef yn rasol. [verse 10] Dy holl weithredoedd di i'th lwydd, o Arglwydd a'th glodforant: Dy wyrth pan welo dy Sainct di, y rhei'ni a'th fendithiant:
[verse 11] Gan son am drugaredd a grâs dy dyrnas, a'i chadernyd: Fal dyna'r gerdd sydd yn parhau, yn eu genenau hyfryd. [verse 12] Fel y parent drwy hyfryd glod, gydnabod a'th dyrnassiad, A'th nerth ym mysg holl ddynol blant, a'th lawn ogoniant gwastad.
[verse 13] Brenhmiaeth dy dyrnas di fry, a bery yn wastadol, A'th lywodraeth o oed i oed, hon a roed yn dragwyddol. [verse 14] Yr Arglwydd cynnal ef yn llonn, y rhai sy 'mron eu cwympod. Ac ef a gyfyd bawb yn wir, ar a ostyngir isod.
[verse 15] Wele, mae llygaid yr holl fyd yn disgwyl wrthyd Arglwydd, Dithau a'i porthi hwynt i gyd, bawb yn ei bryd yn ebrwydd. [verse 16] A phan agorech di dy law, o honi daw diwall-faeth: D'ewylls da yw ymborth byw, a hynny yw eu llyniaeth.
[verse 17] Holl ffyrdd yr Arglwydd cyfion ynt, a'i wrthiau ydynt sanctaidd: [verse 18] Agos iawn i bawb ydyw fo, a eilw arno'n buraidd. [verse 19] Sef ar y gwyr a'i hofnant ef, fo glyw eu llef iw gwared, Fo rydd eu wyllys hwynt a'i harch, o'i wir-barch, Ion gogoned.
[verse 20] Pob dyn a garo'r Arglwydd nef, caiff gantho ef ei 'mddiffyn: A chan ddifetha rhydd oes ferr, i bob ysceler cyndyn. [verse 21] Fy enaid traethed fendith rhwydd, a mawl yr Arglwydd nefol: A phob cnawd rhoed iw enw, y Sanct, ogoniant yn dragwyddol.
Do you have questions about this content? Need to report a problem? Please contact us.