Llyfr y Psalmau, wedi eu cyfieithu, a'i cyfansoddi ar fesur cerdd, yn gymraeg. / Drwy waith Edmund Prys Archdiacon Meirionnydd,.

About this Item

Title
Llyfr y Psalmau, wedi eu cyfieithu, a'i cyfansoddi ar fesur cerdd, yn gymraeg. / Drwy waith Edmund Prys Archdiacon Meirionnydd,.
Author
Prys, Edmund, 1544-1623.
Publication
A'i printio yn Llundain. :: [s.n.],
1621..
Rights/Permissions

To the extent possible under law, the Text Creation Partnership has waived all copyright and related or neighboring rights to this keyboarded and encoded edition of the work described above, according to the terms of the CC0 1.0 Public Domain Dedication (http://creativecommons.org/publicdomain/zero/1.0/). This waiver does not extend to any page images or other supplementary files associated with this work, which may be protected by copyright or other license restrictions. Please go to http://www.textcreationpartnership.org/ for more information.

Subject terms
Bible. -- O.T. -- Psalms. -- Paraphrases, Welsh.
Psalters.
Link to this Item
http://name.umdl.umich.edu/B00918.0001.001
Cite this Item
"Llyfr y Psalmau, wedi eu cyfieithu, a'i cyfansoddi ar fesur cerdd, yn gymraeg. / Drwy waith Edmund Prys Archdiacon Meirionnydd,." In the digital collection Early English Books Online 2. https://name.umdl.umich.edu/B00918.0001.001. University of Michigan Library Digital Collections. Accessed June 12, 2024.

Pages

Eripe Domine, Psal. 140.

Dafydd yn achwyn wrth Dduw rhag dichellion ei elynion: a chan ei sic∣crhau ei hun o gymorth Duw, mae efe yn annog y cyfion i foli Duw eu helpwr.

RHag y gwr drwg gwared fi (Ner,) rhag gwr y trowsder efrydd, [verse 2] Rhai sy'n bradychu yn ddirgel, a chasglu rhyfel beunydd. [verse 3] Fel colyn sarph yn llithrig wau, yw eu tafodau llymion: Gwenwyn yr Asp sydd yn parhau dan eu gwefusau creulon.
[verse 4] Rhag y dyn drwg, rhag y gwr traws, sy'n myfyr lliaws faglau, Duw gwared fi, rhag gosod brâd, ynghylch fy ngwastad lwybrau. [verse 5] Y beilch cuddiasant fagl a rhwyd, wrth hon gosodwyd tannau; Ar draws fy ffyrdd i ddal fy'nrhoed, ynghudd, y rhoed llinynnau.
[verse 6] Dwedais wrth f'Arglwydd fy Nuw wyd, tyn fi o'i rhwyd a'i maglau: O gwrando'n fuan f'Arglwydd nef, ar brudd lef fy ngweddiau. [verse 7] Fy Arglwydd yw fy nerth i gyd, a'm coel a'm iechyd calon; Ti a roist gudd tros fy mhen mau, yn nydd yr arfau gloywon.
[verse 8] I'r dyn annuwiol, Duw, na âd ddymuniad drwg ei'wllys; Rhag ei wneuthur efo yn gry, a'i fynd yn rhy drahâus. [verse 9] A'i holl ddymuniad drwg i mi, a'i rhegen weddi greulon, Y rhai'n yn llwyr a ddont ymmhe y capten o'm caseion.
[verse 10] Syrthied arnynt y marwor tân, ac felly llosgan ymaith, Bwrier hwynt mewn cau ffosydd nant, fel na chyfodant eilwaith. [verse 11] Dyn llawn siarad fydd anwastad, ni eistedd ef yn gryno: A drwg a ymlid y gwr traws, o hyn mae'n haws ei gwympo.
[verse 12] Da y gwn y rhydd yr Arglwydd dâi i ddial cam y truan; Ac yr iawn farna y dyn tlawd sy'n byw ar gerdawd fechan. [verse 13] Y rhai cyffawn drwy yr holl syd, dy enw a gyd-foliannant, A'r holl rai vnion, heb ofn neb, o flaen dy wyneb trigant.
Do you have questions about this content? Need to report a problem? Please contact us.