Domine probafli. Psal. 139.
Dafydd er mwyn ei lanhau ei hun, yn dangos nad oes dim yn guddiedig rhag Duw: a thrwy ddangos ei serch tuag at Dduw, y mae efe yn ymroi i fod yn elyn i'r rhai a wrthwynebant Dduw.
ARglwydd, manwl y chwiliaist fi,
da i'm adwaeni hefyd:
[verse 2] Eisteddiad, codiad, gwyddost hyn,
a'm meddwl cyn ei ddwedyd.
[verse 3] Yr wyd ynghylch fy lloches i,
a'm ffyrdd sydd ittr'n hysbys:
[verse 4] Nid oes air nas gwyddost ei fod
ar flaen fy nhafod ofnys.
[verse 5] O'm hol ac o'm blaen i'm lluniaist,
dy law a ddodaist arnaf:
[verse 6] Gwybodaeth ddieithr yw i mi,
a'i deall hi nis medraf.
[verse 7] I ba le r'af fi i roi tro,
i'mguddio rhag dy Yspryd?
I ba le ffoaf rhag dy wydd,
drwy gael ffordd rwydd i lathlyd?
[verse 8] Os dringaf tua'r nefoedd fry,
wyd yno i'th dy perffaith:
Os tua'r dyfndwr, gostwng tro
yr wyd ti yno eilwaith.
[verse 9] Pe cawn adenydd borau wawr,
a mynd i for mawr anial,
[verse 10] Yno byddai dy ddehau di,
i'm tywys i a'm cynnal.
[verse 11] A phe meddyliwn, yr ail tro,
ymguddio mewn tywyllwg,
Canol y nos fel hanner dydd,
mor olau fydd yn d'olwg.
[verse 12] Nid dim tywyllach nos i ti
nag yw goleuni haf-ddydd:
A'r ddau i ti maent yr vn ddull,
y tywyll a'r goleu-ddydd.
[verse 13] Da y gwyddost y dirgelwch mau,
f'arennau a feddiennaist,
Ynghroth fy mam pan oeddwn i,
yno dydi a'm cuddiaist.
[verse 14] Cans rhyfedd iawn y gwnaeth bwyd fi,
a'th waith di sy ryfeddod,
A'm henaid a wyr hynny'n dda
a hon a wna yt fowrglod:
[verse 15] Ni chuddiwyd fy ngrym rhagot fi,
pan wnaethoft fi yn ddirgel,
Fel llunio dyn o'r ddaiar hon,
o fewn pridd eigion isel.
[verse 16] Dy lygaid gwelsant fy nhrefn wael,
cyn imi gael perffeith-lun:
R oedd pob peth yn dy lyfr yn llawn,
cyn bod yn iawn vn gronun.
[verse 17] Mor anwyl dy feddyliau ym,
mor fawr yw sum y rhei'ni:
[verse 18] Wrth fwrw, amlach gwn eu bod
na'r tywod o rifedi.
Myfyrio pan ddeffrowyf fi,
'r wyf gyd'â thi yn gwblol.
[verse 19] O Dduw, ba achos yn dy lid,
na leddid yr annuwiol?