Vt quid Domine. Psal. x.
Achwyn rhag trais cedyrn bydol.
〈♫〉〈♫〉 O Arglwydd pa'm y sefi di,
〈♫〉〈♫〉 oddiwrthym ni cyn belled?
〈♫〉〈♫〉 Pa'm yr ymguddi di i'th rym,
〈♫〉〈♫〉 pan ydym mewn caethiwed?
[verse 2] Y drygrai sydd yn blino'r tlawd,
gan drallawd, a chan falchder:
Yn y dichellion a wnai' rhai'n,
hwynt hwy eu hunain dalier.
[verse 3] Hoff gan ddyn drwg ei chwant ei hun,
pawb yn gytun â'i bechod:
Bendithio mael ydyw eu swydd,
a'r Arglwydd maent iw wrthod.
[verse 4] Yr annuwiol ni chais Dduw ner,
(mae ef iw falchder cyfuwch:)
Ni chred ef, ac ni feddwl fod,
vn fâth awdurdod goruwch.
[verse 5] Am fod ei ffyrddmewn lwyddiant hir,
ni wyl mo'th wir gyfammod:
Bydd dordyn wrth elynion mân,
sel chwythu tân mewn sorod.
[verse 6] Fe ddwedodd hyn â'i seddwl syth,
ni ddigwydd byth y'm adfyd:
Ni'm symudir o oes i oes,
ni chaf na gloes, na drygfyd.
[verse 7] Yn ddichellgar, yn dwyllgar iawn,
a'i sasn yn llawn melldithion:
Tan ei dafod y mae camwedd,
a thraws enwiredd creulon.