Te Deum.
TYdi (o Dduw) a folwn ni,
addefwn di yn Arglwydd,
Y ddaiar oll, (dragwyddol Dad)
gwna yt addoliad hylwydd.
Arnat ti holl Angylion nef
a ront eu llef heb dewi,
Y nefoedd hefyd oddiar hyn,
a'r nerthoedd sy'n y rhei'ni,
Cherub, a Seraphin, a fydd
yn llefain beunydd attat,
Sanct, Sanct, Sanct, Arglwydd Sa∣both glan,
fal hyn y galwan arnat.
Nefoedd, a daiar sydd yn llawn
o'th wirddawn, a'th ogoniant.
Yr Apostolion, hyfryd gor,
a ron yt' ragor foliant.
Moliannus rif y Prophwydi
sy i'th foli o'r dechrenad,
A'r Merthyron ardderchog lu,
sydd i'th foliannu'n wastad.
Dy Eglwys wir gatholig lan,
(hon sydd ar dân drwy'r hollfyd)
O Arglwydd, a'th addola di,
yn vn ac yn dri hefyd.
Y Tad o anfeidrol fowredd:
gwir Fab gogonedd unig:
A hefyd y glan Yspryd pur,
sydd i ni'n gyssur diddig.
Ti wyt (O Christ yr vnig Sanct)
frenin gogoniant grasol,
Wyt hefyd i'r tragwyddol Dad
yn wirfab rhad tragwyddol.
Pan gym'raist arnat wared dyn
o feddiant gel yn anfwyn,
Diyssyr gennyt ti ni bu
dy eni o fru y forwyn.
Pan sethraist angan: tyrnas nef
i bob ffydd gref agoraist.
Yngogoniant yr hael-dad byw,
ar ddeau Duw eisteddaist.
Credu yr ym â disigl ffydd
mai ti fydd barnwr arnom:
Am hyn, er ein cynorthwyaw,
bid dy ddeheulaw drosom.
Dy bobl di ydym (o Dduw'n nerth)
prid werth dy waed sancteiddiol;
Par gael ein cyfrif gyda'th sainct
mewn gogoniaint tragwyddol.
Cadw dy bobl (o Arglwydd da)
bendithia d'etifeddiaeth.
Dyrcha hwynt byth: gwna iddynt fod
dan gysgod dy lywodraeth.