PEN. VII.
Y rhagor rhwng doethineb a phethau eraill.
DYn marwôl ydwyf finne, vn fodd a phawb [eraill,] ar yn dyfod o hiliogaeth yr hwn a luniwyd gyntaf o'r ddaiar.
2 Ac yng-hroth fy mam mi a luniwyd yn gnawd o fewn amser deng-mis, gan geulo o hâd gŵr mewn gwaed, ac o drythyllwch yn dy∣fod yng-hŷd â chwsc.
3 A phan i'm ganwyd mi a dynnais attaf yr awyr cyffredin i ni [oll,] ac a syrthiais ar yr vn naturiaeth ddaiar, yn wylofain y rhoddais i y llais cyntaf fel pawb [eraill.]
4 Mewn cawiau, a thrwy ofal i'm mag∣wyd.
5 Ni chafodd vn brenin amgen ddechreuad iw enedigaeth.
6 Vn fath ddyfodiad i fywyd sydd i bawb ac vn fath fynediad allan.
7 Am hynny mi a ddymunais, ac fe a rodd∣wyd i mi ddeall, mi a waeddais ac fe a ddaeth ys∣pryd doethineb i mi.
8 Mi ai cyfrifais hi yn well na theyrn-wie∣lyn, ac na gorseddfeudd: ac ni chyfrifais i ddim golud yn gystal â hi.
9 Ni chyffelybais i feini gwerthfawr iddi hi. Canys graienyn bychan yw pob aur yn ei golwg hi, ac fel clai y cyfrifir arian oi blaen hi.
10 Hoffais hi yn fwy nag iechyd, ac na the∣gwch: ac mi a arfaethais ei chael hi yn lle go∣leuni, oblegit ni fachluda y llewyrch [a ddaw] o honi hi.
11 Pob daioni a ddaeth i mi gyd ag y hi, a golud anifeiriol trwy ei dwylo hi.
12 Mi a lawenychais am bob vn, am fod do∣ethineb yn eu blaenori hwynt, ond ni ŵyddwn i mai hi oedd eu mam hwynt.
13 Yn ddidwyll y dyscais ac yn ddigenfi∣gen yr ydwyf yn treuthu, heb gelu ei golud hi.
14 Diball dryssor yw hi yr hwn pwy bynnac ai harfero y maent hwy yn ymgyfeiliach â Duw, gan fod yn ganmoladwy trwy y dōniau y rhai [a geir] trwy addysc.
15 Duw a roddes i mi ddywedyd yn ôl fy meddwl, a meddwl yn addas am y pethau a roddwyd, oblegit efe yw pbo vn o'r ddau, awdur doethineb, a chyfarwyddwr y doethion.
16 Yr ydym ni a'n geiriau yn ei law ef, felly y mae pob synnwyr a gwybodaeth gwaith.
17 Canys efe a roddes i mi wir ŵybodaeth am y pethau a ydynt: i wybod cyfansoddiad y byd a gwneuthuriad yr elementau.
18 [Felly] dechreu, diwedd, a chanol yr am∣serau.