2 Yna Zorobabel mab Salathiel, ac Iesus mab Iosedec a safasant i fynu, ac a ddechreua∣sant adailadu tŷ yr Arglwydd yr hwn sydd yn Ierusalem, prophwydi yr Arglwydd oeddynt gyd â hwynt yn eu cynnorthwyo.
3 Yn y cyfamser hwnnw Sisinnes llywawdr Syria a Phenice, a Sathrabuzanes ai gyfeilli∣on a ddaethant attynt hwy, ac a ddywedasant wrthynt,
4 Drwy orchymyn pwy 'r ydych chwi yn a∣dailadu y tŷ hwn, a'r adailadaeth ymma؛ ac yn defnyddio yr holl bethau eraill ymma؛ a phwy yw 'r adailad-wŷr y rhai ydynt yn bwriadu y fâth bethau؛
5 Onid henuriaid yr Iddewon a gawsent ffafor gan yr Arglwydd wedi iddo ef ymweled a'r caethiwed,
6 Fel na rwystrwyd hwynt i adailadu nes hyspyssu i Ddarius y pethau hynn, a chael at∣teb [oddi wrtho ef.]
7 Coppi o'r llythr yr hwn a scrifennodd efe ac a anfonodd at Ddarius. Sisinnes llywiawdr Syria a Phenice, a Sathrabuzanes ai cyfeilli∣on pennaethiaid Syria a Phenice yn annerch brenin Darius.
8 Bydded hyspys oll i'n harglwydd frenin mai pan ddaethom ni i wlad Iuda, a myned i mewn i ddinas Ierusalem nyni a gawsom yn ninas Ierusalem henuriaid yr Iddewon y rhai oeddynt o'r gaeth-glud,
9 Yn adailadu tŷ i'r Arglwydd, mawr a ne∣wydd, o gerric nâdd gwerthfawr, a'r coed we∣di eu gosod eusus ar y magwyrydd.
10 Ac yr ydys yn gwneuthur y gwaith hwn ar frŷs, ac y mae y gwaith yn myned yn llwy∣ddiannus yn eu dwylo hwynt, a thrwy ogoni∣ant, ac astudrwydd y gorphennir ef:
11 Yna nyni a ofynnasom iw henuriaid gan ddywedyd: drwy orchymyn pwy yr ydych chwi yn adailadu y tŷ hwn, ac yn sylfaenu y gwaith ymma؛
12 Nyni a ofynnasom y pethau hyn iddynt hwy, ar fedr eu hyspyssu hwynt i ti, ac scrifennu attat ti [enwau] y gwŷr y rhai ydynt yn lwyo∣draeth-wŷr arno: am hynny nyni a ofynnasom iddynt enwau y llywawd-wŷr yn scrifennedic.
13 Ond hwynt a'n hattebasant gan ddywe∣dyd: gweision ydym ni i'r ARglwydd yr hwn a greawdd y nefoedd a'r ddaiar.
14 A'r tŷ hwnn a adailadwyd er ys llawer o flynyddoedd drwy frenin Israel, mawr a cha∣darn, ac a orphennwyd.
15 Ond pan annogodd ein tadau ni [Dduw] i ddigllonedd, [a phan] bechasant yn erbyn Ar∣glwydd Israel [yr hwn sydd] yn y nefoedd, efe ai rhoddes hwynt yn nwylo Nabuchodonosor brenin Babilon, a'r Caldeaid.
16 [Y rhai] a ddrylliasant y tŷ, [ac] ai llos∣casant ef, ac a gaeth-gludasant y bobl i Babilon,
17 Ond yn y flwyddyn gyntaf o deyrnasiad Cyrus ar wlad Babilon, y brenin Cyrus a scri∣fennodd [orchymyn] am adailadu y tŷ hwll [eil-waith.]
18 A'r llestri sanctaidd o aur, ac o arian, y rhai a ddugase Nabuchodonosor allan o'r tŷr yn Ierusalem, ac ai cyssegrase hwynt yn ei Deml ei hun, Cyrus y brenin ai dug hwynt allan o'r Deml yn Abilon, ac ai rhoddodd hwynt i Zo∣robabel, ac i Sanabassarus y llywawdr:
19 Gan orchymyn iddo ef ddwyn ymmaith y llestri hynny, ai gosod hwynt o fewn y Deml yn Ierusalem, ac adailadu Teml yr Arglwydd yn ei chyfle.
20 A phan ddaeth Sanabassarus ymma, efe a sylfaenodd dŷ yr Arglwydd yn Ierusalem, ac er y pryd hynny hyd yr awr hon yr ydys yn ei a∣dailadu, [ac] ni's gorphennawyd ef [etto.]
21 Ac yn awr o rhynga bodd i'r brenin, cei∣sier allan yn nhŷ llyfrau y brenin [siccrwydd] am [yr hyn a wnaeth] Cyrus.
22 Ac o cheir, fod adailadaeth tŷr yr Arglwydd yn Ierusalē, wedi ei gwneuthur drwy gyd tun∣deb brenin Cyrus, ac os rhynga bodd i'r arglw∣ydd ein brenin attebed efe i ni am y pethau hyn.
23 Yna y brenin Darius a orchymynnodd chwilio tŷ llyfrau y brenin yr hwn oedd yn Ba∣bilon, ac fe a gafwyd yn Echatane, yr hon sydd yn y tŵr yng-wlad Media fann lle y byddid yn gosod y fath bethau a hynny yn goffadwriaeth.
24 Yn y flwyddyn gyntaf o deyrnasiad Cy∣rus, y brenin Cyrus a orchymynnodd adailadu tŷ yr Arglwydd yn Ierusalem lle yr aberthent â thân gwastadol.
25 Vchter yr hwn [fydde] drugain cufydd, ai lêd yn drugain cufydd, a thair rhês o gerric nâdd, ac vn rhês o goed newydd o'r wlad honno, a'r draul a roddid o dŷ brenin Cyrus.
26 A'r llestri sanctaidd o dŷ yr Arglwydd, yn aur ac yn arian y rhai a ddugase Nabuchodono∣sor ymmaith o'r tŷ yn Ierusalem, ac ai eludase i Babilon a roddid trachefn i'r tŷ yn Ierusalem ac a osodid yn y fann lle yr oeddynt.
27 Hefyd efe a orchymynnodd i Sisiones llywawdr Syria a Phenice, ac i Sathrabuza∣nes ai cyfeillion, ac i eraill y rhai oeddynt wedi eu gosod yn lywodraeth-wŷr yn Syria a Phe∣nice ochelyd gorafyn y fann honno, eithr gadel i Zorobabel gwâs yr Arglwydd a llywydd Iuda, ac i henuriaid yr Iddewon adailadu tŷ yr Arg∣lwydd yn y fann honno.
28 Ac mi a orchymynnais hefyd ei adailadu ef yn gyfan eil-waith, ac iddynt hwy fod yn astud i gynnorthwyo y rhai oeddynt o gaeth-glud yr Iddewon nes gorphenn tŷ yr Arglwydd,
29 A rhoddi dogn allan o deyrn-ged Coelo∣syria a Phenice yn ddyfal i'r gwŷr hynn tu ag at ebyrth i'r Arglwydd, ac i Zorobabel y lly∣wydd tu ag at deirw, hyrddod, ac ŵyn.
30 Yd hefyd, a hâlen, a gwîn, ac olew yn oe∣stadol bob blwyddyn heb ballu, fel y testiolae∣tho yr offeiriaid y rhai ydynt yn Ierusalem fod yn ei dreulio beunydd,