PEN. XXVI.
Dafydd eilwaith yn gallu lladd Saul, ac yn ei arbed ef.
Yna y Ziphiaid a ddaethant at Saul i Gibea gan ddywedyd: onid [ydyw] Dafydd yn llechu ym mryn Hachila ar gyfer y diffaeth∣wch؛
2 Yna y cyfododd Saul, ac a aeth i wared i a∣nialwch Ziph a thair m••l o etholedigion gwŷr Israel gyd ag ef, i geisio Dafydd yn anialwch Ziph.
3 A Saul a werssyllodd ym mryn Hachila, yr hwn [sydd] ar gyfer y diffaethwch wrth y ffordd: a Dafydd oedd yn aros yn yr anialwch, ac efe a ganfu Saul wedi dyfod ar ei ôl ef i'r a∣nialwch.
4 (Canys Dafydd a anfonase chwil-wŷr, ac a ŵybu ddyfod o Saul yn siccr.)
5 Yna y cyfododd Dafydd, ac y daeth i'r lle yr hwn y gwerssyllase Saul ynddo, a chanfu Dafydd y lle yr hwn yr oedd Saul yn gorwedd ynddo, ac Abner mab Ner tywysog ei filwria∣eth ef: a Saul oedd yn gorwedd yn y werssyll∣fa, a'r bobl yn gwerssyllu oi amgylch ef.
6 Yna y llefarodd Dafydd, ac y dywedodd efe wrth Ahimelec yr Hethiad, ac wrth Abisai fab Serfia brawd Ioab gan ddywedyd, pwy a aiff i wared gyd a mi at Saul i'r gwerssyll؛ yna y dywedodd Abisai, myfi a âf i wared gyd a thi.
7 Felly y daeth Dafydd, ac Abisai at y bobl liw nos, ac wele Saul yn gorwedd, [ac] yn cys∣cu yn y werssyllfa, ai waiwffon wedi ei gwthio i'r ddaiar [wrth] ei obennydd ef: ac Abner, a'r bobl oeddynt yn gorwedd oi amgylch ef.
8 Yna y dywedodd Abisai wrth Ddafydd, Duw a roddes heddyw dy elyn di yn dy law di: ac yn awr gad i mi ei daro ef attolwg a gwai∣wffon hyd y ddaiar vn waith, ac nis ail tarawaf ef.
9 A Dafydd a dywedodd wrth Abisai, na ddifetha ef, canys pwy a estynne ei law yn erbyn eneiniog yr Arglwydd, ac a fydde ddiniwed؛
10 Dywedodd Dafydd hefyd, [fel] y mae yr Arglwydd yn fyw, y naill ai yr Arglwydd ai teru ef: neu ei ddydd ef addaw i farw, neu efe a ddescyn i'r rhyfel, ac a ddifethir.
11 Yr Arglwydd a'm cadwo i rhac estyn fy llaw yn erbyn eneiniog yr Arglwydd: ac yn awr cymmer attolwg y waiw-ffon yr hon [sydd wrth] ei obennydd ef, a'r phioled ddwfr, ac awn ymmaith.
12 A Dafydd a gymmerth y waiw-ffon, a'r phiol••d ddwfr oddi wrth obennydd Saul, a hwy a aethant ymmaith: ac nid oedd [neb] yn gweled, nac yn gwybod, nac yn neffro, canys hwynt oll oeddynt yn cyscu, o herwydd trwm∣gwsc yr Arglwydd a syrthiase arnynt hwy.
13 Yna Dafydd a aeth i'r tu hwnt, ac a safodd ar ben y mynydd o hir-bell, [ac] encyd fa∣wr rhyngddynt.
14 A Dafydd a lefodd ar y bobl, ac ar Ab∣ner fab Ner gan ddywedyd, onid attebi di Ab∣ner؛ yna Abner a attebodd, ac a ddywedodd, pwy [ydwyt] ti [yr hwn] a elwaist ar y brenin؛
15 A Dafydd a ddywedodd wrth Abner, o∣nid gŵr [ydwyt] ti؛ a phwy [sydd] fel ti yn Is∣rael؛ a pha ham na chedwaist dy arglwydd