PEN. XIX.
Anaturiol bechod y Gibeaid. 29 y modd y darniodd y Lefiad ei wraig, i beri i Israel dosturio wrth ei gam ef.
AC yn y dyddiau hynny, pan nad [oedd] frenin yn Israel: yr oedd rhyw Lefiad yn aros yn ystlysau mynydd Ephraim, ac efe a gymmerodd iddo ordderch-wraig o Bethle∣hem Iuda.
2 Ai ordderchwraig ef a butteiniodd gyd ag ef, ac a aeth ymmaith oddi wrtho ef i dŷ ei thâd i Bethlehem Iuda: ac yno y bu hi bedwar mîs o ddyddiau.
3 Yna ei gŵr hi a gyfododd, ac a aeth ar ei hôl i ddywedyd yn dêg wrthi hi, [ac] iw throi adref, ei langc hefyd [oedd] gyd ag ef, a chwpl o assynnod: a hi ai dûg ef i mewn i dŷ ei thad, pan welodd tad y llangces ef, yna efe a lawenychodd am gyfarfod ag ef.
4 Ai chwegrwn ef, tâd y llangces ai daliodd ef [yno], ac efe a dariodd gyd ag ef dri-diau: bwytasant hefyd, ac yfasant, a lleteuasant yno.
5 A'r pedwerydd dydd y cyfodasant yn fo∣rau, yntef a gyfododd i fyned ymmaith: a thad y llangces a ddywedodd wrth ei ddaw, nertha dy galon a thammed o fara, ac wedi hynny dôs ymmaith.
6 Felly hwynt a eisteddasant, ac a fwyta∣sant ill dau yng-hyd, ac a yfasant: a thâd y llang∣ces a ddywedodd wrth y gŵr, bydd fodlon at∣tolwg, ac aros dros nôs fel y llawenhao dy ga∣lon.
7 Ond y gŵr a gyfododd i fyned ymmaith: ai chwegrwn ef a fu daer arno: am hynny efe a drôdd, ac a leteuodd yno.
8 Ac efe a gyfododd yn forau y pummed dydd i fyned ymmaith, a thâd y llangces a ddy∣wedodd, cyssura dy galon attolwg, ac hwy a dri∣gasant nes gostwng y dydd: ac a fwytasant ill dau.
9 Yno y gŵr a gyfododd i fyned ymmaith efe ai ordderch, ai langc: ai chwegrwn tâd y llangces a ddywedodd wrtho ef, wele yn awr y dydd a laesodd i hwyrhau, arhoswch tros nôs at∣tolwg, wele yr haul yn machludo, trig ymma fel y llawenycho dy galon, a chodwch yn forau y foru i'ch taith, fel yr elech i'th babell.
10 A'r gŵr ni fynne aros, eithr cyfododd ac aeth ymmaith, a daeth hyd ar gyfer Iebus, hon [yw] Ierusalem: a chyd ag ef gwpl o a∣ssynuod llwythoc, ai ordderch-wraig gyd ag ef.
11 [Pan oeddynt] hwy wrth Iebus, yr o∣edd y dydd ar ddarfod, yna y llangc a ddywedodd wrth ei feisir, dos attolwg fel y trôm i ddinas y Iebusiaid, ac y lleteuom ynddi.
12 Ai feistr a ddywedodd wrtho ef, ni throiwn ni i ddinas estronol, yr hon nid [yw] o feibion Israel: eithr nyni a awn hyd Gibea.
13 Ac efe a ddywedodd wrth ei langc, tyret a nessawn i vn o'r lleoedd hynny, fel y lleteuom yn Gibea, neu Ramah.
14 Felly y cerddasant, ac yr aethant: a'r haul a fachludodd iddynt wrth Gibea yr hon [oedd] eiddo Beniamin.
15 Ac hwy a droasant yno i ddyfod i mewn i Leteû i Gibea: ac efe a ddaeth i mewn, ac a eisteddodd yn heol y ddinas, canys nid [o∣edd] neb ai cymmere hwynt [iw] dŷ i leteû.
16 Ac wele ŵr hên yn dyfod oi waith o'r maes yn hwyr, a'r gŵr [oedd] o fynydd Ephra∣im, ond ei fod ef yn ymdaith yn Gibea: a gwŷr y lle hwnnw [oeddynt] feibion Iemini.
17 Ac efe a dderchafodd ei lygaid, ac a gan∣fu y gŵr yr hwn oedd yn ymdaith yn heol y ddinas: yna y gŵr hên hwnnw a ddywedodd, i ba le yr ei di, ac o ba le y daeihost؛
18 Yntef a ddywedodd wrtho, trammwyo 'r ydym ni o Bethlehem Iuda i ystlysau mynydd Ephraim o'r lle i'm [heniw,] a mi a euthum