PEN. VIII.
Dychweliad y bobl i Ierusalem, Daioni Duw iddynt. Gwir wasanaeth Duw. Galwedigaeth y cenhedlo∣edd.
YNa y daeth gair Arglwydd y lluoedd [at∣taf] gan ddywedyd:
2 Fel hyn y dywed Arglwydd y lluoedd, eiddigeddais eiddigedd mawr dros Sion, ac mewn llid mawr yr eiddigeddais drosti.
3 Fel hyn y dywed yr Arglwydd, dychwe∣laf at Sion, a thrigaf yng-hanol Ierusalem, ac Ierusalem a elwir, dinas y gwirionedd, a my∣nydd Arglwydd y lluoedd, mynydd sanctaidd.
4 Fel hyn y dywed Arglwydd y lluoedd, hên wŷr, a hên wragedd a eisteddant etto yn heolydd Ierusalem, a'r gŵr ai ffon yn ei law o amlder dyddiau.
5 Heolydd y ddinas a lenwir o fechgin, a ge∣nethod, yn chware yn ei heolydd.
6 Fel hyn y dywed Arglwydd y lluoedd, os anhawdd yw [hyn] yn y dyddiau hynny yng-o∣lwg gweddill y bobl hyn: ai anhawdd fydde hefyd yn fyng-olwg innef, medd Arglwydd y fluoedd؛
7 Fel hyn y dywed Arglwydd y lluoedd, wele fi yn gwaredu fy mhobl o dîr codiad, ac o dîr machludiad haul.
8 A gwnaf iddynt ddyfod fel y presswyli∣ant yng-hanol Ierusalem: a byddant yn bobl i mi, a byddaf iddynt hwythau yn Dduw, mewn gwirionedd, ac mewn cyfiawnder.
9 Fel hyn y dywed Arglwydd y lluoedd cryfhaer eich dwylo chwi y rhai ydych yn cly∣wed (yn y dyddiau hyn) y geiriau hyn o enau y prophwydi (y rhai [oeddynt] yn y dydd y sylfa∣enwyd tŷ Arglwydd y lluoedd) am adailadu y Deml.
10 Canys cyn y dyddiau hyn nid oedd tal [llafur] i ddŷn, na thâl i anifail, na heddwch i'r [vn] a ele allan, nac a ddele i mewn gan y gor∣thrymmwr: o blegit gyrrais ddynion bob vn ym mhen ei gymydog.
11 Ond bellach ni [byddaf] fi i weddill y bobl hyn, megis yn y dyddiau cyntaf, medd Ar∣glwydd y fluoedd.
12 Canys [bydd] hâd heddwch, y winwy∣ddē a rydd ei ffrwyth, a'r ddaiar, a ddŷd ei chyn∣nyrch, a'r nefoedd a roddant eu gwlith, a pha∣raf i weddill y bobl hyn etifeddu yr holl bethau hyn.