PEN. IX.
Aaron yn dechreu offrymmu. 22 Ac yn bendithio y bobl. 23 Gogoniant Duw yn ymddangos.
"YNa y bu ar yr wythfed dydd i Moses alw am Aaron ac am ei feibion, ac am henuri∣aid Israel.
"2 Ac efe a ddywedodd wrth Aaron, cymmer it lô ieuangc yn aberth tros bechod, a hwrdd yn boeth offrwm o rai perffaith-gwbl, a dwg [hwynt] ger bron yr Arglwydd.
"3 Llefara hefyd wrth feibion Israel, gan ddywedyd: cymmerwch lwdn gafr gwryw, yn aberth tros bechod, a llô, ac oen blwyddiaid perffaith-gwbl yn boeth offrwm.
"4 Ac eidion, a hwrdd y aberth hedd, i aber∣thu ger bron yr Arglwydd: a bwyd offrwm wedi ei gymmyscy trwy olew: o herwydd he∣ddyw yr ymddengys yr Arglwydd ichwi.
"5 A dugasant yr hyn a orchymynnodd Mo∣ses ger bron pabell y cyfarfod: a'r holl gynnu∣l••eidfa a ddaethant ac a safasant ger bron yr Ar∣glwydd.
"6 A dywedodd Moses gwnewch y peth hynn, yr hwn a orchymynnodd yr Arglwydd: ac ymddengys gogoniant yr Arglwydd i chwi.
"7 Dywedodd Moses hefyd wrth Aaron, dos at yr allor ac abertha dy aberth tros bechod, a'th boeth offrwm a gwna iawn* 1.1 drosot dy hun, a thros y bobl, ac abertha offrwm y bobl, a gwna iawn drostynt, fel y gorchymynodd 'r Arglwydd
"8 Yna y nessaodd Aaron at yr allor, ac a la∣ddodd lô yr aberth tros bechod, yr hwn [oedd] trosto ef ei hun.
"9 A meibion Aaron a ddugasant y gwaed atto, ac efe a wlychodd ei fys yn y gwaed, ac ai gossododd ar gyrn yr allor, ac a dywalltodd y gwaed [arall] wrth waelod yr allor.
"10 Ond efe a losgodd ar yr allor o'r aberth tros bechod y gwêr a'r arennau, a rhwyden yr ast, fel y gorchymynase yr Arglwydd wrth Moses.
"11 A'r cîg, a'r croen a losgodd efe mewn tân: o'r tu allan i'r gwerssyll.
"12 Ac efe* 1.2 a laddodd y poeth offrwm, a mei∣bion Aaron a ddugasant y gwaed atto, ac efe ai taenellodd ar yr allor o amgylch.
"13 A dugasant y poeth offrwm atto 'n ddarnau ai ben hefyd: ac efe ai llosgodd hwynt ar 'r allor.
"14 Ac efe a olchodd y perfedd a'r traed, ac ai llosgodd hwynt yng-hyd a'r offrwm poeth ar 'r allor.
"15 Hefyd efe a ddug offrwm y bobl, ac a gymmerodd fwch yr aberth tros bechod yr hwn [oedd] tros y bobl, ac ai lladdodd, ac ai hoffrym∣modd tros bechod, fel y cyntaf.
"16 Ac efe a ddug y poeth offrwm, ac ai hoff∣rymmodd yn ol y ddefod.
"17 Felly efe a ddug y bwyd offrwm ac a lanwodd ei law o honaw, ac [ai] llosgodd ar yr allor heb law poeth offrwm y boreu.
"18 Ac efe a laddodd ŷch a hwrdd yr aberth hedd, yr hwn [oedd] tros y bobl: a meibion Aa∣ron a ddugasant y gwaed atto, ac efe ai taenell∣odd ef ar yr allor o amgylch.
"19 [Cymmerasant] hefyd o'r ŷch y gwêr: ac o'r hwrdd y gloren, ar wêren fol, a'r arennau, a rhwyden yr ast.
"20 A gosodasant y gwêr ar y parwydennau, ac efe a losgdd y gwêr ar yr allor.
"21 Y parwydennau hefyd, a'r yscwyddoc dde∣hau a gwhwfanodd Aaron yn offrwm cwbw∣fan ger bron yr Arglwydd fel y gorchymyn∣nodd Moses.
"22 A chododd Aaron ei law ar y bobl, ac ai bendithiodd, ac a ddaeth i wared o wneuthur yr aberth tros bechod, a'r poeth offrwm, a'r aberth hedd.
"23 Yna y daeth Moses ac Aaron i babell y cyfarfod, ac aethant allan, ac a fendithiasant y bobl, a gogoniant yr Arglwydd a ymddango∣sodd i'r holl bobl.
"24 Ac* 1.3 aeth tân allan oddi ger bron yr Argl∣wydd, ac a yssodd y poeth offrwm, a'r gwêr ar yr allor: a gwelodd yr holl bobl, a gwaeddasant a chwympasant ar eu hwynebau.