Y Beibl Cyssegr-lan. Sef yr Hen Destament, a'r Newydd..

About this Item

Title
Y Beibl Cyssegr-lan. Sef yr Hen Destament, a'r Newydd..
Publication
Imprinted at London :: by the deputies of Christopher Barker, Printer to the Queenes most excellent Maiestie.,
1588..
Rights/Permissions

To the extent possible under law, the Text Creation Partnership has waived all copyright and related or neighboring rights to this keyboarded and encoded edition of the work described above, according to the terms of the CC0 1.0 Public Domain Dedication (http://creativecommons.org/publicdomain/zero/1.0/). This waiver does not extend to any page images or other supplementary files associated with this work, which may be protected by copyright or other license restrictions. Please go to http://www.textcreationpartnership.org/ for more information.

Cite this Item
"Y Beibl Cyssegr-lan. Sef yr Hen Destament, a'r Newydd.." In the digital collection Early English Books Online 2. https://name.umdl.umich.edu/B00772.0001.001. University of Michigan Library Digital Collections. Accessed May 26, 2024.

Pages

"PEN. X.

"1 Pechod Nadab ac Abihu, ai marwolaeth. 9 Gwha∣rdd gwin i'r offeiriaid. 12 Rhan yr offeiriaid o'r a∣berthau.

"YNa Nadab, ac Abihu meibion Aaron a gymmerasant bob vn ei thusser, ac a rodda∣sant dân ynddynt, ac a osodasant arogl-darth ar hynny ac a offrymmasant ger brō yr Arglwydd dân dieithr, yr hwn ni orchymynnase efe iddynt.

"2 A daeth tân allan oddi ger bron yr Argl∣wydd, ac ai difaodd hwynt: a buant feirw ger∣bron yr Arglwydd.

"3 A dywedodd Moses wrth Aaron, dyna 'r hyn a lefarodd yr Arglwydd gan ddywedyd, mi

Page 45

a sancteiddir yn y rhai a nessânt attaf, a cherbron yr holl bobl i'm gogoneddir: A thewi a wnaeth Aaron.

"4 Yna y galwodd Moses am Misael, ac El∣saphan meibion Oziel ewythr Aaron frawd ei dad, a dywedodd wrthynt, dewch yn nês, dy∣gwch eich brodyr oddi ger bron y cyssegr i'r tu allan i'r gwerssyll.

"5 A nessau a wnaethant 'ai dwyn hwynt yn eu peisiau i'r tu allan i'r gwerssyll fel y llefarase Moses.

"6 A dywedodd Moses wrth Aaron, at wrth Eleazar, ac wrth Ithamar ei feibion, na ddios∣gwch oddi am eich pennau, ac na rwygwch eich gwiscoedd, rhac iwch feirw a sorrio honaw ef wrth yr holl gynnulleidfa: ond ŵyled eich bro∣dyr chwi holl dŷ Israel, am y llosciad, yr hwn a losgodd yr Arglwydd.

"7 Ac nac ewch allan o ddrws pabell y cyfar∣fod, rhac iwch farw, o herwydd [bod] olew eni∣niad yr Arglwydd arnoch chwi: A gwnae∣thant fel y llefarodd Moses.

"8 Llefarodd yr Arglwydd hefyd wrth Aa∣ron, gan ddywedyd:

"9 Gwîn a diod gadarn nac ŷf di, na'th feibi∣on gyd a thi, pan ddeloch i babell cyfarfod, fel na byddoch feirw: deddf dragywyddol drwy eich cenhedlaethau [fydd hynn]

"10 A [hynny] er gwahanu rhwng cyssegre∣dic a digyssegredic, a rhwng aflan a glân:

"11 Ac i ddyscu i feibion Israel yr holl ddedd∣fau y rhai a lefarodd yr Arglwydd wrthynt, drwy law Moses.

"12 A llefarodd Moses wrth Aaron, ac wrth Eleazar ac wrth Ithamar, y rhan arall oi fei∣bion ef, cymmerwch y bwyd offrwm yr hwn sydd yng-weddill o ebyrth tanllyd yr Arglw∣ydd, a bwyttewch yn groiw gerllaw 'r allor: o herwydd sancteidd-beth cyssegredic yw.

"13 A bwyttewch ef yn y lle sanctaidd o her∣wydd dy ran di, a rhan dy feibion di o ebyrth tanllyd yr Arglwydd yw hynn: canys fel hynn i'm gorchymynnwyd.

"14 Parwyden yr offrwm cwhwfan, hefyd ac ysgwrddoc yr offrwm derchafel a fwytte∣wch mewn lle glân: ty di, a'th feibion, a'th fer∣ched, yng-hyd a thi: o herwydd hwynt a rodd∣wyd y rhan i ti, ac yn rhan i'th feibion di o e∣byrth hedd meibion Israel.

"15 Yscwyddoc yr offrwm derchafel, a pha∣rwyden yr offrwm cwhwfan a ddygant yng-hyd ac ebyrth tanllyd o'r gwer, i gwhwfan off∣rwm cwhwfan ger bron yr Arglwydd, a byddet i ti, ac i'th blant gyda thi yn rhan dragywyddoi: fel y gorchymynnodd yr Arglwydd.

"16 A Moses a geisiodd yn ddyfal fwch yr a∣berth tros bechod, ac wele ef wedi ei losci, ac efe a ddigiodd wrth Eleazar, ac wrth Ithamar y rhan arall o feibion Aaron gan ddywedyd.

"17 Pa ham na fwyttawsoch yr aberth tros bechod yn y lle sanctaidd: o herwydd sancceidd∣beth cyssegredic [yw] efe, ac efe, ai rhoddoddi i chwi, i ddwyn anwiredd y gynnulleidfa gau wneuthur iawn trostynt ger bron yr Arglwydd

"18 Wele ni ddygwyd ei waed ef i fewn y cyssegr: ei fwytta a ddylasech yn y cyssegr, fel y gorchymynnais.

"19 A dywedodd Aaron wrth Moses, wele heddyw yr offrymmasant eu haberth tros bech∣od, ai poeth offrwm ger bron yr Arglwydd: ac fel hyn y digwyddodd i mi, am hynny os bw∣yttawn aberth tros bechod heddyw, a fydde hyn∣ny dda yng-olwg yr Arglwydd?

"20 Yna y gwrandawodd Moses, ac y bu fodlon.

Notes

Do you have questions about this content? Need to report a problem? Please contact us.