"7 Noethni dy dâd, a noethni dy fam, na ddinoetha: dy fam yw hi na ddinoetha ei noethni
"8 Na ddinoetha noethni gwraig dy dâd: noethni dy dâd [yw] hynny.
"9 [Am] noethni dy chwaer, merch dy dâd, neu ferch dy fam, yr hon a anwyd gartref, neu a anwyd allan: na ddinoetha ei noethni hwynt.
"10 [Am] noethni merch dy fâb, neu ferch dy ferch, na ddinoetha ei noethnihwynt, canys dy noethni di [ydynt.]
"11 [Am] noethni merch gwraig dy dâd, plentyn dy dâd, dy chwaer dithe yw hi, na ddino∣etha ei noethni hi.
"12 Na ddinoetha noethni chwaer dy dâd, cyfnessaf dy dâd [yw] hi.
"13 Na ddinoetha noethni chwaer dy fam, canys cyfnessaf dy fam [yw] hi.
"14 Na noetha noethni brawd dy dâd, sef na nessa at ei wraig ef, dy fodryb [yw] hi.
"15 Na noetha noethni dy waudd, gwraig dy fâb yw hi, na noetha ei noethni hi.
"16 Na ddinoetha noethni gwraig dy frawd, noethni dy frawd [yw] hynny.
"17 Na noetha noethni gwraig, ai merch, na chymmer ferch ei mâb hi neu ferch ei merch hi, i noethi ei noethni hi, ei chyfnessaf hi yw y rhai hyn, scelerder yw hyn.
"18 Hefyd na chymmer wraig yng-hyd ai chwaer, iw chystuddio [hi] gan noethi noethni honno: yng-hyd a hithe yn ei byw hi.
"19 Ac na nessà at wraig yn naillduaeth ei haflendid, i noethi ei noethni hi.
"20 Ac na ddod dy gydorweddiad i hadu gyd a wraig dy gymydog, i fod yn aflân oi phle∣git.
"21 Ac na ddod o'th hâd i fyned trwy [dan] i Moloch, ac na haloga enw dy Dduw: myfi [ydwyf] yr Arglwydd.
"22 Ac na orwedd gyd a gwryw, fel gor∣wedd gyd a benyw, ffieidddra [yw]hynny.
"23 Ac na ddod dy orweddiad yng-hyd ag vn anifail, i fod yn aflân gyd ag ef: ac na safed gwraig o flaen vn anifail i orwedd tano, cy∣myscedd [yw] hyny.
"24 Nac ymhalogwch yn yr hoff bethau hyn, canys yn hyn oll yr halogwyd y cenhedlo∣edd y rhai yr ydwyf yn eu gyru allan o'ch bla∣en chwi.
"25 A'r wlad a halogwyd, am hynny yr yd∣wyf yn ymweled ai hanwiredd yn ei herbyn fel y chwdo y wlâd ei thrigolion.
"26 Ond cedwch chwi fy-neddfau, a'm bar∣nedigaethau mau fi, ac na wnewch ddim o'r holl ffiaid bethau hyn, y priodor, na'r dieithr-ddyn yr hwn sydd vn ymdaith yn eich mysc.
"27 O herwydd yr holl ffiaid bethau hyn a wnaeth gwŷr y wlâd, yr hon [sydd] o'ch blaen, a'r wlâd a halogwyd.
"28 Fel na chwdo y wlâd chwithau, pan ha∣logoch hi, megis y chwda hi y genedl yr hon [sydd] o'ch blaen.
"29 Canys pwy bynnac a wnel ddim or holl ffiaidd beth'au hyn, torrir yr eneidiau ai gwnelo o blith eu pobl.
"30 Am hynny cedwch fy-neddf mau fi, heb wneuthur [yr vn] o'r deddfau ffiaidd y rhai a wnaed o'ch blaen chwi, ac nac ymhalogwch yn∣ddynt : myfi [ydwyf] yr Arglwydd eich Duw chwi.