"PEN. XVII.
"Gorchymyn dwyn pob aberth i ddrws y babel. 7 Gwa∣hardd offrymmu i gythreuliaid. 10 Gwahardd bw∣ytta gwaed. 15 A'r peth a fydd farw o honaw ei hun, a'r peth a ladd pryf.
"A Llefarodd yr Arglwydd wrth Moses, gan ddywedyd:
"2 Llefara wrth Aaron ac wrth ei feibion, ac wrth holl feibion Israel, a dywet wrthynt, dym∣ma y peth yr hwn a orchymynuodd yr Arglw∣ydd, gan ddywedyd:
"3 Pob vn o dŷ Israel yr hwn a laddo ŷch, neu hes bwrn, neu afr, o fewn y gwerssyll, neu 'r hwn a laddo allan o'r gwerssyll:
"4 Ac heb ei ddwyn i ddrws pabell y cyfar∣fod, i offrymmu offrwm i'r Arglwydd, o flaen tabernacl yr Arglwydd, gwaed a fwrir yn er∣byn y gŵr hwnw, gwaed a dywalltodd efe, a thorrir y gŵr hwnnw ymmaith o blith ei bobl.
"5 O herwydd yr hwn beth, dyged meibion Israel eu haberthau y rhai y maent yn eu ha∣berthu ar wyneb y maes, îe dygant hwynt i'r Arglwydd i ddrws pabell y cyfarfod, at yr offei∣riad yr aberthant hwynt yn aberthau hedd i'r Arglwydd.
"6 A thaenelled yr offeiriad y gwaed ar all∣or yr Arglwydd [wrth] ddrws pabell y cyfar∣fod, a llosced y gwêr* 1.1 yn arogl eswyth i'r Ar∣glwydd.
"7 Ac nac aberthant eu haberthau mwy i gy∣threuliaid y rhai y buant yn putteinio ar eu hol: deddf dragywyddol fydd hyn iddynt, yn eu cenedlaethau.
"8 Dywet gan hynny wrthynt, pwy bynac o dŷ Israel, ac o'r dieithriaid (y rhai a ymdeithi∣ant yn eich mysc) a offrymmo boeth offrwm, neu aberth [arall,]
"9 Ac nis dwg ef i ddrws pabell y cyfarfod, iw offrymmu i'r Arglwydd, y torrir y gŵr hwnnw oddi wrth ei bobl.
"10 A phwy bynnac o dŷ Israel ac o'r dieithr a ymdeithio yn eich mysc a fwyttu ddim gwa∣ed, rhoddaf fy wyneb yn erbyn yr enaid a fwyttu y gwaed, a thorraf ef ymmaith o fysc ei bobl.
"11 O herwydd enioes y cnawd sydd yn y gwaed a mi ai rhoddais i chwi ar yr allor, i wneuthur iawn tros eich eneidiau: o herwyd y gwaed hwn a wna iawn tros enaid,
"12 Am hynny y dywedais wrth feibion Is∣rael, na fwyttaed vn enaid o honoch waed, a'r dieithr a ymdeithio yn eich mysc na fwytiaed waed.
"13 A phwy bynnac o feibion Israel, neu o'r dieithr yr hwn a ymdeithio yn eu mysc a helio helfa o fwyst-fil, neu o aderyn yr hwn a fw∣ytteir, tywallted ymmaith ei waed ef, a chudd∣ied ef a llwch.
"14 O herwydd enioes pôb cnawd yw ei waed, yn Ile ei enioes y mae efe, am hynny y dywedais wrth feibion Israel,* 1.2 na fwyttewch waed vn cnawd, o herwydd enioes pôb cnawd yw ei waed: pwy bynnac ai bwytu a dorrir ymmaith.
"15 A phôb dyn a'r a fwyttu furgyn neu scly∣faeth, o briodor neu o ddieithr-ddyn, golched ei ddillad, ac ymolched mewn dwfr, a bydded a∣flan hyd yr hwyr: yna glân fydd.
"16 Ond os efe nis gylch [hwynt,] ac ni ylch ei gnawd: yna y dŵg efe ei anwiredd.