PEN. XI.
"Yr anifeiliaid, y pyscod, a'r Adar sy lân neu aflan.
"A Llefarodd yr Arglwydd wrth Moses ac Aaron, gan ddywedyd wrthynt:
"2 Lleferwch wrth feibion Israel gan ddy∣wedyd,* 1.1 dymma y bwyst-fil yr hwn a fwyttewch o bôb anifail yr hwn [sydd] ar y ddaiar.
"3 Pôb anifail yn cnoi ei gil, a hollto 'r cwin, ac a fforchogo hollt yr ewinedd, hwnnw a fwy∣tewch.
"4 Ond hynn ni fwyttewch o'r rhai a gnoant eu cîl, ac o'r rhai a holltant yr ewin, [sef] y Ca∣mel er ei fod y cnoi [ei] gîl, am nad yw yn holl∣ti 'r ewin, aflan, [sydd] efe i chwi.
"5 A'r gwningen am ei bod yn cnoi [ei] chîl, ac heb fforchogi'r ewin, aflan yw i chwi.
"6 A'r yscyfarnog am ei bod yn cnoi [ei] chil, ac heb fforchogi 'r ewin, aflan yw i chwi.
"7 A'r llwdn hŵch am ei fod yn hollti'r ewin ac yn fforchogi fforchedd yr ewin, ac yntef heb gnoi [ei] gîl: aflan yw efe i chwi.
"8 Na fwyttewch oi c••g hwynt, ac na chy∣ffyrddwch ai burgyn hwynt: aflan ydynt i chwi.
"9 Hynn a fwyttewch o bôb dim, a'r sydd yn y dyfroedd: pôb peth yr hwn [y mae] iddo ascell, achenn, yn y dyfroedd, yn y moroedd ac yn yr a∣fonydd, y rhai hynny a fwyttewch.
"10 A phôb dim nid [oes] iddo ascell, a chem yn y moroedd, ac yn yr afonydd: o bôb dim a ym∣lusco yn y dyfroedd, ac o bôb peth byw y rhai [fy∣ddant] yn y dyfroedd byddant ffiaidd gennych.
"11 Byddant ffiaidd gennych: na fwyttewch or cig hwynt, a ffeiddiwch eu burgyn hwynt.
"12 Yr hynn oll yn y dyfroedd ni [byddo] es∣cyll a chenn iddo: ffieidd-beth ywi chwi.
"13 A'r rhai hyn a ffieiddiwch chwi o'r adar, na fwyttewch [hwynt] ffieidd-dra ydynt: sef yr Eryr a'r wydd-walch, a'r for-wennol.
"14 A'r fwltur, a'r barcyd, yn ei ryw.
"15 Pôb cig-fran yn ei rhyw.
"16 A chyw 'r estris, a'r frân nos, a'r gôg, a'r gwalch yn ei rhyw.
"17 Ac aderyn y corph, a'r fulfrā, a'r ddylluan.
"18 A'r gocfran, a'r pelican, a'r biogen.
"19 A'r ciconia, a'r crŷr yn ei rhyw, a'r gorn-chwigl, a'r stlym.
"20 Pôb ehediad a ymlusco [ac] a gerddo ar bedwar-troed ffieidd-dra yw efe i chwi.