7 Phiol aur [oedd] Babilon yn llaw yr Arglwydd, yn meddwi pôb gwlâd: yr holl gen∣hedloedd a yfasant oi gwin hi, am hynny y cen∣hedloedd a ynfydâsant.
8 Yn ddisymmwth y syrthiodd Babilon, ac y drylliwyd hi: vdwch chwi drosti, cymmer∣wch driacl iw harcholl hi, i edrych a iachâ hi.
9 Nyni a iachauasom Babilon [meddant hwy,] ond nid aeth hi yn iach [ddim,] gedwch chwi hi ymmaith, ac awn bawb iw wlâd: canys ei barn a gyrhaeddodd i'r nefoedd, ac a dderch∣afwyd hyd yr wybrau.
10 Yr Arglwydd a ddug allan ein cyfiawn∣der ni: deuwch a thraethwn ni yn Sion waith yr Arglwydd ein Duw ni.
11 Gloiwwch y saethau, cesclwch chwi y ta∣riannau, yr Arglwydd a gyffru yspryd brenhino∣edd Media, o blegit y mae ei fryd ef yn erbyn Babilon iw dinistrio hi: canys dial yr Arglw∣ydd yw hynn, [a] dial ei Deml ef.
12 Derchefwch chwi faner ar furoedd Ba∣bilon, cadarnhewch y wiliad wriaeth, gosodwch i fynu y gwil-wŷr, darperwch chwi gynllwyn∣wŷr, canys yr Arglwydd a fwriadodd, ac efe a w∣na hefyd yr hyn a lefarodd am drigoliō Babilon.
13 Tydi yr hon ydwyt yn aros ar ddyfro∣edd lawer, yn aml dy dryssorau, dy ddiwedd di a ddaeth [sef] mesur dy gybydd-dod.
14 Arglwydd y lluoedd a dyngodd iddo ei hun [gan ddywedyd, diau i'th lenwir di o ddy∣nion megis y mywion ascelloc [o nifer:] a hw∣ynt a ganant floddest i'th erbyn.
15 Yr hwn a wnaeth y ddaiar drwy ei nerth [ac] a siccrhaodd y bŷd trwy ei ddoethi∣neb, ac a danodd y nefoedd drwy ei ddeall.
16 Pan roddo efe ei lêf y terfysca y dyfroedd yn y nefoedd, ac y mae efe yn codi y niwloedd o eithaf y ddaiar, ac efe sydd yn gwneuthur y mellt yn law, ac yn dwyn y gwynt allan oi drys∣sorau.
17 Ynfyd yw pôb dŷn o ŵybodaeth, gw∣radwyddwyd pôb toddydd o achos y ddelw: ca∣nys celwyddoc[yw] ei doddiad, ac nid oes chw∣ythad ynddynt.
18 Oferedd [ydynt] hwy [a] gwaith cy∣feiliorni: yn amser eu hymwelediad y difethir hwynt.
19 Nid fel y rhai hynn, eithr lluni-ŵr y cwbl cll yw rhan Iacob: ac [Israel yw] gwialen ei etifeddiaeth ef, Arglwydd y lluoedd [yw] ei enw.
20 Ti ydwyt forthwyl i mi, [ac] arfau rhy∣fel, â thi y drylliafi genhedloedd, ac â thi y dini∣striaf deyrnasoedd,
21 A thi hefyd y gwascaraf y march a'r march-ŵr, ac â thi y drylliaf y cerbyd ai farchog.
22 A thi y drylliafi ŵr a gwraig, ac â thi y drylliaf hên ac ieuangc, ac â thi y drylliaf y gŵr ieuangc a'r forwyn.
23 A thi hefyd y drylliafi y bugail ai braidd, ac â thi y drylliaf yr arddd-ŵr ai iau ŷchen, ac â thi y drylliaf y tywysogion a'r pennaethiaid.
24 Ac mi a dalaf yn eich golwg chwi i Ba∣bilon, ac i holl bresswyl-wŷr Caldea eu holl ddrygioni hwynt yr hyn a wnaethant hwy yn Sion medd yr Arglwydd.
25 Wele fi [yn dyfod] i'th erbyn di ô fy∣nydd dinistriol, yr hwn [wyt] yn dinistrio yr holl dîr medd yr Arglwydd, ac myfi a estynnaf fy llaw arnat, ac a'th dreiglaf di i lawr o'r crei∣giau, ac a'th roddaf di yn fynydd llosc:
26 Fel na chymmerant o honot ti faen congl, na sylfaen: o blegit diffaethwch tragy∣wyddol a fyddi di medd yr Arglwŷdd.
27 Derchefwch chwi faner yn y tir, lleisi∣wch vdcorn ym mysc y cenhedloedd, darperwch chwi y cenhedloedd yn ei herbyn hi, gelwch chwi deyrnasoedd Ararat, Minni, ac Ascanez yn ei herbyn hi: gosodwch dywysog arni, gwnewch chwi i feirch ddyfod i fynu cynn amled a'r my∣wion ascelloc.
28 Darperwch chwi y cenhedloedd yn ei herbyn hi, sef brenhinoedd Media, ai thywyso∣gion, ai holl bennaethiaid hi, a'r holl wlâd, [yr hon sydd tann] ei lywodraeth ef.
29 Y ddaiar hefyd a gryna, ac a ofidia pan gyflawner amcan yr Arglwydd yn erbyn Ba∣bilon, am roddi gwlâd Babilon yn anghyfan∣nedd heb drigiannol [ynddi.]
30 Cedyrn Babilō a beidiasant ag ymladd, ac y maent hwy yn aros o fewn yr amddeffyn∣feudd: pallodd eu cadernid hwynt, aethant yn wrageddos, ei hanneddau hi a loscwyd, ai bar∣rau a dorrwyd.
31 Redeg-ŵr a rêd i gyfarfod â rhedeg-ŵr, a chenned i gyfarfod â chennad, i fynegu i fre∣nin Babilon orescyn ei ddinas ef oi chwrr,
32 Ac ennill y rhydau, a llosci y llynnoedd â than, a synnu ar y rhyfel-wŷr.
33 Canys fel hyn y dywed Arglwydd y lluoedd Duw Israel: merch Babilon [sydd] fel llawr dyrnu, amser ei dyrnu hi [a ddaeth:] ac ar fyrder y daw amser cynhaiaf iddi.
34 Nabuchodonosor brenin Babilon a'm hysodd fi, [ac] a'm dinistriodd, efe a'm gosododd fel llestr gwag, efe a'm llyngcodd fel draig, ac a lanwodd ei fol o'm dainteithion, [ac] a'm bw∣riodd fi allan.
35 Y cam a wnaed i mi, ac i'm cnawd [a dde∣lo] ar Babilon medd presswyl-ferch Sion: a'm gwa••d i ar drigolion Caldea medd Ierusalem.
36 Am hynny fel hyn y dywed yr Arglwydd, wele myfi a ddadleuaf dy ddadle di, ac a ddialaf trosot ti: ac mi a ddiyspyddaf ei môr hi, ac a sy∣chaf ei ffynhonnau hi.
37 Yna y bydd Babilon yn garneddau, yn drigfa dreigiau, yn syndra, ac yn aruthr, heb bresswylydd.
38 Cyd-rûant fel llewod: bloeddiant fel cenawon llewod.
39 Yn eu gwrês hwynt y gosodaf wledd iddynt, ac mi ai meddwaf hwynt fel y llawen∣ychant,