4 Cymmer y gwregys yr hwn a brynaist, ac y sydd am dy lwynau, a chyfot, dos i Euphrates, a chuddia ef mewn hollt o'r graig.
5 Ac felly 'r aethum, ac mi ai cuddiais ef yn Euphrates, megis y gorchymynnase yr Ar∣glwydd i mi.
6 Ac ar ôl dyddiau lawer y dywedodd yr Arglwydd wrthif, cyfot, a dôs i Euphrates, a chymmer oddi yno y gwregys yr hwn a orchy∣mynnais i ti ei guddio yno.
7 Yna 'r aethum i Euphrates, ac a gloddi∣ais, ac a gymmerais y gwregys o'r man lle y cuddiaswn ef: ac wele pydrase y gwregys [ac] ni wnai lesâd [i ddim.]
8 A daeth gair yr Arglwydd attaf gan ddy∣wedyd:
9 Fel hyn y dywed yr Arglwydd, felly y gwnafi i falchder Iuda, a mawr falchder Ieru∣salem bydru.
10 Y bobl ddrygionus hyn a wrthodasant wrando fyng-air i, rhodio y maent mewn cildy∣nrwydd eu calon, ac aethant ar ôl duwiau diei∣thr iw gwasanaethu hwynt, ac i ymostwng idd∣ynt hwy: am hynny y byddant fel y gwregys ymma, yr hwn ni wnâ lês i ddim.
11 Canys megis ac yr ymwasc gwregys am lwynau gŵr, felly y gwneuthum i holl dŷ Israel wascu attaf, a holl dŷ Iuda medd yr Ar∣glwydd, i fod i mi yn bobl, ac yn enw, ac yn foliant, ac yn ogoniant, ond ni wrandawsant.
12 Am hynny y dywedi wrthynt y gair ymma: fel hyn y dywed Arglwyd Dduw Israel, pôb costrel a lenwir â gwîn, a dywed∣ant wrthit ti: gan ŵybod oni wyddom ni y llen∣wir pôb costrel â gwîn؛
13 Yna y dywedi wrthynt, fel hyn y dywe∣dodd yr Arglwydd: wele fi yn llenwi holl drigo∣lion y tîr hwn, a'r brenhinoedd y rhai sy yn eist∣edd yn lle Dafydd ar ei orseddfaingc ef, yr offei∣riaid hefyd a'r prophwydi, a holl bresswyl-wŷr Ierusalem â meddwdod.
14 Tarawaf hwy y naill wrth y llall, y tadau a'r meibion yng-hyd, medd yr Arglwydd, nid arbedaf, ni thrugathâf, ac ni ressynnaf, onid eu difetha hwynt.
15 Clywch, a gwrandewch, na falchiwch: canys yr Arglwydd a lefarodd [hyn.]
16 Rhoddwch ogoniant i'r Arglwydd eich Duw, cyn iddo ef ddwyn tywyllwch, a chyn i chwi daro eich traed wrthy mynyddoedd ty wyll, a disgwil o honoch am oleuni, ac iddo ef ei droi yn gyscod angeu, [ai] osod yn dywyllwch.
17 Ac oni wrandewch chwi hyn, fy enaid a ŵyla yn ddirgel am eich balchder: a'm llygaid gan ŵylo a wylant, ac a ollyngant ddagrau o achos dwyn diadell yr Arglwydd i gaethiwed.
18 Dywet wrth y brenin a'r frenhines, ymostyngwch, eisteddwch i lawr: canys des∣cynnodd eich pendefigaeth, [a] choron eich an∣rhydedd.
19 Dinasoedd y deau a gaewyd, ac nid[oes] agorudd, Iuda ei gyd a gaeth-gludwyd, yn llwyr y dygwyd i gaethiwed.
20 Codwch i fynu eich llygaid, a gwelwch y rhai sydd yn dyfod o'r gogledd, pa le [y mae] y ddiaddell a roddwyd i ti: [sef] dy ddefaid hardd؛
21 Beth a ddywedi pan ymweler â thi? ti ai dyscaist hwynt yn dywysogion, ar yn ben arnat: oni oddiwedd gofid di me gis gwraig yn escor؛
22 Ac o dywedi yn dy galon, paham y dig∣wydd hyn i mi؛ o herwydd amlder dy anwiredd y noethwyd dy odrau, ac y dinoethwyd dy sod∣lau.
23 A newidia yr Vthiopiad ei groen, neu'r llewpardd ei frychni؛ felly chwithau a ellwch wneuthur dâ, y rhai a gynnefinwyd i wneuthur drwg.
24 Am hynny y chwâlaf hwynt megis sofl yn myned ymmaith gyd â gwynt y dehau.
25 Dymma dy gyfran di y rhan a fesurais i ti, medd yr Arglwydd, am i ti fy anghofio fi, ac ymddyried mewn celwydd.
26 Am hynny y dinoethais inne dy odrau di tros dy wyneb, fel yr amlyge dy warth.
27 [Gwelais] dy odineb, a th wery••iadau, brynti dy buttein••wydd ar y brynnoedd, yn y maes dy ffieidd-dra a welais: gwae di Ieru∣salē onid ymlanhei di mwyach؛ pa bryd bellach؛