PEN. XII.
Rhyfedd yw gan y prophwyd weled ffynniant y rhai an∣nuwiol. 6 Cospedigaeth y drygionus. 15 A madd∣euant yr edifeiriol.
OS dadleuwn â thi cyfiawn [fyddit] ti ô Arglwydd, er hynny rhesymmaf â thi [am] farnedigaethau:* 1.1 pa ham y llwydda ffordd yr anwir? ac y ffynna 'r anffyddloni∣aid oll?
2 Plennaist hwy a gwreiddiasant, cynny∣ddasant, a dugasant ffrwyth: agos wyt at eu genau, a phell oddi wrth eu meddyliau.
3 Ond ti Arglwydd a'm adwaenost, a'm gwelaist, ac a brofaist fyng-halon tu ag attat: tynn allan hwynt megis defaid i'r lladdediga∣eth, a pharatoa hwynt erbyn dydd y lladdfa.
4 Pa hŷd y galara yr ddaiar, ac y gwywa gwellt yr hollfaes, o blegit drygioni y rhai sy yn trigo ynddi؛ methodd yr anifeiliaid a'r adar, o blegit dy wedasant, ni wêl efe ein diwedd ni.
5 O rhedaisti gyd a'r gwŷr traed, a hwy yn dy flino, pa fodd yr ymdrewi a'r meirch؛ er dy fod yn ddiogel mewn tîr heddychlawn: etto pa fodd y gwnei yn vchelder yr Iorddonen؛
6 Canys dy frodyr a thŷ dy dâd, îe y rhai hynny a anghywirasant â thi, hwynt hwy he∣fyd a waeddasant ar dy ôl, na choelia hwy er dy∣wedyd yn deg wrthit.
7 Gadewais fy nhŷ, gadewais fy etifeddia∣eth, mi a roes annwylyd fy enaid yn llaw ei e∣lynnion ef.
8 Fy etifeddiaeth a aeth i mi megis llew yn y coed: rhuodd i'm herbyn, am hynny case∣ais hi.
9 A [fydd] fy etifeddiaeth i mi fel aderyn brith؛ onid [yw] yr adar o amgylch yn ei her∣byn hi [yn dywedyd؛] deuwch ymgesclwch holl fwyst-filod y maes, deuwch iw bwytta.
10 Bugeiliaid lawer a ddestruwiasant fyng∣winllan, sathrasant fy rhandir, fy rhandir diri∣on a roddasant yn ddiffaethwch anrheithiol.
11 Gosodasant hi yn anrhaith, ac wedi ef hanreithio y galarodd hi wrthif: y tir ei gyd a anrheithiwyd, am nad [oes] neb yn ystyried [hynn] yn ei galon.
12 Anrheith-wŷr a ddaethant ar yr hollfryn∣nau yn yr anialwch: canys cleddyf yr Arglw∣ydd sy yn difetha o'r [naill] gwrr i'r ddaiar hyd y cwrr [arall] i'r ddaiar: nid [oes] heddwch i ddim cnawdol.
13 Hauasant wenith, a hwynt a fedasant ddrain, ymboenasant, ac ni chawsant lesâd: cywi∣lyddiasant gan hynny am eich ffrwythydd chwi rhag llid digofaint yr Arglwydd.
14 Fel hyn y dywed yr Arglwydd yn er∣byn fy holl gymydogion drwg, y rhai sy yn cy∣ffwrdd a'r etifeddiaeth yr hon a berais i'm pobl Israel ei hetifeddu: wele mi ai tynnaf hwy allan oi tîr, ac a dynnaf dŷ Iuda oi mysc hw∣ynt.
15 Ac wedi i mi eu tynnu hwynt allan, troaf a thrugarhâf wrthynt, a dychwelaf hw∣ynt pôb vn iw etifeddiaeth, a phob vn iw dîr ei hun.
16 Ac os gan ddyscu y dyscant ffyrdd fy mhobl, i dyngu i'm enw, (byw yw 'r Arglw∣ydd) megis y dyscasant fy mhobl i dyngu i Baal, yna yr adailedir hwy yng-hanol fy mhobl.
17 Eithr oni wrandawant, yna y diwreiddi∣afi y genhedlaeth hon, a chan ddifetha myfi ai dinistriaf hi, medd yr Arglwydd.