PEN. XXXIII.
Amryw ddialeddau Duw yn erbyn pechaduriaid.
NEssewch genhedloedd i glywed, a gwran∣dewch bobloedd: gwrandawed y ddaiar ac y sydd ynddi, y byd ai holl gnwd.
2 Canys llidiawgrwydd yr Arglwydd sydd yn erbyn yr holl genhedloedd, ai sorriant yn er∣byn eu holl lû hwynt: difrododd hwynt, rhoddes hwynt i'r lladdedigaeth.
3 Ai lladdedigion a fwrir allan, a drewiant eu celanedd a gyfyd i fynu, y mynyddoedd hefyd a ffrydiant oi gwaed hwynt.
4 Holl lu y nefoedd hefyd a doddant, a'r ne∣foedd a blygir fel llyfr: ai holl lu a syrth, fel y syrthie deilen o'r win-wydden, ac fel y syrthie hi o'r ffigus-bren.
5 Canys fyng-hleddyf a drochir yn y nefo∣edd, wele ar Edom y descyn i farn, ac ar y bobl y rhai a escymmunais.
6 Cleddyf yr Arglwydd a lawnwyd o waed tewhaodd o fraster, [sef] o waed ŵyn a bychod, o fraster arennau hyrddod: canys [bydd] i'r Arglwydd aberth yn Bozra, a lladdfa fawr yn nhir Edom.
7 Yna y descyn yr vnicorniaid gyd â hwynt, a'r bustych gyd a'r teirw, ai tir hwynt a feddwa oi gwaed hwynt, ai llwch fydd tew o fraster.
8 Canys diwrnod dialeddiad yr Arglwydd, blwyddyn taledigaeth yn achos Sion [yw.]
9 Yna y troir ei hafonydd hi 'n bŷg, ai llwch yn frwmstan, ai daiar yn bŷg lloscedic.
10 Nis diffoddir nos na dydd, ei mŵg a ddring byth, o genhedlaeth i genhedlaeth y di∣ffeithir hi, ni [bydd] cynniwerydd trwyddi byth bythoedd.
11 Y Pelican hefyd a'r draenoc ai gorescyn, y ddylluan a'r gigfran a drigant ynddi, ac efe a estyn arni linin afluniaidd-dra, a meini gwa∣gedd.
12 Ei phendefigion a alwant, ac nid oes yno frenhiniaeth, ai holl dywysogion hi ydynt ddiddym.
13 Cyfyd hefyd [yn] ei phalasau ddrain, danadl, ac yscall yn ei cheurydd, ac hi a fydd yn drigfa dreigiau, yn gyntedd i gywion yr e∣stris.
14 Yno yr anifeiliaid gwylltion a'r cathod a ymgyfarfyddant, yr ellill a eilw ar ei gyfaill, yr ŵyll a orphywys yno hefyd, ac a gaiff orphy∣wystra iddi.
15 Yno y nŷtha y ddylluan, ac y dodwa, ac y dehôra, ac a gascl yn ei chyscod, y fulturiaid a ymgasclant yno hefyd, pob vn at ei gym∣mar.
16 Cesiwch o lyfr yr Arglwydd, a darlle∣nwch, ni phalla vn o hyn, ni bydd vn yn eisieu i'r llall, canys ei enau ef a orchymynnodd, ai ys∣pryd ef ai casclodd hwynt.
17 Efe hefyd a fwriodd y coel-bren iddynt, ai law ef ai rhannodd hi iddynt wrth linin: meddi∣annant hi hyd byth, a phresswyliant hi o genhed∣laeth i genhedlaeth.