gan ddywedyd: y foru y gwna 'r Arglwydd y peth hyn yn y wlad [hon.]
6 A'r Arglwydd a wnaeth y peth hyn dran∣noeth, canys bu feirw holl anifeiliaid yr Aiphti∣aid: ond o anifeiliaid meibion Israel, ni bu fa∣rw vn.
7 A Pharao a anfonodd, ac wele ni buase fa∣rw gymaint ac vn o anifeiliaid Israel: er hynny caledodd calon Pharao, ac ni ollyngodd y bobl.
8 Yna y dywedodd yr Arglwydd wrth Moses, ac wrth Aaron, cymmerwch iwch loned eich llaw o ludw ffwrn: o thaned Moses ef tua 'r nefoedd yng-ŵydd Pharao,
9 Ac efe fydd yn llwch ar holl dîr yr Aipht: ac a fydd ar ddyn ac ar anifail yn gornwyd lli∣noroc trwy holl wlad yr Aipht.
10 Yna y cymmerasant ludw 'r ffwrn, ac a safasant ger bron Pharao, a Moses ai tanodd tua 'r nefoedd: ac efe aeth yn goruwyd chwysi∣gennoc ar ddŷn ac ar anifail.
11 A'r swyn-wyr ni allent sefyll ger bron Moses gan y cornwyd: o blegit yr oedd y corn∣wyd ar y swynwyr, ac ar yr holl Aiphtiaid.
12 Er hynny 'r Arglwydd a galedase galon Pharao fel na wrandawe arnynt: megis y llefarase yr Arglwydd wrth Moses.
13 Yna 'r Arglwydd a ddywedodd wrth Moses, cyfot yn foreu, a saf ger bron Pharao: a dywet wrtho, fel hyn y dywedodd Arglwydd Dduw 'r Hebræaid, gollwng fy mhobl i'm gwasanaethu.
14 Canys y waith hon yr anfonaf fy holl bla∣gau ar dy galon, ac ar dy weision, ac ar dy bobl: fel y gwypech nad oes fyng-hyffelyb yn yr holl dîr.
15 O herwydd yn awr mi a estynnaf fy llaw, ac a'th darawaf di, a'th bobl a haint y nodau: a thi a ddinistrir o'r tîr.
16 Ac yn ddiau er mwyn hynn i'th gyfo∣dais di i ddangos it fy nerth: ac i fynegu fy enw drwy 'r holl dîr.
17 Tithe ydwyt yn ymdderchafu ar fy mhobl: etto heb eu gollwng hwynt ymmaith.
18 Wele mi a lawiaf yng-hylch yr amser ymma y foru genllysc trymmion iawn: y rhai ni bu eu mâth yn yr Aipht o'r dydd y sylfaenwyd hi hyd yr awr hon.
19 Anfon gan hynny yn awr, cascl dy anifei∣liaid, a phôb dim ar y sydd it yn y maes: pôb dŷn, ac anifail yr hwn a gaffer yn y maes, ac nis cas∣cler i dŷ, y descyn y cenllysc arnynt, ac a fyddant feirw.
20 Yr hwn a ofnodd air yr Arglwydd o wei∣sion Pharao a yrrodd ei weision, ai anifeiliaid i dai.
21 A'r hwn nid ystyriodd air yr Arglwydd: a adawodd ei weision, ai anifeiliaid yn y maes.
22 A'r Arglwydd a ddywedodd wrth Mo∣ses, estyn dy law tua 'r nefoedd, fel y byddo cen∣llysc yn holl wlad yr Aipht: ar ddŷn ac ar anifail, ac ar holl lyssiau y maes o fewn tîr yr Aipht.
23 Yna Moses a estynnodd ei wialen tua 'r nefoedd, a'r Arglwydd a roddodd daranau a chenllysc, ac aeth tân ar hyd y ddaiar, a chafo∣dodd yr Arglwydd genllysc ar dîr yr Aipht.
24 Felly 'r ydoedd cenllysc, a thân yn ym∣gymmeryd yng-hanol y cellysc: yn drwm iawn yr hwn ni bu ei fath yn holl wlad yr Aipht, er pan ydoedd yn genhedlaeth.
25 A'r cenllysc a gurodd drwy holl wlad yr Aipht gwbl ar [oedd] yn y maes, yn ddyn, ac yn anifail: y cenllysc hefyd a gurodd holl lyssieu y maes, ac a ddrylliodd holl goed y maes.
26 Yn vnic yng-wlad Gosen yr hon yr ydo∣edd meibion Israel ynddi: nid oedd cenllysc.
27 A Pharao a anfonodd, ac a alwodd ar Moses, ac Aaron, a dywedodd wrthynt, pechais y waith hon: yr Arglwydd sydd gyfiawn, a minne a'm pobl yn annuwiol,
28 Gweddiwch ar yr Arglwydd, (canys di∣gon [yw hynn] na byddo taranau Duw na chen∣llysc, ac mi a'ch gollyng af, ac ni arhoswch mwy.
29 A dywedodd Moses wrtho, pan elwyf allan o'r ddinas, mi a ledaf fy nwylaw at yr Ar∣glwydd: [a'r] taranau a beidiant, a'r cenllysc ni bydd mwy, fel y gwypech mai 'r Arglwydd piau yr ddaiar.
30 Ond mi a wn nad ydwyt ti etto na'th weision yn ofni wyneb yr Arglwydd Dduw.
31 A'r llin a'r haidd a gurwyd: canys yr haidd [oedd] wedi hedeg, a'r llin wedi hadu.
32 Ond y gwenith a'r rhŷg ni churwyd: o herwydd diweddar [oeddynt] hwy.
33 Yna Moses a aeth oddi wrth Pharao allan o'r ddinas, ac a ledodd ei ddwylo at yr Ar∣glwydd: a'r taranau a'r cenllysc a beidiasant, ac ni ddefnynnodd glaw ar y ddaiar.
34 Pan welodd Pharao beidio o'r glaw, a'r cenllysc, a'r taranau, yna efe a chwanegodd be∣chu: canys caledodd ei galon ef ai weision.
35 Ie caledodd calon Pharao fel na ollynge efe feibion Israel ymmaith: megis y llefarase 'r Arglwydd trwy law Moses.