na allo [vn] weled y ddaiar: ac hwy a yssant y gweddill yr hwn a adawyd i chwi yn ddiangol gan y cenllysc, difaant hefyd bôb pren a fyddo yn blaguro iwch yn y maes.
6 Llanwant hefyd dy dai di, a thai dy holl weision, a thai 'r holl Aiphtiaid, y cyfryw ni we∣lodd dy dadau, na thadau dy dadau, er y dydd y buont ar y ddaiar hyd y dydd hwn: yna efe a drodd, ac aeth allan oddi wrth Pharao.
7 A gwesion Pharao a ddywedasant wr∣tho, pa hyd y bydd hwn yn fagl i ni؛ gollwng ymmaith y gwŷr, fel y gwasanaethant yr Ar∣glwydd eu Duw: oni wyddosti etto ddifetha 'r Aipht؛
8 A dychwelwyd Moses ac Aaron at Pha∣rao, ac efe a ddywedodd wrthynt, ewch gwasan∣aethwch yr Arglwydd eich Duw: pa rai sy 'n myned؛
9 A Moses a ddywedodd, a'n llangciau, ac a'n henafgwyr yr awn ni: a'n meibion hefyd, ac a'n merched, a'n defaid, ac a'n gwarthec yr awn ni o blegit rhaid i ni gadw gŵyl i'r Arglwydd.
10 Ac efe a dywedodd wrthynt, yr vn modd y byddo 'r Arglwydd gyd a chwi, ac y gollyn∣gaf chwi a'ch plant: gwelwch mai ar ddrwg y mae eich brŷd.
11 Nid felly, ewch yn awr y gwŷr, a gwasa∣naethwch yr Arglwydd, canys hynn yr oeddych yn ei geisio: felly hwynt a wthiwyd o wydd Pharao.
12 Yna y dywedodd yr Arglwydd wrth Mo∣ses, estyn dy law ar wlad yr Aipht am locustiaid fel y deuant ar dîr yr Aipht: ac y bwytaant holl lyssieu y ddaiar [sef] cwbl ar a adawodd y cen∣llysc.
13 Felly Moses a estynnodd ei wialen ar dîr yr Aipht, a'r Arglwydd a ddug ddwyrein∣wynt ar y tîr yr holl ddiwrnod hwnnw, a'r holl nos honno: a [phan] ddaeth y borau gwynt y dwyrain a ddug locustiaid.
14 A'r locustîaid a ddaethant ar holl wlad yr Aipht, ac a arhosasant ym mhob ardal i'r Aipht: yn drwm iawn, ni bu y fath locustiaid oi blaen hwynt, ac ar eu hol ni bydd y cyffelyb.
15 Canys roasant wyneb yr holl dîr, a thy∣wyllodd y wlad, a hwynt a yssasant holl lyssiau y ddaiar, a holl ffrwythau y coed, yr hyn a we∣ddillase y cenllysc: ac ni adawyd dim gwyrdd∣lesni ar goed, nac ar lyssieu y maes o fewn holl wlad yr Aipht.
16 Am hynny Pharao a alwodd am Moses, ac Aaron ar frŷs, ac a ddywedodd: pechais yn erbyn yr Arglwydd eich Duw, ac yn eich erbyn chwithau.
17 Ac yn awr maddeu di attolwg fy mhe∣chod y waith hon yn vnic, a gweddiwch ar yr Arglwydd eich Duw: ar iddo dynnu oddi wr∣thif yn vnic y farwolaeth hon.
18 A [Moses] a aeth allan oddi wrth Pha∣rao: ac a weddiodd ar yr Arglwydd.
19 A'r Arglwydd a drodd wynt gorllewyn crŷf iawn, ac efe a gododd ymmaith y locusti∣aid, ac ai bwrriodd hwynt i'r môr coch: ni ada∣wyd vn locust o fewn holl derfynau 'r Aipht.
20 Er hynny caledodd yr Arglwydd galon Pharao: fel na ollynge efe feibion Israel ym∣maith.
21 A dywedodd yr Arglwydd wrth Moses, estynn dy law tua 'r nefoedd fel y byddo tywyll∣wch ar dîr yr Aipht: ac y [gellir] teimlo y ty∣wyllwch.
22 Felly Moses a estynnodd ei law, tua 'r nefoedd: a bu dywyllwch niwloc drwy holl wlad yr Aipht dri diwrnod.
23 Ni wele neb ei gilydd, ac ni chododd neb oi le dri diwrnod: ond yr ydoedd goleuni i holl feibion Israel yn eu trigfannau.
24 Yna y galwodd Pharao am Moses ac Aaron, ac a ddywedodd, ewch gwasanaethwch yr Arglwydd, arhoed eich defaid a'ch gwarthec yn vnic: aed eich plant hefyd gyd a chwi.
25 A dywedodd Moses, ti a roddi hefyd yn ein dwylo ebyrth a phoeth offrymmau: fel yr a∣berthom i'r Arglwydd ein Duw.
26 Am hynny 'r aiff ein hanifeiliaid hefyd gyd a ni, ni adewir ewin, o blegit o honynt, y cymmerwn i wasanaethu 'r Arglwydd ein Duw: canys ni wyddom a pha beth y gwasa∣naethom yr Arglwydd, hyd oni ddelom yno.
27 Ond yr Arglwydd a galedodd galon Pha∣rao: fel nad oedd efe fodlon iw gollwng hwynt,
28 A dywedodd Pharao wrtho, dos oddi wrthif: gwilia arnat rhac gweled fy wyneb mwy, o blegit y dydd y gwelech fy wyneb y byddi farw.
29 A dywedodd Moses inion y dywedaist: ni welaf dy wyneb mwy.