Psalm. lxvj.
At y pen-cerdd Psalm neu gân.
YMlawenhewch yn Nuw yr holl fŷd.
2 Dadcenwch ogoniant ei enw: go∣sodwch ei foliant yn ogoneddus.
3 Dywedwch wrth Dduw, mor ofnadwy [ydwyt yn] dy weithredoedd؛ o herwydd aml∣der dy nerth y cymmer dy elynnion arnynt fod yn ddarostyngedic i ti.
4 Yr holl fyd a ymostyngant i ti, ac a gâ∣nant i ti, [îe] canant i'th enw. Selah.
5 Deuwch, a gwêlwch weithredoedd Duw, ofnadwy [yw yn ei] weithred tu ag at feibion dynnion.
6 Trôdd efe y môr yn sych-dir, aethant drwy 'r afon ar draed: yna y llawenychâsom ynddo.
7 Efe a lywodraetha yn ei gadernid byth, ei lygaid a edrychant ar y cenhedloedd, y rhai annufydd nid ymdderchafant. Selah.
8 Oh bobloedd molwch ein Duw, a phêr∣wch glywed llais ei fawl ef.
9 Yr hwn sydd yn gosod ein henaid mewn bywyd, ac ni âd i'n troed lithro.
10 Canys profaist ni ô Dduw, a choethaist ni fel coethi arian.
11 Dygaist ni i'r rhwyd, gosodaist wascfa ar ein lwynau.
12 Peraist i ddynnion farchogeth ar vcha ein pennau, aethom drwy yr tân, a'r dwfr: a thi a'n dygaist allan i [le] diwall.
13 Deuaf i'th dŷ ag offrymmau poeth, ta∣laf it fy addunedau,
14 Y rhai a addawodd fyng-wefusau, ac a ddyweddodd fyng-enau yn fyng-hyfyngder.
15 Offrymmaf it boeth offrymmau breisi∣on yng-hyd ag arogl-darth hyrddod: aberthaf ŷchen, a bychod. Selah.
16 Deuwch, gwrandewch y rhai oll a ofn∣wch Dduw: a mynegaf yr hyn a wnaeth efe i'm henaid.
17 Llefais arno a'm genau, ac efe a dder∣chafwyd a'm tafod.
18 Pe edrychaswn ar anwiredd yn fyng∣halon, ni wrandawse 'r Arglwydd.
19 Duw yn ddiau a glybu, [ac] a wranda∣wodd ar lais fyng-weddi.
20 Bendigedic fyddo Duw 'r hwn ni fwri∣odd fyng-weddi [oddi wrtho,] nai drugaredd ef oddi wrthif inne.