Psalm. lxv.
At y pen-cerdd Psalm neu gân Dafydd.
MAwl a'th erys di yn Sion ô Dduw:* 1.1 ac i ti y têlir yr addu∣ned [yn Ierusalem.]
2 [Ti] 'r hwn a wrande∣wi weddi, attat ti y daw pob cnawd.
3 Pethau anwir a'm gorchfygâsant, ti a drugarhei wrth ein camweddau.
4 Gwyn ei fyd [yr hwn] a ddewisech, ac a nessâech attat: efe a drig yn dy gynteddoedd, ac ni a ddigonir â daioni dy dŷ, [sef] dy Deml sanctaidd.
5 Attebi i ni [bethau] ofnadwy yn [dy] gyfiawnder ô Dduw ein iechydwriaeth: go∣baith holl gyrrau y ddaiar, ac eithafoedd y môr.
6 Yr hwn a siccrhâ y mynyddoedd yn ei nerth, [ac] a wregyssir â chadernid.
7 Yr hwn a ostêg a dwrf y moroedd, twrf eu tonnau, a therfysc y bobloedd.
8 A phresswyl-wŷr eithafoedd [y bŷd] a of∣nant rhag dy arwyddion, gwnei i derfyn boreu a hwyr [dy] glodfôri.
9 Yr wyt yn gofwyo y ddaiar, ac yn ei dw∣frhau hi, yr ydwyt yn ei chyfoethogi hi yn ddirfawr, afon Duw sydd yn llawn dwfr: yr wyt yn paratoi ŷd iddynt, canys felly y darpe∣raist hi.
10 Gan ddwfrhau ei rhychau, [a] gostwng ei chwysau, yr ydwyt yn ei mwydo hiâ chafo∣dau, ac yn bendithio ei chn ŵd hi.
11 Corôni yr ydwyt y flwyddyn a'th dda∣ioni, a'th lwybrau a ddifêrant fraster.
12 Difêrant [ar] llanherchoedd yr anial∣wch: a'r brynnau a ymwregysant â hyfryd∣wch.
13 Y dolydd a wiscir â defaid, a'r dyffryn∣noedd