Psalm. xlix.
Psalm at y pen-cerdd o feibion Corah.
CLywch hyn yr holl bobloedd, gwrande∣wch [hyn] holl drigolion y bŷd.
2 Yn gystal gweryn a boneddigion, cyfoe∣thog a thlawd yng-hyd.
3 Fyng-enau a draetha ddoethineb: a my∣fyrdod fyng-halon [fydd am] ddeall.
4 Gostyngaf fyng-hlust at ddihareb, fy nammeg a ddatganaf gyd a'r dêlyn.
5 Pa ham yr ofnaf yn amser adfyd, [pan] ymgylchyno anwiredd fy sodlau i؛
6 Rhai a ymddyriedant yn eu golud: ac a ymffrostiant yn lluosogrwydd eu cyfoeth.
7 Gan warêdu ni wareda neb [ei] frawd: [ac] ni all efe roddi iawn trosto ef i Dduw.
8 (Canys gwerth-fawr yw prynniad eu henaid, fel y gorfyddo peidio [â hynny] byth.
9 Fel y byddo efe byw byth, ac na welo 'r bedd,
10 Canys efe a wêl fod y doethion yn mei∣rw, y cyd-dderfydd am ffôl, ac ynfyd: ac y ga∣dawant eu golud i eraill:
11 Eu meddwl [yw y peru] eu tai yn dra∣gywydd, ai trigfeudd byd genhedlaeth, a chen∣hedlaeth: am hynny] yr henwasant eu henwau eu hun ar eu tiroedd.
12 Eithr nid erys dŷn mewn anrhydedd: tebyg yw i anifeiliaid a ddifethir.
13 Dymma eu ffordd yn ynfydrwydd iddynt: etto eu hiliogaeth ydynt fodlon iw hymadrodd. selah.
14 Fel defaid y gosodir hwynt yn vffern, angeu a ymborth arnynt a'r rhai cyfiawn ai lly∣wodraethant y boreu: ai tegwch [aiff] i ddar∣fod i'r bedd oi cartref.
15 Etto Duw a wared fy enaid o feddiant vffern: canys efe a'm derbyn i, Selah.
16 Nac ofna pan gyfoethogo vn, pan chw∣anêgo gogoniant ei dŷ ef.
17 Canys wrth farw ni ddwg efe ddim, ac ni ddescyn ei ogoniant ar ei ôl ef.
18 O herwydd yn ei fyw iddo wneuthur yn fawr am ei enioes: can-molant dithe o by∣ddi ddâ wrthit dy hun.
19 Efe a aiff at genhedloedd ei dâdau, [ac] ni welant oleuni byth.
20 Dŷn mewn anrhydedd, ac heb ddeall a gyffelybir i anifeiliaid a ddifethir.