Psalm. xlviij.
Cân neu Psalm i feibion Corah.
MAwr [yw 'r] Arglwydd, a thra molian∣nus yn ninas ein Duw ni, [sef yn] ei fy∣nydd sanctaidd.
2 Cegwch bro [a] llawenydd yr holl wlâd [yw] mynydd Sion [yn] ystlysau y gogledd: [sef] dinas y Brenin mawr.
3 Duw yn ei phalâsau a adwaenir yn am∣ddeffynfa.
4 Canys wele y brenhinoedd a ymgyfarfu∣ant: [ac] a aethant yng-hyd.
5 Hwynt a welsant, felly y rhyfeddâsant: brawychâsant [ac] aethant ymmaith ar ffrŵst.
6 Dychryn a ddaeth arnynt hwy yno, [a] dolur megis gwraig yn escor.
7 A gwynt y dwyrain y drylli longau y môr.
8 Megis y clywsom, felly y gwelsom yn ninas Arglwydd y lluoedd, [sef] yn ninas ein Duw ni: Duw ai siccrhâ hi yn dragywydd. Selah.
9 Disgwiliasom ô Dduw am dy druga∣redd o fewn dy Deml.
10 Megis [y mae] dy enw ô Dduw, felly [y mae] dy fawl hyd eithafoedd y tîr: cyflawn o gyfiawnder yw dy ddeheu-law.
11 Llawenched mynydd Sion: ac ymhy∣fryded merched Iuda, o herwydd dy farnedi∣gaethau.
12 Amgylchwch Sion, a chylchŷnwch hi, rhifwch ei thŷrau hi.
13 ystyriwch ar ei magŵyr, cadarnhewch ei phalâsau, fel y mynegoch i'r oes a ddêlo yn ôl
14 Canys y Duw hwn [yw] ein Duw ni byth, ac yn dragywydd: efe a'n tywys ni hyd angeu.