Y Beibl Cyssegr-lan. Sef yr Hen Destament, a'r Newydd..

About this Item

Title
Y Beibl Cyssegr-lan. Sef yr Hen Destament, a'r Newydd..
Publication
Imprinted at London :: by the deputies of Christopher Barker, Printer to the Queenes most excellent Maiestie.,
1588..
Rights/Permissions

To the extent possible under law, the Text Creation Partnership has waived all copyright and related or neighboring rights to this keyboarded and encoded edition of the work described above, according to the terms of the CC0 1.0 Public Domain Dedication (http://creativecommons.org/publicdomain/zero/1.0/). This waiver does not extend to any page images or other supplementary files associated with this work, which may be protected by copyright or other license restrictions. Please go to http://www.textcreationpartnership.org/ for more information.

Cite this Item
"Y Beibl Cyssegr-lan. Sef yr Hen Destament, a'r Newydd.." In the digital collection Early English Books Online 2. https://name.umdl.umich.edu/B00772.0001.001. University of Michigan Library Digital Collections. Accessed May 18, 2024.

Pages

PEN. II.

Y brenin yn peri cyrchu iddo ef y gweryfon, neu y mor∣wynion teccaf yn y wlâd. 14 Ac yn hoffi Esther yn fwyaf.

WEdi y pethau hyn, pan lonyddodd dig∣llonedd y brenin Ahasferus, efe a go∣fiodd am Fasthi, ac am yr hyn a wnelse hi,

Page [unnumbered]

ac am yr hyn a farnasid arni.

2 Am hynny llangciau y brenin [sef] ei we∣nidogion ef a ddywedasant: ceisier i'r brenin langcesau têg yr olwg [y rhai ydynt] weryfon,

3 A gosoded y brenin swyddogion drwy holl dalaithau ei frenhiniaeth ef, a chasclant hwy∣thau bôb llangces dêg r olwg, [a'r y sydd] we∣ryf, i Susan y brenhin-lys i dy y gwragedd, tann law Hege stafelludd y brenin, ceidwad y gwragedd: yr hwn a ddyru iddynt eu gwychter.

4 A'r llangces yr hon fyddo dâ yng-olwg y brenin a deyrnasa yn lle Fasthi: a dâ oedd y peth hyn yng-olwg y brenin, ac felly y gwnaeth efe.

5 Yn Susan y brenhin-lys yr oedd rhyw Iddew, ai enw Mordoceus mab Iair, fab Si∣mei, fab Cis, gŵr o Iemini,

6 Yr hwn a drosgludasid o Ierusalem gyd a'r gaeth-glud yr hon a gaeth-gludasid gyd ag Ieconiah brenin Iuda: yr hon a barase Na∣buchodonosor brenin Babilon ei chaeth-gludo.

7 Ac efe a fagase Hadassa honno [yw] Est∣her, merch ei ewythr ef frawd ei dad, canys nid [oedd] iddi dad, na mam: a'r llangces [oedd] weddaidd-lwys, a chlaer-deg [mewn] golwg, a phan fuase ei thad, ai mam hi farw, Mordoceus ai cymmerase hi yn ferch iddo.

8 A phan gyhoeddwyd gair y brenin, ai gy∣fraith, pan gasclasid hefyd langcesau lawer i Susan y brenhin-lys tann law Hegai: yna y cymmerwyd Esther i dŷ y brenin tann law He∣gai cediwad y gwragedd.

9 A'r llangces oedd dêg yn ei olwg ef, ac hi a gafodd ffafor ganddo ef, am hynny efe ar frys a barodd rhoddi iddi ei gwychter, ai rhan∣nau, a rhoddi iddi saith o langcesau golygus o dŷ 'r brenin: ac efe ai symmudodd hi, ai llang-cesau i'r [fann] oref [yn] nhŷ y gwragedd.

10 [Ond ni fynê godd Esther ei phobl, nai chenedl: canys Hordoceus a orchymynnase iddi nad yngêne [hynny.]

11 A Mordoceus a rodiodd beunydd o flaen cyntedd tŷ 'r gwragedd, i ŵybod llwyddiant Esther, a pheth a wnelyd iddi.

12 A phan ddigwydde amser pob llangces i fyned i mewn at y brenin Ahasferus wedi bod iddi hi yn ôl defod y gwragedd ddeuddeng∣mis, canys felly y cyflawnyd dyddiau eu pure∣digaethau hwynt: chwe mîs mewn olew myrh, a chwe mis mewn pêr-aroglau, a gwychter y gwragedd.

13 Ac fel hyn y deue y llangces at y brenin: pa beth bynnac a ddywede hi [am dano] a ro∣ddid iddi, i fyned gyd a hi o dŷ 'r gwragedd hyd dŷ 'r brenin.

14 Gyd a'r hwyr hi a ddeue i mewn, a'r bo∣rau hi a ddychwele i dŷ arall y gwragedd tann law Saasagaz stafelludd y brenin ceidwas y gordderchadon: ni ddeue hi i mewn at y brenin mwyach, ond os chwennyche 'r brenin hi, yna y gelwid hi wrth [ei] henw.

15 Pan ddigwyddodd amser Esther (merch Abihail ewythr Mordoceus yr hon a gymme∣rase efe yn ferch iddo) i fynd i mewn at y bre∣nin, ni cheisiodd hi ddim ond yr hyn a ddywedase Heg ai stafelludd y brenin ceidwad y gwragedd: ac Esther oedd yn cael ffafor yng-olwg pawb a'r a oedd n edrych arni.

16 Felly Esther a gymmerwyd at y brenin Ahasterus iw frenhin-dŷ ef yn y decfed mîs hwnnw [yw] mîs Tebeth: yn y seithfed flwy∣ddyn oi deyrnasiad ef.

17 A'r brenin a hoffodd Esther rhagor yr holl wragedd, a hi a gaffodd ffafor, a thruga∣redd yn ei ŵydd ef rhagor yr holl weryfon: ac efe a osododd deyin-goron ar ei phen hi, ac ai gwnaeth yn frenhines yn lle Fasthi.

18 Yna y gwnaeth y brenin wledd fawr iw holl dywysogion, ai weision, sef gwledd Est∣her: ac efe wnaeth rydd-did i'r talaithau, ac a roddodd rannau yn ôl gallu y brenin.

19 Pan gasclwyd y gweryfon yr ail waith: yna Mordoceus oedd yn eistedd ym mhorth y brenin,

20 Nid oedd Esther yn mynegu ei chenedl, nai phobl, megis y gorchymynnase Mordoce∣us iddi: canys Esther oedd yn gwneuthur yr hyn a ddywede Mordoceus fel [cynt pan] oedd hi yn ei meithrino gyd ag ef.

21 Yn y dyddiau hynny pan oedd Mordo∣ceus yn eistedd ym mhorth y brenin: yna y lli∣diodd Bigthan, a Theres dau o stafellyddion y brenin, [sef] o'r rhai oeddynt yn cadw y tro∣thwy, a cheisiasant estyn llaw yn erbyn y bre∣nin Ahasferus.

22 A'r peth a hyspysswyd i Mordoceus, ac efe ai mynegodd i Esther y frēhines: ac Esther ai dywedodd wrth y brenin yn enw Mordoceus.

23 A phan chwiliwyd y peth, yna efe a ga∣fwyd [felly,] am hynny y crogwyd hwynt ill dau ar bren: ac scrifennwyd [hynny] mewn llyfr Cronicl ger bron y brenin.

Notes

Do you have questions about this content? Need to report a problem? Please contact us.