Y Beibl Cyssegr-lan. Sef yr Hen Destament, a'r Newydd..

About this Item

Title
Y Beibl Cyssegr-lan. Sef yr Hen Destament, a'r Newydd..
Publication
Imprinted at London :: by the deputies of Christopher Barker, Printer to the Queenes most excellent Maiestie.,
1588..
Rights/Permissions

To the extent possible under law, the Text Creation Partnership has waived all copyright and related or neighboring rights to this keyboarded and encoded edition of the work described above, according to the terms of the CC0 1.0 Public Domain Dedication (http://creativecommons.org/publicdomain/zero/1.0/). This waiver does not extend to any page images or other supplementary files associated with this work, which may be protected by copyright or other license restrictions. Please go to http://www.textcreationpartnership.org/ for more information.

Cite this Item
"Y Beibl Cyssegr-lan. Sef yr Hen Destament, a'r Newydd.." In the digital collection Early English Books Online 2. https://name.umdl.umich.edu/B00772.0001.001. University of Michigan Library Digital Collections. Accessed May 18, 2024.

Pages

PEN. XV.

1 Gwahan-glwyf Azaria Teyrnasiad Salum. 14 Me∣nahem. 23 Pecahia. 32 Yr Azariah vchod, ac Ahas ei fab ef.

YN y seithfed flwyddyn ar hugain i Ierobo∣am brenin Israel, y teyrnasodd Azariah mab Amasia brenin Iuda.

2 Mab vn mlwydd ar bymthec ydoedd efe pan ddechreuodd efe deyrnasu, a deuddeng∣mhlynedd a deugain y teyrnasodd efe yn Ie∣rusalem: ac enw ei fam [oedd] Iecholiahu o Ierusalem.

3 Ac efe a wnaeth yr hyn oedd inion yng-o∣lwg yr Arglwydd: yn ôl yr hyn oll a'r a wnelse Amasia ei dad ef.

4 Er hynny ni thynnwyd ymmaith yr vchelfeudd: [canys] y bobl oeddynt etto yn a∣berthu, ac yn arogl-darthu mewn vchelfeudd.

5 A'r Arglwydd a darawodd y brenin fel y bu efe yn wahan-glwyfus hyd ddydd ei farwo∣laeth, am hynny efe a drigodd mewn tŷ ar naill∣tu: ac Iotham mab y brenin [oedd bennaf] ar y tŷ yn barnu pobl y wlâd.

6 A'r rhan arall o hanes Azariah, a'r hyn oll a'r a wnaeth efe: onid ydynt hwy yn scri∣fennedic yn llyfr Cronicl brenhinoedd Iuda؛

7 Ac Azariah a hunodd gyd ai dadau, a chladdasant ef gyd ai henafiaid yn ninas Da∣fydd: ac Iotham ei fab ef a deyrnasodd yn ei lê ef.

8 Yn y drydedd flwyddyn ar bymthec ar hugain i Azariah frenin Iuda: y teyrnasodd Zacharia mab Ieroboam ar Israel yn Sama∣ria chwe mîs.

9 Ac efe a wnaeth yr hyn oedd ddrwg yng∣olwg yr Arglwydd, megis y gwnaethe ei da∣dau ef: ni thrôdd efe oddi wrth bechodau Ieroboam mab Nabat [drwy] y rhai y gwna∣ethe

Page [unnumbered]

efe i Israel bechu.

10 A Salum mab Iabes a frad-fwyiadodd yn ei erbyn ef, ac ai tarawodd ef ger bron y bobl, ac ai lladdood ef: ac a deyrnasodd yn ei lè ef.

11 A'r rhan arall o hanes Zacharia: wele hwynt yn scrifennedic yn llyfr Cronicl bren∣hinoedd Israel.

12 Dymma air yr Arglwydd yr hwn a le∣farase efe wrth Iehu gan ddywedyd, meibion y bedwaredd genhedlaeth i ti a eisteddant ar or∣seddfa Israel: ac felly y bu.

13 Salum mab Iabes a deyrnasodd yn y bedwaredd flwyddyn ar bymthec ar hugain i Vzziah brenln Iuna: a mis cyfan y teyrnasodd efe yn Samarid.

14 Canys Menahem mab Gadi a aeth i fy∣nu o Thirsa, ac a ddaethi Samaria, at a dara∣wodd Salum fab Iabes yn Samaria: ac ai lladdodd ef, teyrnasodd hefyd yn ei lê ef.

15 A'r rhan arall o hanes Salum, ai frad∣wiaeth ef [drwy] 'r hon y brad-fwriadodd efe: wele hwynt yn scrifennnedic yn llyfr Cronicl brenhinoedd Israel.

16 Yna Menahem a darawodd Thipsah, a'r rhai oll [oeddynt] ynddi, ai therfynau o Thirsa allan, o herwydd nad agorwyd [iddo ef,] am hynny y tarawodd efe hi, ai holl wragedd beichi∣ogion a rmygodd efe.

17 O'r bedwaredd flwyddyn ar bymthec ar hugain i Azariah wenin Iuda, y teyrnasodd Menahem mah Gadi ar Israel ddeng-mhly∣nedd yn Samaria.

18 Ac efe a wnaeth yr hyn oedd ddrwg yng∣olwg yr Arglwydd: ni thrôdd oddi wrth becho∣dau Ieroboam mab Nabat [drwy] y rhai y gwnaethe efe i Israel bechu [yn] ei holl ddy∣ddiau.

19 A Phul brenin Assyria a ddaeth yn erbyn y wlâd, a Menahem a roddodd i Phul fil o da∣lentau arian: fel y bydde ei law gyd ag ef, i sic∣crhau y frenhiniaeth yn ei law ef.

20 A Menahem a drethodd arian ar Israel, [sef] ar yr holl rai cedyrn o allu, drwy roddi o bob vn i frenin Assvria ddec sicl a deugain o ari∣an: felly brenin Assyria a ddychwelodd, ac nid arhosodd yno yn y wlâd.

21 A'r rhan arall a hanes Menahem, a'r hyn oll a'r a wnaeth efe: onid ydynt hwy yn scrifen∣nedic yn llyfr Cronicl brenhinnoedd Israe؛

22 A Menahem a hunodd gyd ai dadau: a Phecahia ei fab ef a deyrnasodd yn ei lê ef.

23 O'r ddecfed flwyddyn a deugain i Aza∣ria brenin Iuda, y teyrnasodd Pecahia mab Menahent ar Israel yn Samaria ddwy fly∣nedd.

24 Ac efe a wnaeth yr hyn oedd ddrwg yng∣olwg yr Arglwydd: ni thrôdd efe oddi wrth be∣chodau Ieroboam mab Nabat [drwy] y rhai y gwnaeth efe i Israel bechu.

25 A Pheca mab Remaliabu ei dywysog ef a frad-fwriadodd yn ei erbyn ef, ac ai tara∣wodd ef yn Samaria yn llŷs y brenin gyd ag Argob, ag Arieth a deng-wr a deugain o feibi∣on y Gileadiaid: felly efe ai lladodd ef, ac a deyr∣nasodd yn ei lê ef.

26 A'r rhan arall o hanes Pecahia, a'r hyn oll a wnaeth efe: wele hwynt yn scrifennedic yn llyfr Cronicl brenhinoedd Israel.

27 O'r ddeuddecfed flwyddyn a deugain i Azaria brenin Iuda, y teyrnasodd Peca mab Remaliahu ar Israel yn Samaria vgain mhly∣nedd.

28 Ac efe a wnaeth yr hyn oedd ddrwg yng∣olwg yr Arglwydd: ni throdd efe oddi wrth be∣chodau Ieroboam mab Nabar [drwy] y rhai y gwnaeth efe i Israel bechu.

29 Yn nyddiau Peca brenin Israel y daeth Tiglath peleser brenin Assyria, ac a ennillodd Iion, ac Abel, Bethmaacha, ac Ianoab, Cedes hefyd, a Dazor, Gilead hefyd, a Galilee [a] holl wlâd Nephthali: ac a gaeth-gludodd eu [trigo∣lion] i Assyria.

30 A Dosca mab Elah, a frad-fwriadodd fradwriaeth yn erbyn Peca mab Remaliahu, ac ai tarawodd ef, ac ai lladdodd ef, ac efe a deyr∣nasodd yn ei lê ef: yn yr vgainfed flwyddyn i Iotham fab Uzzia.

31 A'r rhan arall o hanes Peca, a'r hyn oll a wnaeth efe: wele hwynt yn scrifennedic yn llyfr Cronicl brenhinoedd Israel.

32 Yn yr ail flwyddyn i Peca fab Remalia∣hu brenin Israel: y dechreuodd Iotham mab Vzziah brenin Iuda deyrnasu.

33 Mab pum mlwydd ar hugain oedd efe pan ddechreuodd efe deyrnasu, ac vn mlynedd ar bymthec y teyrnasodd efe yn Ierusalem: ac enw ei fam ef [oedd] Ierusa merch Zadoc.

34 Ac efe a wnaeth yr hyn oedd inion yng∣olwg yr Arglwyddd: ynôl yr hyn oll a'r a wnel∣se Vzziah ei dad ef.

35 Er hynny ni thynnwyd ymmaith yr v∣chelfeudd, y bobl oeddynt etto yn aberthu, ac yn arogl-darthu mewn vchelfeudd: efe a adailad∣odd y porth vchaf i dŷ 'r Arglwydd.

36 A'r rhan arall o hanes Iotham, a'r hyn oll a wnaeth efe: onid ydynt hwy yn scrifenne∣dic yn llyfr Cronicl brenhinoedd Iuda؛

37 Yn y dyddiau hynny y dechreuodd yr Ar∣glwydd anfon yn erbyn Iuda Rezin brenin Syria: a Pheca mab Remaliahu.

38 Ac Iotham a hunodd gyd ai dadau, ac a gladdwyd gyd ai henafiaid yn ninas Dafydd ei dad: ac Abaz ei fab ef a deyrnasodd yn ei lê ef.

Notes

Do you have questions about this content? Need to report a problem? Please contact us.