gollwng y bachgen gŷd a mi, ninneu a gy∣fodwn, ac a awn ymmaith, fel y byddom byw, ac na byddom feirw: yn gystal nyni, a thithe, a'n plant ni.
9 Myfi a feichniaf [am dano] ef, o'm llaw i y gofynni ef, onis dygaf ef attat ti, ai osod ef ger dy fron di, yna y byddaf euog i'th erbyn byth.
10 Canys pe na bussem hwyrfrydic daeth∣em eilchwael ymma ddwy waith bellach.
11 Yna Israel eu tád hwynt a ddywedodd wrthynt, Os felly, gwnewch hyn: cymmerwch o ffrwythau canmoladwy y wlad yn eich llestri a dygwch yn anrheg i'r gŵr, ychydic balm, ac ychydic fêl, llyssiau, a myrh, enau, ac almonau.
12 Cymerwch hefyd ddau cymmeint o ari∣an grd a chwi, a dygwch eilwaith gyd achwi yr arian, y rhai a roddwyd trachefn yng-enau eich sachau chwi: ouid odid amryfusedd [fu] hynny.
13 Hefyd cymmerwch eich brawd, a chyfod∣wch ewch eilwaith at y gŵr.
14 A Duw oll alluog a roddo i chwi drug∣aredd ger bron y gwr, fel y gollyngo i chwi eich brawd arall, a Beniamin: minne fel i'm diblantwyd a ddiblentir.
15 Felly y gwyr a gymmerasant yr anrheg honno, a chymmerasant arian yn ddwbl yn eu Ilaw hwynt, a Beniamin [hefyd] a chyfodasant, ac aethant i wared i'r Aipht, a safasant, ger bron Ioseph.
16 Yna Ioseph a ganfu Beniamin gyd a hwynt, ac a ddywedodd wrth yr hwn [oedd ol∣y gwr]ar ei dŷ ef, dŵg y gwyr i'r tŷ a lladd ladd∣fa, ac arlwya: o blegit y gwyr a gânt fwytta gyd a'm fi ar hanner dydd.
17 A'r gŵr a wnaeth fel y dywedodd Ioseph: o blegit y gŵr a ddûg y dynion i dŷ Ioseph.
18 A'r dynion a ofnasant, pan ddycpwyd hwynt i dŷ Ioseph, ac a ddywedasant, o blegit yr arian (y rhai a roddwyd eilwaith yn êin sach∣au ni yn y dechreuad) y dycpwyd nyni i mewn: i ymdreiglo arnom ni ac i ruthro inni, ac i'n cymmeryd ni yn gaethion, a'n hassynod hefyd.
19 Yna y nesasaut at y gŵr 'r hwn[oedd ol∣ygwr] ar dŷ Ioseph, ac a lefarasant wrtho, wrth ddrws y tŷ.
20 Ac a ddywedasant [gwrando] arnaf fy arglwydd, gan ddescyn y descynnasom yn y dechreuad, i brynnu llyniaeth.
21 A bu pan ddaethom i'r llettŷ, ac agoryd ein sachau, yna wele arian pob vn ym mîn ei sach ef: ein harian ni [meddaf] yn ei bwys, ond ni ai dygasom elwaith yn ein llaw.
22 Dygasom hefyd arian arall i wared yn ein llaw, i brynnu llyniaeth: nis gwyddom pwy a osododd em harian ni yn ein ffettanau.
23 Yntef a ddywedodd heddwch iwch: nac ofnwch, eich Duw chwi, a Duw eich tâd chwi, a roddes i chwi dresor yn eich sachau: daeth eich arian chwi attafi, ac efe a ddûg Simeon allan attynt hwy.
24 Felly y gŵr a ddûg y dynion i dŷ Ioseph, ac a roddes ddwfr fel y golchent eu traed, ac a roddes ebran iw hassynod hwynt.
25 Hwythau a ddarparasant eu hanrheg, erbyn dyfod Ioseph ar hanner dydd: o blegit clywsent mai yno y bwyttaent fwyd.
26 Pan ddaeth Ioseph i'r tŷ, hwythau a ddy∣gasant iddo ef yr anrheg yr hon [oedd] ganddynt i'r tŷ, ac a ymgrymmasant iddo ef hyd lawr.
27 Yntef a ofynoodd iddynt am eu hiechyd hwynt, ac a ddywedodd, ai iach yr hen-wr eich tâd chwi, 'r hwn'y sonniasoch [am danaw؛] ai bwy ef etto؛
28 Hwythau a ddywedasant iach yw dy wâs, ein tâd ni, byw [yw] efe etto: yna yr ym∣grymmasant, ac yr ymostyngasant.
29 Yntef a dderchafodd ei lygaid, ac a ganfit ei frawd Beniamin, mâb ei fam ei hun, ac a ddywedodd: ai dymma eich brawd iangaf chwi am yr hawn y dywedasoch wrthif fi؛ yna y dyw∣edodd, Duw a roddo grâs iti fy mâb.
30 Ar hynny Ioseph a fryssiodd (o blegit cynhessase ei ymyscaroedd ef tu ag at ei frawd) ac a geisiodd [le] i wylo, ac a aeth i mewn i'r stafell, ac a wylodd yno.
31 Gwedi hynny [efe] a olchodd ei wyneb, ac a ddaeth allan, ac ai ymattaliodd ei hun, ac a ddywedodd gosodwch fwyd.
32 Hwythau a osodasant [fwyd] iddo ef wr∣tho ei hun, ac iddynt hwy wrthynt eu hun ac i'r Aiphtiaid y rhai oeddynt yn bwyta gyd ag ef wr∣thynt eu hunain: o blegit ni alle 'r Aiphti∣aid fwytta bwyd gyd a'r Hebreaid, o herwydd ffieidd-dra oedd hynny gan yr Aiphtiaid.
33 Yna 'r eisteddasant ger ei fron ef, y cyntafanedic, yn ol ei gyntafanedigaeth: a'r ieuan∣gaf ar ol ei ieuenctyd ef, a rhyfeddodd y gwŷr bob vn wtth ei gilydd.
34 Yntef a gymmerodd seigiau oddi ger ei fron ei hun iddynt hwy, a mwy ydoedd saig Beniamin o bum rhan nai seigiau hwynt oll: felly 'r yfasant, ac y gwleddasant gyd ag ef.