15 Canys nid yw y rhai hyn yn feddwon fel yr ydych chwi yn tybied, o blegit y drydedd awr o'r dydd yw hi.
16 Eithr dymma y peth a ddywetpwyd trwy y prophwyd Ioel:
17 Ac fe fydd yn y dyddiau diweddaf (medd Duw) y tywalltaf o'm Hyspryd ar bob cnawd, a'ch meibion a'ch merched a brophwydant, a'ch gwŷr ieuaingc a welant weledigaethau, a'ch hynaf-gwŷr a freuddwydiant freuddwydion.
18 Ac ar fyng-weision, ac ar fy llaw-forwy∣nion y tywalltaf o'm Hyspryd yn y dyddiau hynny, a hwy a brophwydant.
19 Ac mi a roddaf ryfeddodau yn y nef vch∣od, ac arwyddion yn y ddaiar i fod, gwaed, a thân, a tharth mwg.
20 Yr haul a droir yn dywyllwch, a'r lloer yn waed, cyn i ddydd mawr ac eglur yr Arglw∣ydd ddyfod.
21 A bydd: pwy bynnag a alwo ar enw yr Arglwydd fydd yn gadwedic.
22 Ha wŷr Israel, clywch y geiriau hyn, Ie∣su hwnnw o Nazareth gŵr profedic gan Dduw yn eich plith trwy weithredoedd nerthol, a rhy∣feddodau, ac arwyddion, y rhai a wnaeth Duw trwyddo ef yn eich mysc chwi, fel y gwyddoch chwi,
23 Hwn wedi ei roddi trwy derfynedic gyngor a rhagŵybodaeth Duw, a gymmera∣soch chwi: ac wedi i chwi trwy ddwylo anwir ei hoelio, a laddasoch chwi.
24 Yr hwn a gyfodes Duw i fynu gan ry∣ddhau gofidiau angeu, canys amhossibl oedd i hwnnw ei attal ef.
25 O blegit Dafydd a ddywed am dano: yr Arglwydd a welais ger fy mron yn oestad: sef ar fy nehaulaw y mae fel na'm yscoger.
26 Am hynny y llawenhâodd fyng-halon, ac y gorfoleddodd fy nhafod, ac y gorphywys fyng-nhawd hefyd mewn gobaith:
27 Am na adewi fy enaid yn vffern, ac na oddefi i'th Sanct weled llygredigaeth.
28 Gwnaethost yn hyspys i mi ffyrdd y by∣wyd: Ti a'm cyflawni o lawenydd â'th wyneb∣[pryd.]
29 Ha wŷr frodyr, mi a gaf yn hyf ddywedyd wrthych am y patriarch Dafydd, ei farw ef, a'i gladdu, a bod ei feddrod gyd â ni hyd y dydd heddyw.
30 Am hynny ac efe yn brophwyd, ac yn gŵybod dyngu o Dduw lw, mai o ffrwyth ei lwyn ef o herwydd y cnawd y cyfode efe Grist i eistedd ar ei orseddfa ef,
31 Ac efe yn gŵybod o'r blaen a ddywedodd am gyfodiad Crist: na adawsid ei enaid yn vffern, ac na welse ei gnawd lygredigaeth:
32 Yr Iesu hwn a gyfododd Duw i fynu, i'r hyn yr ydym ni oll yn dystion.
33 Gan ei gyfodi ef fel hyn drwy ddehau∣law Dduw, ac iddo dderbyn gan y Tad yr adde∣wid am yr Yspryd glân, efe a dywalltodd yr hyn ymma a welwch, ac a glywch y pryd hyn.
34 O blegit ni dderchafodd Dafydd i'r ne∣foedd, ond y mae efe yn dywedyd ei hun, yr Ar∣glwydd a ddywedodd wrth fy Arglwydd, ei∣stedd ar fy neheu-law,
35 Oni osodwyf dy elynion yn droed-faingc i'th draed.
36 Am hynny gwybydded holl dŷ Israel yn ddiogel ddarfod i Dduw ei wneuthur ef yn Ar∣glwydd, ac yn Grist, sef yr Iesu hwn a groes∣hoeliasoch chwi.
37 Wedi clywed y geiriau hyn y cydbigid hwy yn eu calonnau, ac y dywedâsant wrth Petr, a'r apostolion eraill, ha wŷr frodyr, beth a wnawn ni؛
38 Yna y dywedodd Petr wrthynt: edifar∣hewch, a bedyddier pawb o honoch yn enw yr Iesu Grist er maddeuant pechodau, a chwi a dderbyniwch ddawn yr Yspryd glân.
39 Canys i chwi y mae yr addewid, ac i'ch plant, i bawb ym mhell, pa rai hynnac a alwo yr Arglwydd ein Duw ni.
40 Ac â llawer o ymadroddion eraill y te∣stiolaethodd ac y cynghorodd, gan ddywedyd, ymgedwch rhag y genhedlaeth anhydyn hon.
41 Am hynny y rhai a dderbyniasant yn e∣wyllyscar ei air ef, a fedyddiwyd, a chwan∣negwyd at [yr Eglwys] y dydd hwnnw yng∣hylch tair mil o eneidiau.
42 Ac yr oeddynt yn parhau yn athrawiaeth yr apostolion, â chymdeithas, ac yn torri bara, ac mewn gweddiau.
43 Ac ofn a gyfodes ar bawb, a llawer o ry∣feddodau ac arwyddion a wnaethpwyd gan yr apostolion.
44 A phawb a'r a gredâsant oeddynt yn vn lle, a phob peth ganddynt yn gyffredin.
45 Ac hwy a werthâsant eu meddiannau, a'u da, ac a'u rhannasant i bawb, fel yr oedd yr eisieu ar neb.
46 Ac yr oeddynt yn parhau beunydd yn y Deml yn gytun, gan dorri bara o dŷ i dŷ, a chan gymmeryd bwyd mewn llawenydd, a symledd calon:
47 Gan foli Duw, a chael ffafor gan yr holl bobl, a'r Arglwydd a chwanegodd at yr Egl∣wys beunydd y rhai fyddent gadwedig.