y gofynnasant iddo gan ddywedyd: Arglwydd ai 'r pryd hyn y rhoddi trachefn y frenhiniaeth i Israel؛
7 Ac efe a ddywedodd wrthynt, ni pher∣thyn i chwi ŵybod yr amseroedd na'r prydiau y rhai a osodes y Tad yn ei feddiant ei hun.
8 Eithr chwi a dderbynniwch rinwedd yr Yspryd glân, wedi y delo efe arnoch: a chwi a fyddwch dystion i mi yn Ierusalem, ac yn holl Iudaea, a Samaria ac hyd eithafoedd y ddaiar.
9 Ac wedi iddo ddywedyd hyn, a hwyntwy yn edrych, y cyfodwyd ef i fynu, ac wybren a'i cymmerodd ef i fynu o'u golwg hwy.
10 Ac fel yr oeddynt yn tremmu yn graff tu a'r nef ac efe yn myned, wele, dau ŵr a safasant ger llaw iddynt mewn gwisc wenn.
11 Y rhai a ddywedasant: chwi wŷr o Gali∣laea, pa ham y sefwch yn edrych tu a'r nef؛ yr Ie∣su hwn, yr hwn a gymmerwyd i fynu oddi wrth∣ych i'r nef, a ddaw yr vn modd ac y gwelsoch ef yn myned i'r nef. ☜
12 Yna y troesant i Ierusalem o'r mynydd a elwir [mynydd] Olewydd yr hwn sydd yn a∣gos i Ierusalem, sef taith [diwrnod] Sabboth.
13 Ac wedi dyfod i mewn, yr aethant i'r llofft lle yr oeddynt hwy yn aros, sef Petr, ac Iaco, ac Ioan, ac Andreas, Philip a Thomas, Bartho∣lomew a Mathew, Iaco [mab] Alpheus, a Si∣mon Zelotes, ac Iudas [brawd] Iaco.
14 A'r rhai hyn oll yn gytunol oeddynt yn parhau mewn gweddi ac ymbil, yng-hyd â'r gwragedd, ac â Mair mam Iesu, a chyd â'i fro∣dyr ef.
☞ 15 A'r dyddiau hynny Petr yn cyfodi i fy∣nu yng-hanol y discyblion a ddywedodd (ac yr oedd o rifedi pobl yn yr vn lle yng-hylch vgain [a] chant)
16 Ha wŷr, frodyr, yr oedd yn rhaid cyflawni yr scrythur ymma, yr hon y rhagddywedodd yr Yspryd glân trwy enau Dafydd am Iudas, yr hwn a fu flaenor i'r rhai a ddaliasant yr Iesu,
17 Canys cyfrifwyd ef yn ein plith ni, ac efe a gawse rann o'r weinidogaeth hon.
18 Ac efe a feddiannodd faes gobrwy anwi∣redd, ac wedi ymgrogi efe a dorrodd yn ddwy∣ran yn ei ganol, a'i holl ymyscaroedd a dywallt∣wyd allan.
19 Ac y mae hyn yn eglur i holl bresswyl∣wŷr Ierusalem, hyd oni elwir y maes hwn, â'u tafod priodol hwy, Aceldama, hyn yw, maes y gwaed.
20 Canys scrifennedic yw yn llyfr y Psal∣mau, bydded ei drigfan ef yn ddiffaethwch, ac na bydded a drigo ynddi, a chymmered arall ei escobaeth ef.
21 Am hynny y mae yn rhaid (o'r gwŷr a fu yn ein cymdeithas ni yr holl amser yr aeth yr Arglwydd Iesu i mewn ac allan yn ein plith ni,
22 Gan ddechreu o fedydd Ioan, hyd y dydd yn yr hwn y cymmerwyd ef i fynu oddi wrth∣ym ni) bod vn gyd â ni yn dyst o'r ailgyfodiad ef,
23 Ac hwy a osodasant ddau ger bron, Io∣seph yr hwn a henwid Bersabas ac a gyfenwid Iustus, a Matthias.
24 A chan weddio hwy a ddywedasant: Ty∣di Arglwydd yr hwn a ŵyddost galōnau pawb, dangos pavn o'r ddau hyn a etholaist,
25 I dderbyn swydd y weinidogaeth hon, a'r Apostoliaeth o'r hon y cyfeiliornodd Iudas, i fyned iw le ei hun.
26 Ac hwy a fwriasant goel-brennau, ac ar Matthias y syrthiodd y coel-bren, ac efe a gy∣frifwyd gyd â'r vn Apostl ar ddêc. ☜