PEN. X.
Crist yn atteb y Pharisæaid am yscar 13 Yn derbyn plāt, yn atteb y golludog am etifeddu teyrnas nef, 28 Ai ddiscyblion hefyd 33 I ba rai y mae yn prophwy∣do am ei ddioddefaint. 35 Yn atteb meibion Zebe∣deus. 46 Ac yn rhoi ei olwg i Bartimaeus.
AC efe a gyfododd oddi yno, ac a aeth i du∣eddau Iudaea trwy 'r tu hwnt i'r Iorddo∣nē, a'r dyrfa a dynnodd trachefn ato: ac yntef fel yr arfere a'n dyscodd hwynt trachefn.
2 Yna y daeth y Pharisæaid, ac a ofynnasant iddo: a oedd rydd i ŵr roi ymmaith ei wraig, gan ei demtio ef.
3 Yntef a attebodd gan ddywedyd wrthynt: beth a orchymynnodd, Moses i chwi؛
4 A hwynt hwy a ddywedasant, Moses a ganiataodd roi llythr yscar, a'i gollwng hi ym∣maith.
5 Yna 'r attebodd yr Iesu, ac a ddywedodd wrthynt: o achos caledrwydd eich calōnau yr scrifennodd efe i chwi y gorchymyn hwnnw:
6 O ddechreuad creadigaeth, yn wryw a benyw y gwnaeth Duw hwynt.
7 Am hynny y gâd dŷn ei dad a'i fam, ac y glŷn wrth ei wraig:
8 A hwynt ill dau fyddant vn cnawd, ac felly nid ynt mwy ddau, ond vn cnawd.
9 Am hynny y peth a gydiodd Duw, na wahaned dŷn.
10 Ac yn tŷ trachefn y gofynnodd ei ddis∣cyblion iddo am yr vn peth.
11 Ac efe a ddywedodd wrthynt: pwy byn∣nag a ddyru ymmaith ei wraig, ac a brioda vn arall, y mae yn torri priôdas â hi.
12 Ac os gwraig a ddyru ymmaith ei gŵr, a phriodi vn arall, y mae hi yn torri priodas.
13 Ac hwy a ddugasant blant atto, fel y cy∣ffyrdde efe â hwynt: a'r discyblion a geryddent y rhai a'u dugase hwynt.
14 A'r Iesu pan welodd hynny fu anfodlon, ac a ddywedodd wrthynt: gedwch i blāt ddyfod attafi, ac na waherddwch hwynt: canys i'r cy∣fryw y perthyn teyrnas nefoedd.
15 Yn wir meddaf i chwi: pwy bynnag ni dderbynio deyrnas Dduw fel plentyn nid aiff i mewn iddi.
16 Ac efe a'u cofleidiodd hwynt, ac a roddes [ei] ddwy lo arnynt, ac a'u bendithiodd.
17 Ac wedi iddo fyned i'r ffordd, y rhedodd vn ac a ostyng odd iddo, ac a ofynnoddiddo: ô A∣thro da, beth a wnaf i gael meddiannu bywyd tragywyddol ؛
18 Yr Iesu a ddywedodd wrtho, pa ham y gelwi fi yn dda, nid oes neb da ond vn sef Duw.
19 Ti a ŵyddost y gorchymynnion, na odi∣neba, na lâdd. Na letrata. Na cham destiolaetha Na wna niwed: Anrhydedda dy dad a'th fam.
20 Yntef a attebodd, ac a ddywedodd wrtho: Athro, hyn oll a gedwais o'm hieuengtid.
21 Yr Iesu gan edrych arno a'i hoffodd, ac a ddywedodd wrtho, vn peth sydd ddiffygiol i ti: dos a gwerth yr eiddot oll, a dod i'r tlodion, a thi a gei dryssor yn y nef, a thyret i'm dilyn i, a dwg dy groes.
22 Eithr efe a dristaodd wrth yr ymadrodd hwn, ac a aeth ymmaith yn athrist: canys yr oedd ganddo gyfoeth mawr.
23 A'r Iesu wedi edrych o'i amgylch, a ddy∣wedodd wrth ei ddiscybliō: mor anhawdd yr aiff y rhai y mae golud ganddynt i deyrnas Dduw؛