Page [unnumbered]
Domine Deus in te speraui. Psal. vij.
ARglwydd fy Nuw, ynot yr ymddyriedais: achub fi rhag fy holl erlid-wŷr, a gwaret fi.
2 Rhag iddo larpio fy enaid fel llew: gan ei rwy∣go, pryd na byddo gwaredudd.
3 Fy Arglwydd Dduw os gwneuthum hyn, od oes anwiredd yn fy nwylaw:
4 O thêlais ddrwg i'r neb oedd heddychol â mi: oni waredais y rhai a'm gwrthwynebent heb a∣chos:
5 Erlidied y gelyn fy enaid, a goddiwedded fi: sa∣thred hefyd fy mywyd i'r llawr, a gosoded fyng-ogo∣niant i drigo yn y llŵch. Selah.
6 Cyfot Arglwydd yn dy ddigllonedd, ymdder∣cha o herwydd llid fyng-elynnion: deffro hefyd dro∣sof yn y farn a orchymynnaist.
7 Felly cynnulleidfa y bobloedd ath amgylchy∣nant: er eu mwyn dychwel dithe i'r vchelder.
8 Yr Arglwydd a farn y bobloedd: barna di fi ô Arglwydd yn ôl fyng-hyfiawnder, ac yn ôl fy mher∣ffeithrwydd sydd ynof.
9 Darfydded weithian anwiredd yr annuwoli∣on, eithr cyfarwydda di y cyfiawn: canys y Duw cyfiawn a chwilia y calonnau, a'r arennau.
10 Fy amddeffyn sydd yn Nuw, iachawdur y rhai iniawn o galon.
11 Duw sydd farnudd cyfiawn, a Duw sydd ddigllon beunydd wrth yr annuwiol.
12 Oni ddychwel yr annuwiol, efe a hôga ei gleddyf, efe a annelodd ei fŵa, ac a'i paratôdd.
13 Paratôdd efe hefyd iddo arfau anghefol, efe a weithiodd ei saethau yn erbyn yr erlid-wŷr.
14 Wele efe a ymddwg anwiredd, canys bei∣chiogodd ar gamwedd, ac efe a escor ar gelwydd.
15 Cloddiodd bwll, trychodd ef, syrthiodd hefyd