Exurgat Deus. Psal. lxviij.
CYfoded Duw a gwascerir ei elynion:* 1.1 ffoed ei gaseion o'i flaen ef.
2 Chweli hwynt fel chwalu mŵg: fel y tawdd cŵyr wrth y tân difether y rhai annuwiol o flaen Duw.
3 Ond llawenycher y rhai cyfiawn, a gorfoledd∣ant ger bron Duw: a byddant hyfryd o lawenydd.
4 Cenwch i Dduw, can-molwch ei enw, derchef∣wch yr hwn sydd yn marchogeth ar y nefoedd, yr Ar∣glwydd yw ei enw: gorfoleddwch ger ei fron ef.
5 Tâd yr ymddifaid, a barn-wr y gweddwon yw Duw yn ei bresswylfa sanctaidd.
6 Duw sydd yn gosod rhai i fod yn gydtun mewn tŷ, ac yn dwyn allan y rhai a rwymwyd mewn ge∣fynnau: ond y rhai cyndyn a bresswyliant gras-dir.
7 Pan aethost ô Dduw o flaen dy bobl: pan ger∣ddaist trwy yr anialwch, Selah.
8 Y ddaiar a grynodd, a'r nefoedd a ddiferâsant o flaen Duw: felly Sinai yntef o flaen Duw, sef Duw Israel.
9 Dihidlaist law graslawn ô Dduw ar dy etife∣ddiaeth: ti a'i gwrteithiaist wedi ei blîno.
10 Dy gynnulleidfa di sydd yn trigo ynddi, yn dy ddaioni ô Dduw yr wyt yn darparu i'r tlawd.
11 Yr Arglwydd a roddes y gair, mawr oedd min∣tai y rhai a bregethent.